Skip to main content

Y DRYSORFA. Bhií. CCIX. MAI, 1864. [Llyfr XVIII. Mjtmfyoìsmi. GOSTYNGEIDDRWYDD. GAN Y PARCH. DAVID JONES, TREBORTH. PlîíNOD II. TR ANGHENRHETDRWYDD AM OSTYNGEIDDRWYDD. Wedi gosod allan yr hyn ydyw, gad- ewch i ni gymeryd golwg ar yr anghen- rheidrwydd sydd am ymdrwsio oddi- mewn â gostyngeiddrwydd. Heblaw ei fod yn ddymunol a gogoneddus, nis gellir ei hebgor. Ni ddichon ond y gos- tyngedig ymgymeryd â'r athrawiaeth- au sydd yn ol duwioldeb, ac awyddu am ufuddhâu i'r gorchymynion. Y gostyngedig sydd yn dygymmod â'r holl wirioneddau sydd yn y Gair sanctaidd, ac yn ymestyn am gyfìawni ei holí ddyledswyddau. Y mae gostyngeidd- rwydd i'r galon yn gyffelyb i iechyd i'r corff. Fel na ddichon dyn fwynhâu lluniaeth, na chyfiawni gorchwylion, heb iechyd, felly ni ddichon y galon fwyn- hâu athrawiaethau yr efengyl, nac ufuddhâu i'r gorchymynion, heb ostyng- eiddrwydd. Fel nas gall y ddaear yfed y gwlaw sydd yn mynych ddyfod arni, na dwyn llysiau cymhwys i'r rhai y llafurir hi ganddynt, heb feddu pridä tymherus, felly nis gall y galon dderbyn rhinwedd o wirioneddau dwyfol, na dwyn ffrwyth mewn ufudd-dod iddynt, ob na bydd wedi ei thrwsio â gostyng- eiddrwydd. Yr ysbryd hwn sydd yn falluogi dyn i dderbyn llesâd iddo ei un o eiriau Duw, ac sydd yn ei alluogi i fod o lesâd i eraill trwy fyw y gwir- ionedd. Yr ysbryd hwn a'n gwna fel pren ar làn yr afonydd dyfroedd, i sugno nôdd iddo ei hun, ac i roddi allan ffrwyth yn ei bryd ; neu fel yr ychain o dan y môr tawdd, yn agored i dderbyn dwfr i niewn, ac yn rhydd i'w ollwng allan i eraill. Balchder sydd chŵydd afiach ìnewn dyn, yn cau ei enau rhag ymborthi ar Fara y bywyd, ac yn anys- twytho ei gymmalau rhag piygu i redeg llwybr y gorchymynion. Mae ya ormod gŵr boneddig yn ei feddwl ei hun i dderbyn na gweithio ; tra mae y galon ostyngedig yn agor ei safn i Dduw ei llenwi, ac yn ystwyth i redeg yn ei ffyrdd. Y mae hi yn barod i gardota, ac yn barod i weithio. Y mae yn ym- hyfrydu mewn cael byw ar Dduw, ac yn Ilawenychu me^vn cael ufuddhâu i'w orchymynion. Gostyngeiddrwydd sydd yn ëangu y galon i dderbyn, ac am hyny y mae am redeg llwybr y gorchymynion. Iaith calon chwyddedig yw hon, "Clodd- io nis gaUaf, a chardota sydd gywilyddus genyf." Y mae ymdrwsio oddimewn â gostyng- eiddrwydd yn anghenrheidiol i allu cymeradwyo yr athrawiaethau dadgudd- iedig. Nis gall meddwl chwyddedig ddygymmod hyd yn nôd â gwirioneda syífaenol crefydd. "Yr ynfyd a ddy- wedodd yn ei galon, Nid oes un Duw." Mae naill ai yn ei wadu neu ynte yn dymuno na byddai yr un. Dymunai na byddai neb mwy nag ef ei hun. Mae yn gas ganddo Dduw; ni fyn feddwl am dano; nid yw Duw yn ei holl feddyliau