Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehip. CXXIV.] EBRILL, 1857. [Llyfr XI. ẅnrfjinìiaii a tëojiátaríjjim. ADNEWYDDIAD ÎÍERTH YSBRYDOL. " Y rhai a obeithiant yu yi- Arglwydd a adnewyddant eu nerth." Y MAE nerth yu anghenrheidiol i bob gwaith, ac yn fwy aughenrheidiol mewn crefydd na phob gwaith arall. Y rnae y rhwystrau yn fwy, a'r gelynion sydd ar y ffordd yn aralach ac yn gryfach na dim arall y gelwir i ymaflyd ynddo. O ganlyniad, nis gellir gweithio yn ngwin- llau Crist heb nerth; na rhedeg yr yrfa i'rbywyd tragywyddol, agorchfygu tyw- ysogaethau a drygau ysbrydol sydd yn sefyll ar y ffordd, heb adnewyddiad nerth yn barhâus. Y mae teimlad o gryfder yn crè'u gwrolder a phenderfyn- iad yn y meddwl, i sefyll a myned rhag- ddo; pan o'r tu arall, y mae teimlad o wendid yn magu ofu ac ymollyngiad. Nid oes dim yn fwy anghenrheidiol i gysur a defnyddioldeb teithwyr y ffordd gul nag aml adnewyddiad nerth. Yn y cyffredin y mae y rhai hyn yn ymwyb- odus o'u gwendid, ac yn achwyn ar eu methiant; yn ofnus ac yn llesg; ac yn aml yn barod, mewn awr o gyfyngder, i ymollwng a llwfrhâu. Eto trwy ryw adnewyddiad dirgelaidd ar eu nerth, nid ydynt yn pallu. "Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn." Am y rhai hyn y dywedir, "Hwy a nerthwyd o wendid." —" Yn y dydd y llefais y'm gwrandew- aist, ac y'm cadarnhëaist â nerth yn fy enaid." Y mae nerth, pan ei pr'iodolir i ddyn, yn meddwl cryfder corff, cryfder meddwl, neu gryfder gras. Onà nis gwyddom pa faint ydyw ond pan fyddo yn cael ei ddwyn allan mewn gorchest- waith. Prif nerth Samson oedd yn ei gorff; cryfder penaf Ahitophel oedd yn ei synwyr a'i gallineb; eithr prif nerth Abraham oedd yn ei ffydd. " Yr hwu yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith," oblegid yr oedd yn "ddiegwan 0 ffydd." Y mae cysylltiad rhwng pob nerth, pa uu bynag ai nerth elfenol, corfforol, meddyliol, neu rasol, â Duw. "Eiddo Duw yw cadernid." Gwendid a darfod- edigaeth yw pob peth heb Dduw. Eto y mae Duw yn rhoddi ac yn chwanegu nerth i'w grëaduriaid wrth reolau a deddfau addas i'w sefyllfa, ac addas i natur a dyben y nerth y mae Efe yn ei gyfranu. Am nerth grasol ac ysbrydol y saint yr ydym yn awr yn sylwi. Y mae rhy w ddirgelwch mwy yn perthyn i hwn nag oedd yn nerth corff Samson, mewn cysylltiad â gwallt ei ben. Er fod prif gyflawnder y nerth hwn yn Nuw, fel pob nerth arall, y mae hefyd iddo ryw safoìi a gweithrediad o'i elfenau ysbryd- 01 ei hun, mewn cysylltiad âg enaid dyn; nid heb Dduw, mewu hunan- ymddibyniad, ond trwy Dduw, yn ol gosodiad a threfniad ei ras. Y mae y cristion yn gryfach ynddo ei hun, oble- gid egwyddorion moesol ei gyfansodd- iad newydd, ua neb arall o blant dynion. I. Sylwn ar egwyddorion nerth y credadyn, a'r dull y mae yn cael ei ad- newyddu ac yn chwanegu, ynghyda'r ffeithiau sydd yn profi chwanegiad ei gryfder. " Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth." " Ant o nerth i nerth." 1. Egwyddorion nerth ysbrydol y Cristion ydynt oll yr un peth ag eg-