Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. CXXIII.] MAWRTH, 1857. [Llypr XI. ẅaBtjîDÌíaîi ii ẅjirttörtlíim. SYLWADAÜ AR Y DDEDDF FOESOL. [Y sylwadau sydd yn canlyn a wnaed gan bump o frodyryn y weinidogaeth, yn y cyfar- fod eglwysig am 8 o'r gloch y bore, Mawrth 11,1856, yn y Cyfarfod Misol a gynnaliwyd yn y Graig, Sir Gaernarfon. Er mai mewn ffordd o ymddyddan rhydd y traddodwyd hwy, yr wyf yn hyderu y cyfrifir hwy, o herwydd eu mater pwysig, a'u cynnwysiad cryno, yn deilwng o ddaríleniad ac ystyr- iaeth darllenwyr y DRY30RFA yn gyffred- inol.—E. James, Vaynol.] I. Mae y pwnc sydd wedi ei nodi yn des- tun i ymddyddan arno yn un tra chyn- nwysfawr a phwysig. Ond ymddengys yn destun lled sychlyd, yn un trymaidd a digysur. Buasai yn llawer mwy di- íÿrus cael ymddyddan am ras yr efengyl, a haeddiant yr Arglwydd lesu. Mae llawer yn tybied nad oes eisieu o dan yr efengyl roddi nemawr sylw i'r deng air deddf. A rhai yn edrych arni yn perthyn yn unig i Iuddewaeth, yr un modd â'r ddeddf gysgodol; ac wedi cael ei thori ymaith yn angeu Cris't—heb edrych ar y ddeddf foesol yn egwyddor fawr hapusrwydd llywodraeth foesol Duw—yn egwyddor anghenrheidiol a sefydlog; nas gellir byth ei diddymu na'i chyfnewid. Mae fel Duw ei hun, gyda yr hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod troedigaeth. Dyben uchel y prynedigaeth yw dwyn pechadur ar ddelw y ddeddf. (äwnaeth yr Arglwydd Iesu yn ei fywyd a'i ^angeu ei hanrhy- deddu. Hyn oedd yr anghenrheid- rwydd am iawn yn saií maddeuant—i'r dyben i ddal i fyny awdurdod ac an- rhydedd y gyfraith wrth ollwng yr euog yn rhyddj dangos ei gyfiawnder ef trwy faddeuant pechodau—fel y byddai efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhâu y nel» sydd. o ffydd Iesu. Wi'th aileni pech- adur y mae y ddeddf yn cael ei rhodd i yn ei galon. Dyma yw gwaith yr Ys- bryd Glân yn sancteiddio pechadur,— ei weithio i ddelw y gyfraith. Dyma ddyben uchel angeu Örist,—cyflawni cyfiawnder y ddeddf ynom ni. Pa fawr- edd bynag a ganiatäwn i angeu y groes, rhaid addef nad yw ond moddion i gyr- haedd y dyben uchel hwn. Ysgi'ifenodd y Goruchaf ei ddeddf ar ddwy lech. Felly y gwelodd ef ei hun yn dda ei threfnu; i ddosbarthu rhwng ein dyled tuag at Dduw, a'n dyled tuag at ein cydgrëadur. Mae y llechau i fod fel y mae Efe wedi eu gosod—pob un yn ei threfn ei hun. Y gyntaf sydd i fod yn gyntaf; a'r ail yn seiliedig arni, neu yn tarddu yn naturiol oddiwrthi. " Ceri yr A.rglwyäd dy Dduw â'th holl galon —hwn yw y gorchymyn cyntaf, a'i' gorchymyn mawr. A'r ail sydd gyffelyl > iddo, Câr dy gymydog fel ti dy hun." Mae yn wir y gall dyn gydffurfio â llythyren yr ail lech, ac esgeuluso y llech gyntaf. Cyfeiriodd Crist y gŵr ieuanc a ddaeth ato, at yr ail lech; dy- wedodd yntau, " Y rhai hyn oll a gedw- ais o'm hieuenctyd." Ond pan wnaeth yr Arglwydd Iesu ei ddwyn i gyffyrdd- iad âg egwyddor y llech gyntaf, nis gallodd ddal y prawf; aeth ymaith yn athrist. Ond ni ddichon i ddyn gael ei ddwyn i gydffufio â'r llech gyntaf heb gael ei weithio yn anocheladwy i gyd- ffurfio â'r ail lech. Nis gall y gangen ddwyn y gwreiddyn; ac nis gall y gwreiddyn beidio a dwyn y gangen. Mae