Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CXCYI.] EBRILL, 1863. [Llyfr XVIL %XXtfyQÒW. EBEN VARDD\ GAN Y PARCH. ROBERT HUGHES, UWCHLAWR FFYNNON* Gellir dywedyd yn ddibetrus am Mr. Ebenezer Thomas ei fod nid yn unig yn ddyn mawr, ond hefyd yn "ŵr da." Mae llawer dyn mawr yn gristion bych- an, a llawer un o alluoedd bychain yn gristion mawr ; ond cydgyfarfyddai y ddau ynddo ef yn fawr, a'r mwyaf o'r ddau oedd y cristion. Cynnyddodd o ddechreuad bychan, ac aeth yn bren mawr ffrwythlawn, a'i geinciau a ymes- tynasant dros yr holl Dywysogaeth, a'r Cymry oeddent mor hoff o'i ffrwyth peraidd fel yr ymestynent yn awyddus ato, nid yn unig yn Nghymru, ond ymhob parth arall o'r byd lle y deallir yr iaith Gymraeg. Ganwyd Ebenezer Thomas yn inis Awst, 1802, mewn tŷ bychan o'r enw Tàn íàn, ar dir Gelli gron, yn mhlwyf Llanarmon, ac o fewn tua milldir i ben- tref Llangybi, Sir Gaernarfon. Enw ei dad oedd Thomas Williams, gwëydd wrth ei alwedigaeth, ac isel o ran ei am- fplehiadau; dyn tawel, pwyllog, pur diwyd a ffyddlawn gyda chrefydd, yn enwedig gyda'r pethau bychain cyffredin hyny a ystyrir gan lawer dynyn tlawd yn rhy isel i'w cyfiawni—megys gofalu am geffylau y pregethwyr, ystabl y capel, goleuo y canwyllau, ysgubo y llawr, ac amryw fân bethau eraill cy- ffelyb, ag y rhaid i rywun eu cyflawni. * Nid amcenir yn y Uinellau hyn, y rhai a gyfan- tjoddwyd yn frysiog, oddiar gais Golygydd y Drt- íorfa, ond yn unig wneyd rhai sylwadau cyffred- inol ar y prif-fardd ymadawedig, yn henaf fel crefyddwr ac fel cyfaill, gan ddysgwyl y ceir gan ernill gylwadau yn y Drysorfa ar ei athrylith a'i Syfansoddiadau. Nid oedd neb yn perthyn i hen ysgoldý tlodaidd Pencaenewydd (beudŷ gynt, ond a dròwyd yn gapel), mor barod i gyfiawni y swyddau hyn, ac mor falch o honynt, â Thomas Williams, Tàn làn, na neb mor barod i'w gynnorthwyo â'i fab Ebenezer, yr hwn enw a roed arno gan ei dad a'i fam oddiar eu ma wrygiad o dal- entau, gweinidogaeth, a defnyddioldeb y pregethwr enwog, y Parch. Ebenezer Morris, o'r Deheudir; a meithrinai y tad ddymuniad ar i'w fab ddyfod ryw ddydd yn bregethwr mawr fel hwhw. Ond er na chyfiawnwyd ei ddymuniadau yn hyny, daeth Ebenezer o Dàn làn yn ddyn mawr, ac yn ddyn amlwg mewn duwioldeb. Enw ei fam oedd Catherine Pierce, yr hon oedd o deulu crefyddol a pharchus o Eifionydd, yn wraig synwyrol, yn ofhi Duw, ac yn dra gofalus am ddwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dywedwyd wrthym gan hen gymydog iddynt, yr hwn sydd yn fyw eto, fod y bachgen yn fwy dyledus i'w fam nag i'w dad am ei gychwyniad boreuol. Bu E. T. am ychydig yn dilyn yr un alwedigaeth â'i dad. Cafodd fyned i'r ysgol i'r Abererch, at Mr. William Owen, yr hwn a symudodd wedi hyny i'r Dref- newydd. Bu W. O., fel y mae yn hya- bys, yn pregethu gyda y Methodistiaid am ryw dymmor, ac yr oedd yn ŵr o athrylith a gwybodaeth gyffredinol, ac yn fardd da. Canfyddodd yr athraw, ac eraill y pryd hyn, fod yn y bachgen Ebenezer athrylith, a'i fod yn awyddus iawn am ddysg. Yn fuan wedi hyny, ■-.