Skip to main content

Y DRYSORFA. iiHiF. oxxir.] CHWEFROR» 1857. [Llyfr XL ŵttrfjnàair a ŵjẅfafyim. TEITHIAU GWIRIONEDD. O bawb a fu yn teithio y ddaear, Gwir- ionedd yw y teithiwr niwyaf, a'r un a dderbyniodd y driniaeth waethaf, ac a wnaeth fwyaf o ddaioni. Cyn rhoddi yehydig o hanes ei deithiau, dylem, hwyrach, ddywedyd gair am y teithiwr hynod ei hun. Od oes neb yn gofyn, Beth yw gwirionedd ? ni a atebwn yn ei eiriau Ef, yr hwn a'i geilw ei hun Y Gwirionedd : " Dy air sydd wirion- edd." Y dadguddiad a roes Duw i ddynion, dyna y w y gwirionedd, yr holl wirionedd, a dim ond gwirionedd. Yma ni a gawn wirionedd yn ei oruchelder, ei eglurder, a'i gyfìawnder ; y gwirion- edd am Dduw a dyn, pechod a sanct- eiddrwydd, pechadur aOheidwad, amser a thragywyddoldeb, nefoedd ac uffem. Bu amser pan nad oedd Gwirionedd i'w gael ar y ddaear. Felly y bu yn ebrwydd ar ol gwithryfel arswydlawn dyn, pan gyda Uaw hunanlofruddiol y Uaddodd efe fywyd Duw o'i fewn, ac yr alltudiodd y gwirionedd o'i galon a'i feddyliau. Efe a gredodd gëlwydd Satan, a Gwirionedd a gymerodd ei edyn, ac a aeth yn ei ol i'r nef. Yn awr gwelwch yr olygfa annysgwyliadwy yn Eden. Dyma yr anufuddion a'r anwiriaid wedi eu dal, ac yn sefyll o flaen y fainc; a dedfryd gyfìawn y naill a'r llall yn gy- hoeddedig arnynt; ond, wele ! ar y man tywyUaf o gwmwí dudew y bygythiad, y mae enfys wedi ei phaentio, a dyma ddyn pechadurus yn dechre cael lle i obeithio. Y mae efe yn clywed Gwir- ìoncdd yn Uefaru wrtho mewn iaith newydd yr hon a ddysgasai Trugaredd iddo. fthaid i Adda ac Efa fyned yn grwydríaid oBaradwys; ond os na chônt fwyta ychwaneg o ffrwyth y pren a flysiasant ac a ladratasant, ac os na chânt impyn o bren y bywyd oedd yn nghanol yr ardd, y mae Gwirionedd yn rhoddi iddynt yr hyn oedd lawer gwell —blaguryn prydferth yr addewid, yr hwn a welid ryw ddydd yn bren mawr cysgodol,ac yn llawn o ffrwythau hyfryd anfarwoldeb. Maent yn myned o'r ardd, ond y mae Gwirionedd yn myned gyda hwynt; a da oedd iddynt gael ei gym- deithas mewn byd o unigedd, a byd wedi ei felldithio o herwydd peehod. Cyn hir, dechreuodd dynion anilhâu ar wyneb y ddaear, a chanfyddid trefi a dinasoedd yn codi eu penau. Aeth Gwirionedd i'w mysg, ond nid oedd yn cael ond ychydig groesaw. Yr oedd Seth, ac Enoch, a Methusaleh, yn dadleu drosto ; ond ni wrandewid arnynt. <{Chwi a fyddwch megys duwiau,"— dyna a gredid gan y lliaws; a chan hyny yr oedd Gwirionedd, wrth alw i ymos- tyngiad, edifeirwch, a rhodiad gyda Duw, yn llefaru yn ofer. Aeth y ddaear yn orla\vn o drais a chelwydd, nes mai prin yr oedd Gwirionedd yn gallu cael lle i lettya; felly efe a aeth i fy w yn gyfan- gwbl at Noah, a chydag ef yr aeth un bore i'r arch a adeiladesid ganddo. Cawsant fordaith ddyeithr ar fôr heb làn iddo, ac uwchben lloned byd o dro- seddwyr anghrediniol wedi eu dinystrio; ond o'r diwedd dacw Wirionedd yn cael lle i roddi ei droed i lawr drachefn ar y ddaear. Safodd yn ymyl yr allor a gyf- odwyd gan Noah, edrychodd yn hyfryd ar "y bwa yn y cwmwl," ac arosodd gyda Noah yn ystod ei hir arosiad ar y ddaear, ac ni pheidiodd a chofrestru yn