Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLXV.] MEDI, 1860. [Lltfr XIV. ŵidlîuto. SYLWADAU YMARFEROL YNGHYLCH Y SABBATH. GAN Y PARCH. HUGH HÜGHES, BRYNHYFRYD, ABERGELE. EX0D. xx. 8—11: "Cofia y dydd Sabbatb, i'w sancteiddio ef. Chwe' diwmod y gweithi, ae y gwnei dy holl waith. Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddyeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth. 0 herwydd mewn chwe' diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hyny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac a'i sancteiddiodd ef." Fod Duw yn deilwng o wasanaeth ac addoliad oddiwrth ei holl grëaduriaid rhesymol, a bod rhwymedigaeth ar y cyfryw neillduo rhan o'u hamser i'w wasanaethu, ydynt wirioneddau moes- ol, sylfaenedig ar hawl naturiol y Gor- uchaf, a'r berthynas sydd rhyngddo â'i grëaduriaid. Ond mai un dydd o bob saith, neu y seithfed ran o'n hamser, sydd i'w neillduo i'r dyben hwnw, sydd yn ymddibynu ar apwyntiad Dwyfol, ac a ysgrifenwyd gan Dduw â'i fys ei hun ar lech faen. Y dydd hwn o grë- adigaeth y byd hyd adgyfodiad Crist oedd y seühfed dydd; ac wedi hyny a newidiwyd gan Grist, neu ei apostol- ion, i'r dydd cyntaf o'r wythnos, ac sydd i barhâu felly hyd ddiwedd am- aer. Y mae y Sabbath yn arwydd rhwng Duw â'i bobl. Exod. xxxi. 13, 17: "Diau y cedwch fy Sabbothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, eydd yn eich sanct- eiddio. Rhyngof fi â meibion Israel y maô yn ajrwydd taragywyddol, mai mewn «hwe' diwrnod y gwnaeth yr Ar- glwydd y nefoedd a'r ddaear; ac toai ar y soitbied dydd y peidiodd, ac y gorphwysodd efe." Y mae Duw ẅedi ei ordeinio yn arwydd o'i ffafr ef i'w bobl; ac y mae ei gadw yn sanctaidd yn arwydd o'u hufudd-dod hwythau iddo ef. Gorchymyn moesol, ac nid seremo- nîol, ydy w hwn; oblegid fe'i sefydlwyd gyntaf yn nechreuad amser, pan y gor- phwysodd Duw oddiwrth waith y grë- adigaeth. Diammheu fod Adda, Abel, Enoch, a'r patrieirch, yn ei gadw, er na roddir i ni hanes am hyny, mwy nag am eu haddoliad teuluaidd. Ond pan ydoedd hiliogaeth Abraham yn gaeth- weision yn yr Aipht^ dichon nas gall- asent ei gadw yn deilwng; eithr Wedi eu rhyddhâu o'r caethiwed hwnw, fe adnewyddwyd y gorchymyn i "gadw yn sanotaidd y dydd Sabbath" yn nghyhoeddiad y ddeddf ar SinaL Y mae y gorchymyn hwn yn un o'r deg a gynnwysir yn y ddeddf foesol a lef- arwyd ar Sinai, Deut. iv. 13, ac felly yn rhwymo holl- ddynolryw i ufuddhâu i'wgynnwysiad. Ee lefarwyd y gorchy- myn hwn gyda'r un ofnadwyaeth âr naw eraill, o ganol "y taranau a'r mellt, a sain udgorn, a'r mynydd yn mygu," nes ydoedd meibion Israel yn arswydo, a Moses ei hun yn ofni ae yn erynu» Exod. xx. 18; Heb. xii. 18, 19. Fe'i gosodwyd ddwywaith gan Dduẅ yn b b