Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehif. CXXI.] IONAWR, 1857. [Llyfe XI. ẅrfjinìiatt n (fnJjátóliaiL MYFYRDOD CREFYDDOL. Cyfieithiad o Draethawd a ysgbifenwyd gan y Pabch. NEW'MAN HALL, B.A., GWEINIDOO Capel Sübrey, Llundain. Yn nghanol gweithgarwch crefyddol y dyddiau hyn, dyleui fod ar ein gwyl- iadwriaeth yn fawr rh g i gynhyrfiad y moddion cyhoeddus fod ar ffordd yr ymarferiad tawel a iachusol o fyfyrdod dirgel. Os oedd crefydd oes fiaenorol wedi ei chyfyngu yn ormod i neilldu- aeth, y mae crefydd yr oes bresennol yn rhy gyfyngedig i'r eglwys. Y pryd liyny yr oedd cyfiwr y byd yn cael ei adael yn ormod o'r sj'lw gan yr ystyr- iaetb a delid i dduwiolder calon y credadyn ei hun: yn awr y mae ein hiechyd ysbrydol ein hunain yn cael ei esgeuluso yn ormod pah yr ydyni yn ceisio llesâu rhai eraill. Yr oedd cyn- nulliadau cyhoeddus a chymdeithasol y pryd hyny yn llai mynych: mae cref< ydd deuluaidd a phersonol yn awr yn llai ei hamaethiad. Bu amser pan nad oedd y gwirionedd yn cael ei gyfiwyno mor fynych i'r meddwl trwy bregeth- au: yn awr nid yw yn cael ei argraffü mor fynych ar y galon trwy fyfyrdod a gweddi. Nid meddwl yr ydym y dylid peidio â'r drafferth grefyddol sydd ynglŷn â chyfeisteddfodau, pregethau, areithiau, a chymdeithasau o bob math. Pell oddiwrth hyny. Y mae eisieu mwy o ■weithgarwch nag yr ydym eto nid yn unig wedi ei gyrhaeddyd, ond fe allai wedi dychymygu am dano. Ond mae y gweithgarwch yn un iachusol, gwas- tadol, a chynnyrchiol, yn unig pan yn cyfodi oddiwrth ac yn cael ei dymheru gan fyfyrdod duwiolfryd. Dyma y ffynnon heb ba un y bydd y ffrydiau yn sychu neu yn myned yn afiach. Y mae dwy elfen mewn gwir dduw- ioldeb—y fyfyriol a'r ymarferol; ac y mae crefydd yn ddifiygiol os heb y naill neu y llall. Os y blaenaf a feith- rinir yn unig, nid yw yn fyfyrdod teil- wng : os y diweddaf, nid yw yn ymar- feriad uniawn. Bod yn wastad yn myfyrio heb fod byth yn gweithredu, yw myfyrio i ychydig bwrpas. Mae rhywrai felly wedi bod yn wastad—llawer mewn oesau blaenorol, a gormod eto. Nid yw cenedlaeth y mynachod a'r meu- dwyaid wedi darfod. Mae y rhai hyn yn wastad yn darllen, yn myfyrio, yn gweddio, ac yn gallu siarad llawer am "brofiadau melus," ac yn edrych yn wastad mor dawel, mor hynaws, dybyg- ech—mor hynod o ysbrydol. Ond nid ydynt yn gwneuthur dim. Maent yn eistedd wedi ymlapio yn eu mwynhâd hunangar, gan feddwl eu bod yn an- rhydeddu Duw trwy eu defosiwn di- waith, a'u bod yn fwyaf ysbrydol po leiaf fyddo ganddynt o ofal a llafur am wneuthur daioni i eraill. Mor gyfeil- iornus raid fod y golygiad yma ar gref- ydd yr Hwn fyddai " yn myned oddi- amgylch gan wneuthur daioni," a chrefydd ei weision ysbrydoledig y rhai a weithient "mewn amser ac allan o amser!" Mae eraill yn cyfeiliorni ar yr ochr arall. Maent yn rhedeg o bregeth i bregeth, o gyfarfod i gyfarfod, o waith i waith; onä nid ydynt ond anaml yn eu hystafeUoedd. Mae eu clustiau, eu Uygaid, eu dwylaw, a'u tafodaü, yn brysur; ond mae eu calonau, ysywaeth,