Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CXXVI.] MEHEFIN, 1857. [Llyfr XI. ŵaîtjjnìiaîi a (0njnẄBt!iaîL Y DUWIOL YN GWEDDIO YN ERBYN LLYWODRAETH PECHOD. SYLWEDD PREGETH A DRADDODWYD GAN Y PaRCH. WlLLIAiI MORRIS, Ty-DDEWI. Psalm CXix. 133 : " Ac na lywodracthed dim anwiredd arnaf." Peth mawr ac annbraethadwy ei werth ydyw, fod inodd i droseddwr o ddeddf y Duw Goruchaf gael ei ddiogelu rhag y gosbedigaeth dragy wyddolsydd yn ddy- ledus am hyny. A gwir ydyw, "wedi ein cyfiawnhâu trwy ei waed Ef," sef Crist, " mwy ynte o lawer ein hachubir ì'hag digofaint trwyddo ef." Ac y mae darostwng grym ac awdurdod llygred- igaeth mewn pechadur o'r un gwerth iddo a'i waredu rhag y gosb, canys nis gall fod yn ddedwydd tra yn ansanct- aidd. Trefn i eífeithio hyn ydyw yr iachawdwriaeth a gyhoedda yr efengyl i'r byd. Yn y drefn hon, y mae cyf- iawnhâd a sancteiddhâd yn anwahanol. Pan y mae Duw yn maddeu yr holl an- wireddau, y mae hefyd yn iachâu yr holl lesgedd. Os rhydd efe y wisg oreu am yr afradlawn, efe a rydd hefyd esgidiau am ei draed. Dysgwyl mwynhâu ffafr Duw heb gyson ddymuniad ac ymes- tyniad am debygolrwydd iddo, sydd yn sicr o'n siomi byth. Mae ymdrechiad- au a gweddiau y duwiol am waredigaeth oddiwrth bechod, yn ei wahanu oddi- wrth bentwr y i*hagrithwyr, y rhai nid y dynt yn meddwl ond yn unig am ddianc ryw ffordd rhag cleddyf y gosb. Ond ceir y gwir gristion yn perffeithio sanct- eiddrwydd yn ofn Duw, gan ymestyn pe bae bosibl i gyrhaeddyd adgyfodiad y meirw. Ar y tir hwn y cawn y Salm- ydd yn dra mynych yn ei weddiau. Pan y mae yn gofyn, " Cuddia dy wyn- eb oadiwrth fy mhechodau, a dilëa fy holl anwireddau," mae yn chwanegu, " Crê'a galon lân ynof, 0 Dduw ; ac ad- newydda ysbryd uniawn o'm mewn." Yn ein testun, ni a'i cawn yn gollwng ei enaid i fynwes ei Dduw dan lefain, " Na lywodraethed dimanwiredd arnaf." Wrth geisio ymdrin â'r cais hwn, safwn ar dri mater, I. Cynnwysiad y weddi; neu, yr hyn a arwyddir yn y deisyfiad, "Na íy w- oäraethed dim anwiredd arnaf." Cynnwysir yma yn 1. Fod üywodraeth gan bechod ar ddynion ; canys dyna y drwg y gweddiir yma rhagddo. Cawn erfyniad cyffelyb yn Psal. xix: "Attal hefyd dy was oddiwrth bechodau rhyfygus, na ar- glwyddiaethont arnaf." Darfu ein tad Adda, trwy gyfrwysdra yr hen sarph, agor y porth, a gollwng y gelyn i mewn. Taflwyd gwirionedd oddiar yr orsedd, ac anwiredd a esgynodd i'r lly wodraeth. Y weithred hono o eiddo ein tad cyntaf, fel pencyfammodwr a chynnrychiolwr ei holl hâd, a'n suddodd i'r un dyrys- wch ag yntau. Aeth Jacob i waered i'r Aipht o'i wirfodd, ond yno y ganwyd cenedlaethau dilynol yr Hebreaid. Mae Duw, fel gweithred gyfiawn o ddial ar ddyn am anfoddloni yn erbyn Uywodr- aeth dirion ei iawn Arglwydd a'i Wneuthurwr, yn goddef i'w grëadur gwrthgiliedig fod dan ly wodraeth Satan a phechod. Mae hon yn ffordd sydd gan Dduw i gosbi gwrthryfeL " Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw