Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RYSORFA. Rhip. CXCIII.] IONAWR, 1863. [Llyfr XVII. I&mÿjohm. GOLYGIAD BYR AR GENADAETH Y CYFUNDEB. GAN Y PARCH. WILLLAM PRYSE, SYLHET. Fop yr eglwys a sefydlwyd gan Iesu Grist a'i apostolion yn eglwys genadol, yn ei chyfansoddiad a'i natur, nid oes neb, hwyrach, ag sydd yn credu y Tes- tament Newydd, a ymgymerai â gwrth- brofi y fath osodiad. Wrth genadol y deallwn, fod dymuniad ac ymdrech i ledu y wybodaeth o'r efengyl ymysg cenedloedd a llwythau pa rai nad ydynt gwedi ei derbyn, ac nad oes ganddynt foddion i'w gwybod. Y gangen Fethod- istaidd o'r eglwys hono sydd, mewn modd arbenig, yn genadol yn ei natur a'i chyfansoddiad. Gellid dywedyd mai yr hyn a elwir "ysbryd cenadol" yd- oedd y ffynnonell o ba un y tarddodd Methodistiaeth; ac y mae yn eglur fod y Methodistiaid yn dra hwyrfrydig i ymadael â'r gynffurf hono, ar ol i'w cenadaeth lwyddo nes ffurfio eglwysi cryfion. Yr unig ammheuaeth a ddi- chon gyfodi yn y fath gyfundeb ydyw, pa le y dylai fod terfynau eu gweith- rediadau cenadol. Oddifewn Tywysog- aeth Cymru, medd rhai; oddifewn ter- fynau yr iaith Gymraeg, medd eraill; ymhlith y cenedloedd, càn belled ag y cyrhaeddo eu gallu, medd eraill. Geir- iad ac ysbryd y commìssion a ddylai benderfynu y pwnc hwn; ac nid ym- ddengys fod anhawsdra mawr i gyr- haedd y penderfyniad. Eithr y mae Dwyfoldeb cenadaethau yn. brofadwy, nid yn unig o'r Testament Newydd, ond hefyd oddiwrth eu he- ffeithiau ar genedloedd Paganaidd y byd. Y mae anflyddwyr gwedi dwyn tystiolaethau mynych i ragoriaeth Pa- ganiaid, ar ol eu Cristioneiddio, ar yr hyn oeddynt yn eu sefyllfa Baganaidd. Pa ddyn, credadyn neu ddigred, nad addefai ragoriaeth y Tahitiaid, y Maori, y Rareia, neu y Ehasiad Cristionogol, ar y peth ydoedd gyda'i wleddoedd gwaedlyd, ei aberthau dynol, a'i arfer- ion teuluaidd a chymdeithasol budron, creulawn, ac anwaraidd ? Rhaid addef, wrth gymeryd golwg ar y byd, fod cen- adaethau, mewn gwirionedd, gwedi troi yr anialwch yn ddoldir, nid yn unig mewn ystyr foesol, ond nat. -k)l hefyd. Ai nid ystyrid ef yn anrhydedd i unrhyw gorff neu gy fundeb o bobl, by dded fy chan neu fawr, fod yn offerynol i weddnewid llwyth o ddynion, pa un ydoedd ddoe mewn gwaed, budreddi, ac anwybodaeth, yn trigiannu by thod gwaelion, aflan, a di- drefn; ond sydd erbyn heddyw yn war- aidd, glanwaith, diwyd, a meddylgar: ddoe heb ddysgeidiaeth na gallu a medr i ymresymu; heddyw yn rhesymol, dynol, a moesgar: ddoe heb y radd lei- af o wybodaeth o'r gwir Dduw, a chy- sylltiad dyn âg Ef; heddyw yn addoli Jehofah, ac yn credu yn Nghrist y Bibl ? Er y gellid dywedyd y try y fath gyf- newidiad chwedlau gwylltaf y dychy- myg dynol i'r cysgod, eto y mae y fath weddnewidiad yn ffaith. Y cyfryw, mewn gwirionedd, ydynt effeithiau ein Cenadaeth yn India, ac y mae yn an- rhydedd i'r Cyfundeb ei fod yn offeryn- ol i'w cynnyrchu. Wrth adolygu llafur a thraul yr ugain mlynedd sydd gwedi myned heibio er pan sefydlwyd ein Cymdeithas, nid ymddengys i mi fod