Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CC.] AWST, 1863. [Lltfr XVII. %mtfyaìmn. TREM AR RAGOLYGON UNDEB CRISTIONOGOL. GAN Y PARCH. JOHN OWEN, TYN LLWYN, ARFON. "Fel y byddont oll yn un," sydd ddeisyfìad arbenig yn ngweddi Iesu Grist dros ei ddysgybíion: "Fel y bydd- ont oll yn un, megys yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwytb.au yn un ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i." Dyma gynllun a cbanlyniad undeb Cristionog- ion. "Megys yr ydym ni yn un," yw y cynllun; ac "fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i," yw y canlyniad. Ychydig a allwn ni wybod am undeb y Personau Dwyfol; ond gwyddom mai dyma yr undeb cadamaf a mwyaf go- goneddus mewn bod. A rhaid fod un- deb Cristionogion â'u gilydd yn oruchel a gogoneddus, gan ei fod yn haeddu ei gyffelybu i'r undeb rhwng y Tad a'r Mab. Ac y mae ei fod yn foddion dy- ehweliad y byd, yn ei ddangos felly hefyd. Er fod rhywbeth bychan a di- ddym yn y moddion a gymer Ysbryd Duw i ddychwelyd pechaduriaid, eto nid ydynt byth yn hollol felly. Pan anfonodd yr Arglwydd Iesu yr efengyl- wyr cyntaf allan, aethant heb nac ys- grêpan, na bara, nac arian. Yr oedd yr olwg arnynt i fod o'r fath fwyaf syml; ond yr oedd ganddynt allu i iachâu clef- ydau, ac awdurdod i fwrw allan gy- threuHaid. Deallid mai gwŷr anllythyr- anog oedd Pedr ac Ioan, ond meddent ryw hyfder oedd yn dyrysu ac yn dy- chrynu eu gelynion. Wedi i'r Arglwydd Ieeu ddyweyd wrth ei ddysgyblion y caent eu herlid a'u carcharu, ychwanega, "Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn nai gwrth- sefyll." Yr oedd y ddoethineb hon a'r gallu i wneyd gwyrthiau yn ddoniau o roddiad Duw i Gristionogion yr oes gyntaf; ond yr oedd y pethau hyny i beidio ac i ddiflanu yn fuan. Pa beth ynte oedd i gymeryd eu lle fel moddion i argyhoeddi y byd fod crefydd Crist yn ddwyfol? Cariad Cristionogion at eu gilydd, a'u hundeb â'u gilydd. Felly y bu yn amseroedd yr erlidigaeth.au Pag- aîiaidd. Synai y Paganiaid at undeb y Criùtionogion fel peth hollol tu hwnt i'w hamgyffred, a diammheu ddarfod i hyny fod yn foddion i argyhoeddi mil- oedd o honynt. Ac wrth feddwl fel y mae pechod wedi gwneyd y fath ddin- ystr ar ddefnyddiau undeb ynihlith dyn- olryw—wedi "troi pawb i'w ffordd ei hun," mae ymddangosiad crefydd yn meddu digon o allu i wneyd dynion yn un, o anghenrheidrwydd, yn meddu dy- lanwad digyffelyl)—eymaint dylanwad, ond odid, ag oedd gan y ddawn wyrth- iol yn oes gyntaf Cristionogaeth. Ond ai nid yw yr undeb hwn rhwng Cristionogion wedi darfod o'r byd fel y gwyrthiau ? Ai nid dyma un o ddadl- euon cryfaf anffyddiaid ac eraill yn ei herbyn ? A fu rhyfeloedd mwy gwaed- lyd ar y ddaear na'r rhai rhwng Crist- ionogion ? A fu y nwydau pechadurus hyny sydd yn llenwi aìdaloedd a gwled- ydd â chynhen ac ymryson erioed yn gryfach nag mewn gwledydd Oristion- ogol ? Ac os cymerir cynnyrchu undeb yn faen prawf at Gristionogaeth, onid yw wedi troi yn ffaeledd ? Rhaid addef ddarfod i bethau ymddangos felly am dymmor maith. Ac heblaw fod Cristion-