Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCIII.] TACHWEDD, 1863. [Llyfr xvn. Ärotjpìmti. YR IESU YN GWEDDIO DROS EI ELYNION. GAN Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, ABERGELE. "A'r Iesu a ddywedodd, 0 Dad, maddeu iddynt."—Luc xxiü. 34. Gweddi yr Arglwydd Iesu ydyw y geir- iau hyn; ei weddi ddiweddaf—ei weddi ar y groes—ei weddi dros ei elynion. Mae rhywbeth dyddorol a chysegredig yn ngeiriau diweddaf pawb ; a phan y w yr ymadawedig yn ymwybodoi wrth lefaru ei fod yn ymadael â'r byd, yr ydym yn teimlo mw y o ddyddordeb yn ei eiriau, ac y maent yn fwy cysegredig genym; yr ydym yn gweled trwyddynt i'w deimladau, ac yn fynych yn darllen ynddynt ei dragywyddol dynghed ef. Mae y rhai a gollasant berthynas agos ac anwyl trwy angeu yn gwybod hyn yn dda. Mae geiriau diweddaf y fam yn aros eto yn eu cof, ac yn newydd, er fod blynyddoedd wedi myned heibio ; y maent wedi eu cuddio yn eu calon feí eu trysor penaf; y maent yn eu troi a'u trafod drachefn a thrachefn yn eu medd- wl, ac yn tynu oddiwrthynt fil o gasgl- iadau. Mae pob dyn yn ddiragrith wrth farw, ac yn ymddangos y peth ydyw. Y mae ei eiriau yn gosod allan ei feddwl. Y mae ffynnonell ei fywyd yn cael ei hagor, seliau ei galon yn cael eu tori, a'r teimladau cuddiedig yn dyfod yn amlwg. Mae llawer yn eu hawr ddiw- eddaf yn gwadu yr hyn a haerasant yn eu bywyd, ac yn dadwneyd mewn eiliad holl waith eu hoes. Mae eraill â llaw eu marwolaeth yn rhoi sêl ar yr hyn oll a wnaethant yn eu bywyd: maen penaf yr adeiladaeth yn cael ei ddwyn i mewn gyda " Rhad, rhad iddo." Coron bywyd rhai yw eu marwolaeth hwynt. Y mae rhyw ddymuniad yn y meddwl i wybod diwedd hanes pawb— diwedd pob hanes ; ac am hyny mae pob hanes yn anmherffaith, ac yn gadael y meddwl yn annigonol, os bydd y rhan ddiweddaf ar ol. Mae cofiant yn dra diffygiol yn ein golwg er iddo gynnwye hanes mabandod y gwrthddrych, a'i ddygiad i fyny, a'i ddyfodiad i sylw, a llat'ur ei oes, os na chynnwys hefyd hanes ei ddiwedd—y diwedd yn enwed- ig; fel pe byddai y syniad yn y meddwl fod dyn yn dylbd yn fwy pwysig fel y mae yn nesâu at y byd tragy wyddol, a'i hanes yn fwy gwerthfawr. Ac y mae y peth yn ddyddorus ynddo ei hun. Os dyddorus ydyw yr haul yn machludo yn y gorllewin, ac os dyddorus edrych ar y Uong yn myned o'r golwg yn y pellder, pa faint mwy ymadawiad yr enaid a diflaniad yr ysbryd ? Mae y teimlad hvm yn cael ei gyfarfod yn helaeth yn yr Ysgrythyr. Y frawdd- eg gyntaf ynddi ydyw, " Yn y dechreu- ad y crëodd Duw y nefoedd a'r ddaear." Dyna y dechre: Duw a grëodd; a dyma le i'r darllenydd tan ei draed—man i sefyll arno i weled Iesu yn gosod syl- feini y byd i lawr. Mae y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen ger bron ei lygaid. Ac i'r meddwl ffyddiog a chrediniol y mae diwedd pob peth wedi ei adrodä ymlaen Eaw: "Y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a'r defnyddiau gan wir