Skip to main content

Y DRYSORPA. Rhif. CXCIV.] CHWEFROR, 1863. [Llyfr XVII. %%%zfyaìmví. AM HUNANYMWADIAD. GAN Y PARCH. DANIEL ROWLANDS, A.M., LLANIDLOES. Camöymeriad mawr yr hen seryddiaeth oedd gosod y ddaear yn ganolbwynt. Wedi deall pethan yn well, nid ydys yn rhyfeddu fod yr hen ddoethion yn cael eu harwain i'r fath benbleth ddiddadrys wrth geisio esbonio y grëadigaeth ar y dyb fod byd wedi ei osod yn y fath sef- yllfa, ag oedd o ran maint a lle mor an- addas i'w llanw. Y mae dynion eto yn llafurio dan gamgymeriad cyffelyb gyda golwg arnynt eu hunain; camgymeriad, yn wir, sydd o ran ei bwysigrwydd a'i ganlyniadau yn llawer mwy nag eiddo yr hen athronwyr. Wedi y cwbl, yr oedd dynion yn gallu cyflawni eu dyled- swyddau, ymgyrhaedd am ddoethineb, a mwynhâu bywyd, er fod cyfundrefn Natur yn aros heb ei dehongli; ond y mae holl bethau pwysicaf dyn yn ym- ddibynu ar ei fod yn deall yn iawn beth yw ei berthynas â'r llywodraeth foesol y mae yn ddeiliad o honi. Beth sydd i fod yn ganolbwynt! 0 amgylch beth y mae amcanion ac ymdrechion ei fywyd i droi ? Er niwyn pa beth y mae i fyw ì Gellir dyweyd am y rhan fwyaf eu bod yn byw er eu mwyn eu hunain. Y maent erioed heb feddwl am ddim uwch fel amcan i'w bywyd. Yn wir fe ellid meddwl mai dyma y codwm mawr a gafodd dyn trwy bechod ar y dechreu, —syrthio icldo ef ei hunan. 0 fod yn cyfeirio pob meddwl, pob teimlad, a phob amcan, at ewyllys yr Un Mawr y cafodd ei grëu i'w wasanaethu a'i fwyn- hâu, y mae wedi dyfod i lawr mor isel â chymeryd hunanfoddhâd yn nôd penaf ci einioes. Yma y mae holl nwydau a thrachwantau y natur ddynol yn cymer- yd eu gwraidd. Y mae dyn yn meddwl yn rhyfeddol o fawr o hono ei hun, ya awyddus am i eraill wneyd yr un peth, ac yn barod i ddirmygu pawb a ommedd- ant eu gwarogaeth iddo,—dyna falchder. I'r dyben o gyrhaedd y sefyllfäoedd sydd yn rhoddi mantais i sicrhâu yr afael gryfaf ar ddynolryw, a'u gorfodi ymostwng iddo ef, y mae yn foddlawn lafurio yn galed a dysgwyl yn amynedd- gar am flynyddoeddlawer,—dyma uchel- gais y byd. Er mwyn ymgadarnhâu ar y ddaear, a bod yn hollol annibynol ar bawTb a phobpeth, y mae yn gwneyd ei oreu i gasglu arian, ac y mae yn cael y fath flas ar hyny nes y mae yn byw i bentyru,—dyma ariangarwch, neu gyb- ydd-dod. Y mae amryw dueddiadau naturiol yn perthyn i ddyn, sydd wedi eu trefnu gan Dduw i fod yn wasanaeth- gar iddo, a'u boddhâd yn ffynnonell o fwyniant; y mae yntau yn eu codi o fod yn weision, i deyrnasu; yn gadael i'r du- edd fyned yn chwant, ac yn aberthu pobpeth iddo ei hun ar allor y chwant hwnw. Yma y cawn lythineb, meddw- dod, anniweirdeb, a phob aflendid. Beth bynag sydd ar ei ftbrdd i gyrhaedd ei amcan yn y pethau hyn, ni phetrusa osod ei droed arno a'i sathru i'r llawr; oddiyma y tardd pob gorthrwm. A phwy bynag a'i rhwystro i gyrhaedd yr tyn y mae yn ei chwennych, neu a fyddo yn foddion i'w golledu yn y pethau y mae efe yn gosod gwerth arnynt, y mae hunan yn ymgynhyrfu o'i fewn ac yn i sychedu am ddiaL Ac y mae yr hoE