Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCII.] HYDREF, 1863. [Llyfr XVII. fämcfyaòm. CYNNYDD CREFYDD. GAN Y PARCH. THOMAS EDWARDS, PENLLWYN. "0 herwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddi'o drosoch, a deisyf eicli cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ei' ymhob doethineb a deall ysbrydol; fel y rhodioeh yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ymhob gweithred dda, a chynnyddu yn ngwybodaeth am Dduw; wedi eich nerthu â phob nerth yn ol ei gadernid gogoneddus ef, i bob dyoddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni."—Colossiaid i. 9—12. Y peth cyntaf y mae yr Apostol yn ei I wneyd, wrth ysgrifenu at y Colossiaid, ydyw cydnabod y daioni oedd yn barod j ganddynt. Yr oedd wedi cael ar ddeall ' fod ganddynt ffydd yn Nghrist Iesu, a ! chariad tuag at yr lioll saint, a gobaith : wedi ei roddi i gadw iddynt yn y nef- oedd. Cydnebydd eu bod wedi gwybod ' gras Duw mewn gwirionedd. Yr oedd j meddu y pethau uchod yn feddu y \ pethau sydd yn gynnwysedig mewn j crefydd dda. Ond y mae yr Apostol, | yn yr epistol hwn, fel yn y rhan fwyaf i o'i epistolan, yn annog y rhai y mae yn j ysgrifenu atynt i fyned rhagddynt—i ; lafurio am gynnydd mewn crefydd. ; Nid oedd eu bod wedi cael crefydd dda i yn un rheswm, yn ei gyfrif ef, dros | iddynt eistedd i lawr yn ddiffrwyth a dilafur. Mae yn dangos fod anghen- rheidrwydd anhebgorol am gynnyddu ] mewn crefydd. Gellid meddwl fod yr ; Apostol yn golygu fod cymaint o | anghen am i'r Colossiaid gynnyddu mewn crefydd ag oedd am iddynt gael crefydd dda yn y dechreu. Rhaid i'r rhai sydd wedi cael gwir grefydd gyn- nyddu llawer, cyn y byddont "yn gy- mhwys i gael rhan o etifeddiàeth y saint yn y goleuni." Mae tebygolrwydd rh^yng dynion yn eu genedigaeth a'u cynnydd yn naturiol, â d}Tiion yn ys- brydol gyda chrefydd. Maent yn dyfod i'r byd yn fabanod bychain, ond rhai i gynnyddu ydynt; a rhaid iddynt gyn- nyddu cyn y gallont í'wynhâu y byd y maent yn dyfod iddo, a bud yn ddefn- yddiol ynddo. Beth fuasai y byd yma well er i ddynion gael eu geni ynddo, a beth fuasai y dynion eu hunain well, pe buasai iddynt aros yn fabanod gweiniaid digynnydd ar ol eu geni ì Felly hefyd y mae gyda chrefydd. Babanod bychain gweiniaid y w plant Duw yn y cychwyn ; ond nid ydynt i aros felly; y maent i gynnyddu o hyd gan gynnydd Duw. Yr ydym yn meddwl sylwi ychydig ar gynnydd crefydd yn bresennol, } u ol yr olwg a gawn ar hyny gan yr Apostol yn y geiriau a roddir ger eich bron yn nechreu yr ysgrif hon. Oddiwrth y geiriau, gallwn sylwi ar gynnydd creì'- ydd yn ei natur—cynnydd crefydd yn ei fesurau—cynnydd crefydd yn ei nerth —a chynnydd crefydd yn ei ddyben. Yn gyntaf, Cynnydd crefydd yn ei na- tur. Dangosir i ni yma fod y cynnydd hwn, o ran ei natur, yn gynnydd mewn dau beth, sef mewn gwybodaeth ac mewn rhodiad. "Nid ydym," medd yr Apos- tol, "yn peidio â gweddio drosocli, a deis- | yf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei