Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 00X1. GORPHENAF, 1864. [Llypr XVIII. '&tütfyo'bm. Y BEDYDD CRISTIONOGOL. GAN Y PARCH. D. SAUNDERS, LIYERPOOL. LLYTHTB I. SYLWADAU ARWEINIOL. Anwyl Gyfaill,— Yr ydych wedi ceisio genyf roddi, mewn ychydig lyth- yrau, fy syniadau ar Fedydd Cristion- ogol. Ar äderbyniad eich cais, teimlwn yn dra anmharod i gydsynio. Yn un peth, o herwydd fod cymaint eisoes wedi ei ysgrifenu ar y testun hwn o bob ochr,—llawn ddigon mewn cyfar- taledd i'w bwysigrwydd. Ac nid oedd- wn innau yn cofío fy mod wedi gwneyd unrhyw ddarganfyddiad arno erioed, fel fel nad oedd genyf ddim newydd i'w ychwanegu. Heblaw hyny, y mae yr ymdriniaeth â'r pwnc wedi ymlygru i gecraeth mor waradwyddus, a'r ddadl wedi ymddarostwng i fod mor gywil- yddus o bersonol, nes y mae wedi myn- ed yn fiinder i bob teimlad boneddig- aidd, ac yn achos gofid dwys i bob cristion duwiolfrydig sydd yn gwybod "pethau trymaf" ei grefydd, ac yn dy- heu am weled eu llwyddiant yn y byd. Am danaf fy hun, gallaf ddyweyd fod y mynych a'r gwael ddadleuon sydd wedi bod ar y pwnc o bryd i'w gilydd yn Nghymru wedi fy ngyru oddiwrtho, fel nad oeddwn wedi talu, hwyrach, y sylw dyladwy iddo. Heblaw yr argraffiadau a dderbyniwn trwy ddarÜen cyffredinol, nis gallaf ddywedyd fod genyf farn ag oedd gynnyrch ymchwiliad uniongyrch- ol. Ôwn eich bod chwi yn rhy gall i synu am beth fel hyn, ac am hyny gallaf anturio i ddyweyd fod aneirif gwestiynau yn aros eto i mi gael amser a chyfleusderau i wneyd ymchwiliad iddynt, cyn y gallaf ddyweyd fod genyf ddim yn deilwng i'w alw yn farn arnynt. Hwyrach y gwna rhywrai gwirion ein be'io am weithredu mewn dim heb farn benderfynol a sefydlog ar y pwnc; ond pe byddai raid i ni ymattal rhag gweithredu mewn dim nes y byddai genym farn, nis gwn beth a ddeuai o'r byd. Bid eicr, fe ddylai dyn bob amser fod yn gydwybodol hyd ag y mae yn gweled, er nad ydyw yn gweled ymhell. Ond rhag i chwi gamgymeryd, rhaid i mi ddilyn esiampl cyfaill adnabyddus i ni eill dau, yr hwn sydd yn dra thu- eddol i gwyno a gosod arno ei hun mewn ymddyddan, hyd nes y gwelo barodrwydd yn y neb yr ymddyddano â hwynt i'w gredu, gan ei gymeryd ar ei air. Os cenfydd duedd felly, ni fydd yn caru i'r gyfrinach ddarfod cyn iddo gael cyflëusdra i awgrymu fod rhagor- ìaethau pwysig yn guddiedig ynddo ef, er y gwendidau bychain y mae ŷn cwyno rhagddynt. Felly peidiwch chwithau a meddwl, o herwydd y cyfaddefìadau uchod, fy mod yn Derffaith ddwl ac an- wybodus ar y testun hwn. Os gwneir arferiad o ddarllen y BibL nis gall dyn beidio a dyfod i gyffyrddiad mynych â'r ordinhâd hon. Heblaw hyny, er nad oeddwn wedi ymgymeryd âg efrydu y