Skip to main content

Y DEYSOEFA. Ehif. CXXIX.] MEDI, 1857. [Llyfr XL SpgroffidL Y PARCH. JOHN WILLIAMS, Y GARX. jS'id wyf yn nieddwl fod eisieu gwasan- aeth yr argraffwasg i gadw coffadwr- iaeth Jofan Williams (Llecheiddior), rliag colli yn yr oes hon na'r oes nesaf ati; oblegid nid ydoedd efe yn un o'r rhai y mae yn rhaid troi dalenau cy- I hoeddiad cyfnodol, na'r un llyfr arall, J cyn pen ugain mlynedd ar ol eu marw- ! olaeth, er mwyn gwybod pa fath rai i oeddynt. Yr oedd y fath hynodrwydd I ynddo fel dyn, cristion, a phregethwr, ; nes y mae gan filoedd goft'adwriaeth byw i o hono yn eu mynwesau, ac y bydd rhieni i yn mynegu i'r plant am ei weddiau | taerion, a'i weinidogaeth effro, dan- i llyd, a nerthol, fel ag y bydd yn ílefaru j ymhlith llawer o'r Cymry am amser i hir ar ol ei farwolaeth. Y lle y cysyllt- j wyd ei enw wrtho gyntaf ydyw Llech-1 eiddior, amaethdŷ rhwng y Garn a | Erynengan, yn Nosbarth Eifionydd, i Sir Gaernarfon ; ac wrth yr enw John ' Williams, Llecheiddior, yr adnabydd- j id ef gan y rhan fwyaf hyd ddydd ei | farwolaeth. Sicr yw fod enw yr hen | amaethdŷ wedi cyrhaedd aml fan na chyrhaeddasai byth oni bae fod John Williams wedi ei eni a'i fagu yn- ddo. Enwau ei rieni ydoedd William a Margaret Jones. Nid oedd yr un o honynt yn proffesu crefydd, yr hyn oedd yn golled, nid yn unig iddynt eu hunain, ond hefyd i'w plant. Gan nad oeddynt yn gweled gwerth mewn cref- ydd eu hunain, nid oeddynt yn ym- drechu ei dyrchafu yn ngolwg eu téulu. Ganwyd iddynt ddeg o blant, sef pump o feibion a phump o ferched, y rhai a ragfiaenasant wrthddrych ein cofiant i'r fcyd tragywyddol, oddieithr dau frawd a dwy chwaer, y rhai a adawodd ar ei ol ar yrfa amser. Collodd ei fam pan oedd oddeutu naw oed; felly ni chafodd fwynhâu ei gofal, ei thynerwch, a'i hym- geledd hi, ond am ychydig amser. Trwy fod cynifer o blant yn Llech- eiddior, fel nad oedd eisieu eu gwasan- aeth i gyd gartref, aeth John Williams i wasanaethu amaethwyr yn y cymyd- ogaethau cyfagos. Y pryd yna yr oedd yn wyllt, aunuwiol, ac anystyriol iawn; yn ymbleseru ac yn ymfírostio mewn geiriau halogedig, a champau ffol ac ynfyd. Yr oedd y diafol fel pe buasai yn gwybod na chai efe ef yn ei wasan- aeth ond am fyr amser, ac felly yn mynu cymaint a allai o waith gan- ddo; a pho fwyaf a wnai dros y diafol, mwyaf oedd ei allu a'i bender- fyniad i wneyd chwaneg drosto. Ond pan yr oedd fwyaf ei rwysg mewn an- nuwioldeb, rhoes Ysbryd y gras attal- iad arno, ac a'i dygodd i wasanaeth Meistr newydd. Pan oedd oddeutu dwy ar hugain oed, daeth diwygiad cryf i ardal Peucaenewydd, lle yr oedd yn- tau yn gwasanaethu gyda Mr. Henry Roberts, Glasfryn fawr. Ei waith ef a'i feistr am yspaid fyddai gwawdio a gwatwar plant y diwygiad. Ac yn lle myned i'r capel, elai ar y Sabbothau i rodiana i Fourcrosses, a Phwllheli, a manau eraill. Un Sabbath, pan yn dychwelyd adref gyda ei gyfeillion llygreäig, daeth tri o bobl y capel i'w cyfarfod, a dywedodd un o honynt wrth y lleill," Wel, wel, ní fydd hi ddim fel hyn ar y rhai'na byth," gan gyfeirio at John Williams a'i gwmni annuwiol. Aeth y dywediad fel saeth b b