Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehif. CLXV1II.] RHAGFYR, 1860. [Llyfb XIV. ŵtóSẃte» YK APOSTOL PAUL. GAN Y PARCH. BENJAMIN D. THOMAS, LLANDILO. Mae cryn duedd yn yr oes hon i ed- rych yn ol, a chwilio i mewn i deilyng- dod cymeriadau enwogion yr oesoedd a aethant heibio. Ond pwnc yw cael allan "y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir," mewn perthynas iddynt. Mae i hyn ei fantais a'i anfantais, fel pobpeth arall. Y fantais yw, ein bod yn ddigon pell oddiwrthynt, feí nad oes dim perygl ì'wrhinweddau na'u rhagoriaethau ddy- îoa i gystadleuaeth â'r eiddo neb o hon- om ni; o herwydd paham, ond odid na chânt chwareu teg; ond pe bydd- ai y gwrthddrych a ddesgrifid yn byw yn ein mysg, cànt i un y cynhyrfid rhagfarn a chenfigen yn meddyliau lla- weroedd tuag ato, fel nas mynent, ac oblegid hyny nas gallent, edrych yn gywir ar y desgrifiad a wneid o hono. Yr anfantais yw, ein bod wedi ein trós- glwyddo gan amser mor bell oddiwrth y gwrthddrych a gynnygir ei bortreiadu. Felly y teimlwn yn bresennol, wrth geisio edrych ar hanes a nodWeddiad Apostol y Cenedloedd. Nid yw yr hwn a gyfrifir yn fawr mewn un oes yn cael, bob amser, ei gyfrif felly gan oes araíl, nac ychwaith gan bob dosbarth yn ei oes ei hun. Bryd arall, y mae ambell un mor wir fawr fel y mae y oyfrif a wneir o hono gan eraill yn safon pur gywir o'u mawr- edd hwy eu hunam. Un felly oèdd Paul. Megys y dywedodd Locke yr athronydd amdano, "Os meddylianeb mai dyn cyffredin oedd Pauí, nid ÿw hyny ond prawf mai cyffredin iawn yw er ei hun. Os yw perohenogiad y cynneddfau epeidiol mwyaf godidog— addurnedig gan y ddysgeidiaeth ddyfn- af a'r wybodaeth helaethaf, a'r oll o hyny eilwaith wedi eu llwyr gysegru yn aberth byw, yn wyneb mil a mwy o anhawsderau, ar allor ei Dduw, ei wlad, ei genedh a'r byd,—yn teilyngu cael ei gyfrif yn wir fawreddus, amlwg y w, na bu ond ychydig erioed yn y byd, os bu neb, yn gyfartal haeddiannol â'r Apostol Paul o gael ei gyfrif felly. Yn awr, ni a geisiwn edrych arno trwy gyfrwng hanesyddiaeth bagan- aidd ac ysgrythyrol. Cafodd SauL fel y gelwid ef y cyntaf, ei eni tua'r un amser a'r Arglwydd Iesu; dwy flynedd o'i flaen, medd rhai; dwy flynedd ar ei ol, medd eraill. Yr am- ser y daliai ddilíad mwrddwyr Stephan, gelwir ef "y dyn ieuanc" (veâvías), Act. vii. 58, yr hwn air, mae'n debyg, nas arferid am neb ond a fyddai dros ddeg ar hugain oed: Tràides hyd ugain; veâvi<TKoi hyd ddeg ar hugain; veSvLai hyd ddeg a deugain; yna irpeo-^vrepoi oddiyno allan. Merthyrwyd Stephan tua'r flwyddyn 37 O.C., yr un flwydd- yn ag y bü farw Tiberius Caesar, ac y daeth Caligúla Csesar, ei ŵyr, i'r orsedd yn ei le ef, ac yr alítudiwyd Pontius Pilát y Eháglaw i Vienna, hen ddínas yn nwyreindir Ffrainc, lle y gwnaeth ddiwedd arno ei hun. Ac y mae yn debyg mai yn mis Tachwedd yr un flwyddyn y daliwyd Saul, ac yr attal- iwỳd ef yn ei yrfa erledigaethus, gan oìeuni o'r nef, pan yn myned tua Da- masous. Os felly, blwyddyn hynod oedd hon. Ÿ fan Ue ganed ef oedd Tarsus, prif- l 1