Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Ehif. CLXIV.] AWST, 1860. [Llypr XIV. ŵtójjuto. YR EGLWYS A'E APOSTOL PEDR. BETH A DDEALLIE WETH Y FEAWDDEG, "AE Y GEAIG H02Î YE ADEILADAF FY EGLWY8," Matthew XYÌ. 18 ? GAN Y PARCH. JOHN HARRIS JONES, M.A., Ph.D. Mae yn hysbys i bawb sydd yn gyfar- wydd yn hanes yr eglwys Gristionogol, fod crefydd wedi dyoddef llawer o gam ar law ei phleidwyr yn gystal ag ar law ei gwrthwynebwyr. Yn wir, os cyfrif- wn yrnhlith pleidwyr crefydd ei chyf- eillion mewn enw ac mewn ymddangos- iad yn unig, fe allai y gallwn ddyweyd ei bod wedi dyoddef mwy oddiwrth ei chyfeillion nag oddiwrth ei gelynion; oblegid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r eglwys, fel yr hyn sydd yn myned i mewn i'r dyn, sydd yn ei halogi. Bleidd- iaid yn nghrwyn defaid ydynt y cymer- iadau gwaethaf; dynion rhith sanct- eiddiol,—yr ysgrifenyddion a'r Phari- seaid rhagrithiol, a groeshoeliasant Iachawdwr y byd. Ond heb sylwi ymhellach ar y drygau y mae'r eglwys wedi eu derbyn ar law ei chyfeillion gau, gellir nodi y gamdrmiaetha gaf- odd gan ei chyfeillion gonest, ei ham- dditTynwyr cywir; a hyny yn codi oddi- ar ragfarn gormodol, zel benboeth, zol uwchlaw gwybodaeth, dros y gwir- ionedd, neu ynte oddiwrth y ffaith eu bod wedi cario eu profion yn rhy bell o blaid unrhyw athrawiaeth, neu i wrthbrofi ymresymiad eu gwrthwyneb- wyr; ac felly, fel llawer byddin fuddug- oliaethus, wedi eu meddwi gan lwydd- iant, yn myned ar ol eu gelynion i'w tiriogaeth eu hunain; ac yno yr oedd yr olaf yn troi arnynt ac yn eu hymlid, ac felly yn taflu gogoniant yr'oruchaf- iaeth i raddau o dan gwmwl. Nid pob dyn duwiol sydd ddyn doeth ; ac oddi- wrth annoethineb pleidwyr y gwirion- edd, mae llawer o athrawiaethau cref- ydd wedi dyoddef yn fawr. Fel eglurhâd, ni a enwn un neu ddau o wirioneddau pwysig a sylfaenol y grefydd Gristionogol, y rhai a dder- byniasant gam ar law eu hamddifiyn- wyr gonest. Dyna yr athrawiaeth am y bôd o Dduw. Mae y gwirionedd hwn yn sylfaen i, ac yn cael ei ragdybied gan, bob athrawiaeth arall a ddadgudd- ir yn yr Ysgrythyrau. Er fod yr athrawiaeth hon yn seiliedig ar brofion cryfion lawer, eto y mae rhai yn dwyn o'i phlaid ac yn hòni cadernid a phri- odoldeb yr ymresymiad a elwir yn gy- ffredin, yn iaith _y dysgedigion, yr " ar- gument a priori" Ond wedi olrhain y prawf hwn, nid ydyw yn ymddangos i ni yn gadarn. Fe ellir gosod allan yr argument yn y dull canlynol:—^Mae gan ddyn ddrychfeddwl am fôd per- ffaith—-bôd mor berffaith, fel nad ydyw yn bosibl i neb fod yn fwy nag ef. Os oes gan ddyn ddrychfeddwl am fôd fel yna, y mae yn rhaid ei fod yn bodoli hefyd yn sylweddol heblaw yn y medd- wl dynol, oblegid pe amgen ni byddai ynfôd perffaitn o gwbl. Mewn àteb- iad i'r ymresymiad yna, fe sylwir gan dduwinyddion eraill, y rhai a gredant yn yr athrawiaeth am y bôd o Dduw i yr un mor ddlysgog â'r lleül y cyfeir-