Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. OOVII MAWRTH, 1864. [Llyfr XVIII. ^raetjprìratt. DANIEL ROWLANDS, LLANGEITHO. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERTAWY. Llangeitho, Trefecca, Llangan, Bala, Panty celyn,—beth y w yr achos fod y fath wahaniaethdirfawrrhwng yr enwauuch- od a Llanybydder, Tresimwn, Llanddi- ddan, Bermo, a Phantysgallog ì Pentref- ydd bychain ydy w ein rhestr gyntaf i gyd, ond un. Y mae un o honynt yn dref; ond fe faddeua pob un o'i phreswylwyr sydd yn ddigon call i ddarllen y Drys- orfa, i ni am ddyweyd ei bod yn un o'r trefydd lleiaf a welsom erioed; ac eto y mae enwogrwydd yn perthyn iddi ag sydd yn taflu Ílawer man sydd yn ymífrostio mewn hanner can' mil o drigolion ymhell, bell, i'r cysgod. Pwy o'n darllenwyr yn y Gogledd a glybu erioed am Landdiddan ? Mewn maint, mewn tlysni a phrydferthwch, y mae yn rhagori yn anghymharol ar Langan ; ond yn y byd crefyddol, y mae y gwa- haniaeth yn troi yn ffafr yr olaf, ac y mae yn fwy na'r gwahaniaeth sydd yn y byd cyffredinol rhwng Llundain a Llanbedr Pont Stephan. Yr ydym ni yn meddwl am rywun wrth ysgrifenu y gair " Llanybydder," ac, O ddarllen- ydd dyfnddysg a synwyrgall, ni a'th neriwn i ddywedyd am bwy. Byddi dithau yn meddwl am rywun wrth ddarllen y gair " Llangeitho," ac ni a wyddoni am bwy heb ymholi. Y mae Llangeitho yn bentref mwy ei faint nag ambell un a allem enwi, ac yn gorwedd mewn dyffryn digon tlws ; ond y mae yn un o'r lleoedd mwyaf anghyr- haeddadwy ag^ y gwyddòm am danynt; ac ynawr, oddiar ddyfodiad i mcwn oes y rneilffyrdd, y mae ymron wedi myned allan o'r byd. Os nad ydym yn cam* synied, y mae pump ar hugain o filldir- oedd rhyngddo a'r railway statìon nesaf ato, tra nad oes yr un cerbyd cyhoeddus yn myned yn nês iddo na deng milldir; ac am y ffyrdd, y maent yn druenus—o leiaf, yr oeddynt f'elly pan y dyoddef- asom y boen o gael ein gyru ar hyd- ddynt ddiweddaf. Er yr holl anfan- teision yna, bu Llangeitho am flynydd- oedd lawer y canolbwynt crefyddol mwyaf yn y deyrnas. Fe allai nad yw yn ormod dywedyd nad oes un man yn holl Ynys Prydain a dderbyniodd gyn- nulliadau crefyddol mor fawrion o fis i fis, ac o flwyddyn i flwyddyn, am gynifer o flynyddoedd, â Llangeitho. Os yw manau yn cael eu cysegru trwy fod t}Tfäoedd yn dyfod ynghyd ynddynt i addoli, a'r Arglwydd ei hun yn cyfarfod â hwynt yno—os c}Tsegrir hwynt trwy fod dylanwadau yr Ysbryd Glân yn cael eu tywallt yn gawodydd hollorch- 1 fygol ar bregethwr a gwrandäwyr, nes ! y mae y cyntaf fel angelion Duw, a'r 1 olaf, wrth y miloedd, naill ai yn delwi \ gan ddychryn y farn a fydd, neu yn i cael eu gorlenwi gan lawenydd yn yr ; Ysbryd Glân ; naill ai yn llefain am j ymwared, neu yn llawenfloeddio yn y j rnwynhâd o'r ymwared hwnw—os mes- j urir y cysegredigaeth wrth nifer yr en- | eidiau a fendithir, a nerth y dylanwad- j au a deimlir.—meiddiwn ddywedyd. j nad oes un man ar wyneb y ddaear I sydd yn fwy cysegrédig na Llangeitho. Gosodir îlawer o bwys ar gael man | cyflèus i addoli ynddo. Rhaid iddo