Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CXCV.] MAWRTH, 1863. [Llyfr XVII. §tat|0ta. DOETHINEB DUW YN NGHYMHWYSIAD TREFN IACHAWDWRIAETH. GAN Y PARCH. THOMAS JAMES, M.A., LLANELLI. ;Yu yr Hwn y bu Efe lielaeth i ni ymhob doethineb a deall." Gweithredoedd pob dyn a brawf pa fath ydyw. "Er pwyo'r ffol mewn morter, nid ymedy ei ffolineb âg ef." Y peth sydd o fewn a raid ddyfod allan ; byâd y ffrwyth yn sicr o gyfateb i'r pren. Gwna yr nn sylwadau y tro gyda golwg ar ddyn doeth. Nid oes neb yn synu ei fod ef yn gweithredu yn ddoeth; dyna a ddysgwylir oddiwrtho; tra os gweithredai fel arall y byddai ei weith- redoedd yn erëu graddau o siomedigaeth ymhlith ei gydnabod, o herwydd eu barn uchel am ei synwyr da. Eto ni fyddai ryfedd pe dygwyddai i ddyn doeth ym- ddwyn yn annoeth ar brydiau, oblegid nid ydyw ei ddoethineb yn berffaith; nid ydyw yn anffaeledig. Eithr am Fôd Unig-ddoeth, Holl-ddoeth, dysgwylir bod ei weithredoedd Ef yn berffaith gydunol â'i gymeriad. Po uchaf y farn a goleddir am unrhyw berson, mwyaf i gyd a ddysgwylir oddiwrtho; a pho uchaf yr hòna unrhyw berson ei fod, mwyaf i gyd o ddysgwyliad a grëa mewn eraill wrtho. Felly hefyd am y sefyllfa y byddo dyn ynddi. Nid ydym yn dyweyd nad ydyw yn dygwydd weithiau fel arall—yn troi allan yn groes i'r dysgwyliad; eithr nid ydyw hyny yn cyfnewid dim ar ein pwnc. Nid oes neb yn meddwl am ddim neill- duol mewn un ystyr oddiwrth ddyn tlawd, anllythyrenog; tra o'r tu arall, es bydd dyn mewn sefyllfa uchel, ac yn ddysgedig a thalentog, dysgwylir mwy na mwy oddiwrtho, yn ol pwysigrwydd y sefyllfa y byddo ynddi. Yr un fath yr ydym mewn cysyíltiad â Duw. Gwna y drychfeddwl a ffurfìa dyn o Dduw iddo ddysgwyl bod ei holl weithredoedd yn berffaith. Ac yn ychwanegol at hyn. gwna yr hyn a hòna Ef ei fod beri bod y dysgwyliad yn fwy fyth wrtho. "Yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth." "Yr unig ddoeth Dduw." Rhaid ynte y bydd ei weithredoedd yn cyfateb i'w gymeriad—rhaid y bydd amlygiad o ddoethineb ar yr oll a wna. Pa faint bynag ydyw y dysg^vyliad, llenwir ef i'r eithafion mwjraf yn ngweithredoecld Duw. Ond er bod doethineb yn ganfyddedig ar ei holl weithredoedd, llewyrcha yn fwy tanbaid o lawer trwy rai o honynt na'u gilydd. Edrychwch i Natur, gwelir doethineb Ddwyfol ar yr oll yma, yn y cyfaddasrwydd sydd rh^vng pob peth'i ateb eu gilydd. Wele brydferthwch diail yn anian; eithr byddai y cyfan yn ddiwerth oni buasai i Dduw, yn ei ddoethineb, gyfaddasu y llygad dynol i'w fawrygu. Dyna ymbynciad yi* adar asgellog, a'r holl beroriaeth sydd yn Natur, yn ateb yn rhagorol i'r glust. Mae yr oll )ai ddoeth. Daw yr egwydd- or hon yn fwy rhagorol fel yr ymddyrch- afa, a gwebr Duw yn gwella yn ei waith fel yr ä rhagddo. Po fwyaí' o anghen