Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOHFA. RhiF. CXXVIII.] AWST, 1857. [Llyfr XI. ẅaetljata ä ẅ^tìottjrair. YR EGLWYS YN GORFF CRIST. Sylìpadm ar "Natar Eglioys" a draddodioyd yn y Cyfarfod Ordeinìo yn Nghynideith- ctsfa Dolgellau, Ebrill 1, 1857, GAN Y PARCH. JOHN HÜGHES, BORTH. Mae yn ymwared mawr i ddynion sydd yn llafurio ac yn pryderu gydag eglwys Iesu Grist yn ei ffurf allanol a gweledig, ac yn dyfod yn fynych i gyffyrddiad â'i gwendid a'i hanrnherffeithiau yn y ffurf hono, gael edrych arni rai prydiau yn nrychfeddwl y Testament Newydd am dani; a throi oddiwrth, yn anmhuredd ac anmherffeithrwydd ei ffurf allanol, a chymdeithasu â hi yn ei phrydferthwch a'i gogoniant, fel y mae yn ymddangos yn ei hundeb â Mab Duw. Ac y mae yn ddiammheu fod cymdeithasu â hi yn y ffurf oruchel hon y moddion mwyaf effeithiol i chwanegu ein hoff- der ati a'n hymlyniad wrthi yn ei gwedd allanol ac anniherffaith. Yr oedd gwedd isel ac anuhywysogaidd ar Dafydd yn llys brenin Gath, pan, wedi ei orchfygu gan ofn a llwfrdra, y cymerai arno fod yn gwallgofi; teimlai Achis fod pres- ennoldeb y fath un yn sarhâd ar fawr- edd ei lys. Ond os edrychai y brenin yn ddiystyr ar y fföadur llwfr, teimlai y gweision yn bur wahanol wrth edrych arno; er fod golwg anwrol arno yr adeg hono, nis galiasent hwy ei ddir- mygu, na theimlo fod ei groesawu yn un sarhâd ar lys eu harglwydd, oblegid yr oeddynt yn ei adnabod mewn gwedd arall—mewn carictor uwch. Yr oedd y îuddugoliaeth ar Goliath yn fywiog yn eu meddwl, ac adsain caniadau gẅTag- edd Judah yn swnio yn eu clustiau: * Onid i hwn y canasant yn y dawns- iau, Lladdodd Saul ei filoedd, ond Dafydd ei fyrddiwn ?" Yr un modd, y mae y dynion hyny sydd yn hoff o ed- rych yn wastad ar yr eglwys yn ei ha- gweddau iselaf, yn talu eu holl sylw i ddiffygion ei chynlluniau, anmherffeith- iau ei haelodau, arafwch ei symudiadau, a gwendid ei sefyllfa bresennol, heb ys- tyried ei bod yn yr holl yrf äoedd y mae yn myned trwyddynt yn llygadu yn gywir at yr " uchelgamp," ac yn graddol sylweddoli drychfeddwl mawr y Testa- ment Newydd,—mewn perygl o gael eu llithio i feddwl yu ddiystyr am dani, ac attal y parch dyledus oddiwrthi, ac anghofio, fel brenin y Philistiaid, y gall gwerth, a theilyngdod, ac urddas mawr gael ei lwyr guddio o'r golwg weithiau gan ymddangosiad isel oddiedlan. Ond y mae y rhai sydd wedi cymdeithasu â hi yn ei hagweddau mwyaf urddasol ac ardderchog, y rhai a glywsant ei meib- ion a'i merched yn canu ei buddugol- iaethau, y rhai a gawsant edrych y tu fewn i'r llen ar "ferch y Brenin" "o fewn " yn ei gwisg o emwaith aur—fel ** morwyn wedi ymdrwsio i'w gŵr," ac yn hiraethu am yr amser y gosodir hi yn ymyl y Priodfab, u yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw," y rhai a'i gwelsant gydag Ioan fel "gwraig wedi ei gwisgo â'r haul,"— y mae eu holl galon wedi ei chaethiwo gan ei harddwch, ac nid gormod gan-