Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCV.] IONAWR, 1864. [Llyfr XVIII. ISmfyoìm. Y TADAU METHODISTAIDD. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABERTAWY. SYLWADAU ÀRWEINIOL. bapyrau ar y testun uchod. Nid am nad yw yn destun ag y niae yn hoff gen- ym feddwl am dano—nid am nad ydym yn teimlo serch at, a gradd o ymffrost yn, y dynion sanctaidd ag yr ydym yn myned i ysgrifenu yn eu cylch—ac nid am nad ydym yn gwir fawrhâu yr hen enwad anwyl ag y darfu iddynt hwy trwy ras Duw fod yn offerynau i'w gychwyn. Cawsom ein magu yn ei fynwes, yno yr ydym wedi hyw hyd yn hyn, ac yno, os caniatâ Rhagluniaeth, yr ydym yn bwr- iadu hod hyd farw. Os gwel ein darllenydd yn dda, peidied a'n camddeall. Yr ydym yn teimlo dyddordeb yn ein testun. Y rheswm o'n hanner edifeirwch ein bod wedi ymgymeryd âg ef yw, yr anhawsder 1 gael dim newydd i'w ddywedyd yn ei gylch. Gallem wneuthur sylwadau o'r eiddom ein hunain, a dichon y byddai y sylwadau hyny yn newyddion "yn y ffordd o'u gosod"—ond y pethau y dys- gwyl ein darllenwyr am danynt yw ffeithiau; ac y mae yn bur anhawdd cael nyd 1 ddim ffeithiau ar y testun hwn nad ydynt eisoes yn adnabyddus i'r rhan amlaf o ddarllenwyr y Drysorfa. Heb- law hyny, byddwn yn fynych yn teimlo tuead ynom ein hunain, ac fe aUai y §wyr rhai o'n cyfeillion am rywbeth pur gyffelyb, i dybied fod y gwaith penodol ag y byddwn wedi ymgymeryd âg ef yn fwy anhawdd nag unrhyw orchwyl arall ar y ddaear. Yr ydym yn teimlo pwys ac anhawsder ein gwaith ein hunain, tra y mae eiddo ein cyfaill yn ymddangos i ni fel pe byddai yn ei wneuthur ei hun. Bydd rhai pregethwyr yn darllen y llin- ellau hyn, ac yn eu plith odid na bydd ambell un sydd yn awr ac eilwaith yn ceisio gwneuthur pregeth newydd. Fe ŵyr hwnw am rywbeth tebyg i'r teimlad yr ydym ni ynddo yn bresennol. Y mae wedi dewis testun. Fe allai iddo ddyfod i'w feddwl yn annysgwyliadwy, hwyr- ach wrth ddarllen, neu hwyraeh wrth wrando brawd yn pregethu ar destun ar- all. Mae wedi ei droi a'i drosi yn ei fedd- wl am rai oriau. Fe allai ei fod wedi darllenyr hyn y mae yr awd>vyr sydd o fewn i'w gyrhaedd yn ei ddywedyd yn ei gylch. Y mae ffurf y bregeth yn bur niwlog, fe allai, o flaen ei feddwl, ac y mae yn eistedd i lawr i'w hysgrifenu. Ond pa fodd i ddechreu ? Pa beth i'w osod ì lawr gyntaf ?^ Y mae yn destun an- hawdd ì gael dim newydd i draethu ar- no. Ymae amryw eraill yn ymgynnyg i'w feddwl ag y buasai yn llawer haws gwneuthur pregeth arnynt. Ond bell- ach nid gwiw newid. Y mae yr wyth- nos wedi myned ymhelL ac nid yw yntau yn hoflì cymeryd ei orchfygu gan rwystr-