Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CXCVII.] MAI, 1863. [Lltfr XVII. %XW$$ÍÍÒWX. YR ORDINHAD A'R SWYDD O BREGETHU. GAN Y PAECH. ROGER EDWARDS. Titus i. 3: "Eithr mewn amseroedd priodol, efe a eglurháodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr." Mae y geiriau hyn yn rlian o'r arwein- iad i mewn, neu y rhagymadrodd, i'r llythyr at Titus. Mae Paul yma, fel agos bob amser, yn nechre ei lythyrau, i ddangos íbd yr hyn a ysgrifenir gan- ddo yn deilwng o bob sylw a gwrandaw- iad, yn cyfeirio at ddwyfolder ei alwad, a phwysigrwydd ei swydd a'i waith: " Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ol," neu, er mwyn, neu, i ddwyn ymlaen, "ffydd etholedigion Duw, ac ad- nabyddiaeth o'r gwirionedd," o athraw- iaeth fawr yr efengyl, "yr hon sydd yn ol duwioldeb," yn cynnyrchu a chryf hâu duwioldeb ysbryd ac ymarweddiad. "I obaith bywyd tragywyddol," sef i gy- hoeddi, egluro, ac argymhell y gobaith hwnw. Yn nadguddiad yr efengyl, agorir drws o obaith am wynfyd i enaid euog; ac mae y derbyniad crediniol o honi yn cenedlu yn y meddwl, ac yn sicrhâu iddo, obaith gogoniant. Mae gan ffydd yr efengyl sail anffaeledig i obeithio am fywyd tragywyddol; canys y mae nid yn unig wedi ei ddangos yn beth posibl, ond wedi ei roddi allan mewn addewid: " Yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechre y hyd." Fe'i haddawodd yn y cyfammod tragy- wyddol i'w Fab, fel ei Ètholedig ef, a'n Machniydd ninnau. Wedi iddo fel hyn addaw y peth mwyaf mor fore, fe ddad- lenodd i ryw radd gynnwys yr addewid hono ar hyd yr hen oesoedd, trwy ar- wyddluniau cysgodol a rhagddywediad- au y prophwydi. Ond yr oedd bwriad grasol Duw eto yn aros yn dra chudd- iedig mewn cymhariaeth i'r graddau y mae yn ddadguddiedig yn awr. " Eithr mewn amseroedd priodol," ei amserau neu ei amser ei hun, yr amser mwyaf cyfaddas gan ddoethineb Duw, sef tym- mor goruchwyliaeth yr "efengyl," yr hon a elwir yn 'oruchwyliaeth cyfiawn- der yr ainseroedd,'—"efe a eglurhäodd ei air," ei fwriad, ei addewid, y dad- guddiad neu y cyhoeddiad o fywyd tra- gywyddol, ei ewyllys da i ddynolryw syrthicdig; "tnvy bregethu," — efe a wnaeth yn hysbys ei feddyliau o hedd trwy yr efengyl, ac yn benaf trwy breg- ethiad yr efengyl. Efe a'i heglurhäodd trwy sefydlu yr ordinhâd o bregethu, a thrwy anfon rhai addas at y gorchwyL a thrwy arddel a llwyddo eu pregeth- iad. "Am yr hyn," am y swydd o bregethu, a'r gorchwyl o eglurhâu y gair trwy hyny, "yr ymddiriedwyd," ymysg eraill, "i mi," Paul, "yn ol gor- chymyn Duw ein Hiachawdwr." Ni a gymerwn fantais oddijnna i edrych ar y g^vaith neillduol o bregethu mewn tri neu bedwar o bethau. Wrth ymdrin â'r mater hwn, ni chawn ond yn unig sefyll arno mewn modd ymar- ferol, gan amcanu at nodiadau a allant fod yn gymhwys i'r amserau hyn, ac yn fuddiol i wrandäwyr yr efengyl yn gyffredinol. I. Mab pbegethu yn ordinhad