Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Ehip. CXXV.] MAT, 1857. [LlATR XI. ŵarfjnŵau a ŵjplẁrfjiínt* CYMUNDEB A DUW. CRYNODEB 0 BREGETH A DRADDODWYD AR IAGO IV. 8. "Nesëwch at Dduw, ac ofe a ncsâ atoch chwi." Gogoneddus bethau a ddywedir yn yr j Ysgrythyrau am wir grefydd ; ac felly | yn arbenig yn ngeiriau ein testuu. Cref- | ydd yn ei hymarferiad yw, dyn yu nes- ' âu at Dduw; a chrefydd yu ei rnagor- ' fraint yw, Duw yn nesâu at ddyn. Mae y ddau nesâd hyn i'w golygu, nid yn llythyrenol ond yn gyrnhariaethol; nid yn llëol ond yn foesol. Nid oes rnodd i ni fyned byth yn nûs nag yr ydym at Dduw yn ei haufod, neu yn hollbresen- noldeb ei natur; ond mae y gair nesâu, yma, yn arwyddo ystâd o gydnabydd- iaeth a chymundeb : nyni yn nesâu at Dduw mewn meddwl a thueddfryd, ac yntau yn nesâu atom ni m'ewn fíafr a graslonrwydd. Ehoddir i ni yma wahoddiad serchog, —"Nesêwch at Dduw;" a chefnogir hyny âg addewid gyfoethog,—"Ac efe a nesâ atoch chwi." Nid oes i ni ddeall mai am i ni nesâu at Dduw y nesâ efe atom ni. Nid yw ein nesâd ni yn un lles i Dduw, ond y mae ei nesâd ef yn annhraethoí werthfawr i ni. " Nesêw ch at Dduw," ydyw, Ewch ato ef yn dlawd a thruenus. "Ac efe a nesâ atoch chwi," ydyw, Efe a ddaw atoch âg an- feidrol gyfoeth gras. Nid oes, gan hyny, ddim cyfartalwch rhwng y ddau nesâd, fel ag i'r eiddom ni fod yn un achos o'r eiddo ef. Ond y mae Duw yn ei ewyllys ddoeth a da wedi peri mai llwybr dyledswydd ydyw llwybr y fen- dith. Ni ddyry ei bx*esennoldeb gras- usol i fod fel gwerth yn llaw y fíbl; ei drefn yw cyfarfod â'r rhai yn ei ffyrdd a'i cofiant ef. Nid ydym, ychwaith, i gasglu oddiwrth gyflëad y geiriau," Nes- ôwch, ac efe a nesâ," fod gras Duw yn cael ei ragflaenu gan ryw ysgogiad sanctaidd mewn dyn, neu mai y pech- adur sydd yn dechreu, a Duw yn dilyn yn nhrefn iachawdwriaeth. Mae calon dyn wrth natur yn llawu gelyniaeth at , Dduw; rhaid ei adnewyddu gau Ysbryd ' yr Arglwydd cyn y byddo ynddo un ; duedd i nesâu ato. Ond y mae yr an- ! nogaeth ymlaenaf, a'r addewid yn olaf, ! yma, i ddangos fod yn nhrefn gras | weithio y pecnadur i ymofyn am Dduw, j cyn y caiff fwynhâd dedwydd o hono. Nid cario dyn fel pren neu faen y mae ! Duw wrth ei achub a'i sancteiddio ; ! ond y mae yn ei ddwyn, yn yr ymarfer- iad o'i alluoedd rhesymol, i deithio y ' ffbrdd sydd yn arwain i'r bywyd. Gall- | wn yma gael addysg pa fodd i ni ddyfod | i eglurdeb am ein mater rhyngom â i Duw. Nid esgyn i'r nefoedd, i geisio ! darllen calon y Goruchaf, ond troi i'n mynwesau ichwilio ein calonauein hun- ain: nid ymholi, A ydyw Duw yn nes- âu ataf fi yn ei ffafr ì ond, A ydwyf fi yn nesâu at Dduw yn fy ysbryd ? Os cawn ein huuain yn gywir gyda ein dyledswydd, gallwn, yn wir, ddysgwyl yn galonog wrth Dduw am ei fendith. "Nesêwch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi." Cawn chwalu y cynghor hwn a'r add- ewidhon ibodwar neubump o osodiadau.