Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. OXCVIII.] MEHEFIN, 1863. [Llyfr XVII. f&mfyísìmn. DAMMEG YR HAUWR. Matthew xiii. 1—24. Marc iv. 1—20. Luc viii. 4—15. GAN Y PARCH. THOMAS LEVI. Yn y drydedd bennod ar ddeg o Mat- thew, cawn saith o ddammegion Crist; y pedair cyntaf wedi eu llefaru wrth y dyrfa ar làn Môr Galilea, a'r tair eraill, yr un diwrnod, wrth ei ddysgyblion yn y tŷ. Llỳn go fawr yw y môr hwn, tuag un filldir ar bymtheg o hŷd a saith o lêd, yn cael ei gylchynu gan fynydd- oedd isel Palestina. Bydd coffadwriaeth y môr bychan prydferth hwn byth yn fendigedig, oblegid yr oedd hwn yn gan- olfan symudiadau a gweithredoedd rhy- feddol y Duw-ddyn. Bu yn hwylio drosto mewn mânlestri o borthladd i borthladd. Dros gefa tònau terfysglyd hwn y bu yn cerdded fel ar ddaear galed. Ar ganol hwn y bu yn "ceryddu y gwyntoedd a'r môr," nes y bu tawel- wch mawr yn y fan. Ar hyd glànau hwn y bu yn traddodi llawer o'i ddam- megion a'i bregethau—yn iachâu clef- ydau—yn bwrw allan gythreuliaid—yn porthi y tyrf äoedd yn wyrthiol—ac yn treulio llawer noswaith gyfan i weddio. Llanerch cysegredig o'n daear ni yw Môr Galilea a'i amgylchoedd. Yr oedd yr Iesu newydd fod yn preg- ethu i'r bobl, yn Capernaum, mae yn debyg, ac wedi myned allan o'r tŷ tua glàn y môr, i gael ychydig o lonydd a gorphwys. Ond erbyn ei fod yno, yr oedd tyrfa fawr wedi ei ganlyn. Y mae yntau yn myned ati eüwaith; ac er mantais iddo ef a'r dyrfa, y mae yn cy- meryd llong, ac yn gẁthio ychydig oddi- wrth y tir, ac yn traddodi o'r fan hono y pedair dammeg yma~ac fe allai ychwaneg, nad ydynt wedi eu cofnodi— i'r dyrfa oedd ar y làn. Y gyntaf o'r dammegion, a'r ddam- meg gyntaf o eiddo Iesu Grist a gofnod- ir, yw Dammeg yr Hauwr. Y mae yn debygol fod y ddammeg hon, yn gystal a'r dammegion eraill, wedi ei hachlysuro gan yr olygfa oedd ger bron Iesu Grist ar y pryd. Gallasai fod yn gweled, dros ben y dyrfa, yr amaethwr ar y maes, yn taflu had i'r ddaear oedd ef wedi ei bar- otoi. Y mae Stanley, yn ei lyfr ar Sinai a PhalestÌTia, wrth ddesgrifio glànau y mûr hwn, yn dyweyd,—"Trwy gilfach fechan yn y bryn, agorai y gwastadedd oedd yn yr ymyl ar unwaith, gyda'r fath gydgyfarfyddiad o'r holl fanylion, nad wyf yn cofio eu bath yn Mhalestina, bob nodwedd o'r ddammeg fawr (dam- meg yr hauwr) o'm blaen. Yno yr oedd y cae ŷd yn ymdoni, ac yn ymestyn hyd làn y dwfr. Yno yr oedd y llwybr caled yn rhedeg trwy ei ganol, heb berth na chlawdd o un tu iddo, er cadw yr hâd rhag syrthio arno wrth hau; ac yr oedd yn sarn galed gan draed ceffyl- au, mulod, a dynion, oeddent yn tramwy yn gyson drosto. Yno yr oedd y 'tir da,' bras, yn gwahaniaethu yr holí was- tadedd a'i amgylchoedd oddiwrth y bryniau llymion eraill, y rhai a ymes- tynent hyd at y llỳn, a'r rhai, pan na fyddo un rhwystr, a orchuddir âg un wyneb cyflawn o ŷd. Yno yr oedd y tir creigiog yn dangos ei hun yma a thraw, yn nghanol yr ŷd, ar hyd ochr y bryniau, ac mewn lleoedd eraill ar hyd