Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CCYIII. EBRILL, 1864. [Llyfr XVIX. límfyaìm. GOSTYNGEIDDRWYDD. GAN Y PARCH. DAVID JONE8, TREBORTH. PBNNOD I. PA BETH A PHA FATH YW GOSTYNGEIDDRWYDD. " Ymdrwsiwch oddimewn â gostyngeiddrwydd."—1 Pedr v. 5. Tsgrifenwyd yr epistol hwn gan yr Apostol Pedr at y dyeithriaid oeddynt ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Cap- padocia, Asia, a Bithynia, y rhai oedd- ynt o dan erlidigaethau tryinion ain wneuthur proffes o'r Arglwydd Iesu. Cyfarwyddai hwynt yn y cyfryw sef- yllfa brofedigaethus i ymostwng i hob dynol ordinhâd gyfreithlawn, ac mewn pethau a berthynent iddynt, heb gyf- yngu ar iawnderau cydwybod, gan gofio yn wastad y dylid ufuddhâu i Dduw yn fwy nag i ddynion. Calonogai hwynt i ddyoddef hyd yn nôd ar gam, oddiwrth aiampl Crist yn dyoddef, ac oddiwrth ddyben Duw yn yr orchwyliaeth hono tuag atynt, ynghyd a'r ystyriaeth hefyd o'r gwynfyd sydd yn y byd arall yn aros y rhai a ddyoddefant dros enw yr Arglwydd lesu yn y byd hwn. Cyn diweddu ei epistol, cyfarwyddai swydd- ogion ac aelodau yr eglwysi yn gyffred- inol i iawn ymddwyn tuag at eu gilydd, er eu hadeiladaeth a'u cysur. Cynghorai yr henuriaid ymlaenaf, ar gyfrif uchaf- iaeth eu swyddau, y rhai oeddynt yn gydhenuriaid â'r apostol ei hun, a chyd- gyfranogion o'r gogoniant a ddadguddid. Eu gwaith penodol oedd porthi y praidd a ymddiriedwyd dan eu gofal, gan eu ^Jgeilio, trwy fwrw golwg arnynt. Bhaid gwneuthur hyny o gariad atynt, ac nid oddiar au-ddybenion, ac mewn tra-arglwyddiaeth ; trwy ddylanwad esiampl dda, ac nid trwy nerth awdurdod swydd. Yn ddilynol cynghorai y rhai ieuainc i fod yn ostyngedig i'r henuriaid. Oblegid rhaid cadw lle o bobtu er mwyn tangneíedd. A rhan benodol yn perthyn i'r rhai ieuainc yw ymostwng i'r awdur- dod eglwysig. Dylid ystyried fod y swyddau yn yr eglwys o'drefniad Dwyf- ol, ac ymostwng iddynt yn ymostwng i Dduw ;—ufuddhâu i'r awdurdod am ei bod o osodiad Pen yr eglwys. Gwydd- om na ddichon fod trefn na chysur me\vn unrhyw gymdeithas heb ddal i fyny awdurdod; heb i'r aelodan ymostwng yn ufudd i'w rheolau. Amcan rheolau yw amddiffyn daioni y gymdeithas yn gyffredinol, gan ei chymhwyso i ateb ei dyben. Yr un modd y geliir dy wedyd am y gymdeithas eglwysig; y mae ym- ostwng i gydffurfio â rheolau Pen yr eglwys yn anghenrheidiol i'w daioni yn gyffredinol, er ei chymhwyso i ateb ei dyben pwysig yn y byd. Gan hyny mae gostyngeiddrwydd yn anghenrheid- iol i bob sefyllfa. Dylai pawb fod yn oetyngedig i'w gilydd. Nid yn unig yr aelodau cy- ffredin yn yr eglwys iod yn ostyngedig y naill i'r llalL ond y rhai ieuainc, a'r henuriaid hefyd, ymostwng i'w gilydd.