Skip to main content

Y DEYSORFA. Rííif. CLXIII.] GORPHENAF, 1860. [Llyfr XIY. 'tatjẁra. PECHODAU BYCHAIN. GAN Y PARCH. J. JENEINS, M.A., CAERLLEON. Er nad oes dim pechodau ynddynt eu hunain yn fychain, eto mae Uawer yn ymddangos felly, o'u cymharu âg eraill. Y mae yr ystyriaeth o hyn, yn rhoddi mantais i ni ganfod cyfrwysdra a di- chell y gelyn pan yn temtio, a thwyll a llygredigaeth ein calonau ein hunain pan yn cydsynio â'r demtasiwn. Mae gwrthddrychau yn ymddangos i ni yn fawrion neu yn fychain yn ol eu pell- der neu eu hagosrwydd, ac y mae y cyfryngau trwy ba rai y gwelwn hwynt yn peri iddynt edrych yn eglur neu yn anamlwg. "Os bydd y llygad yn ddrwg, bydd yr holl gorff yn dywyll." Mae hyn yn wirionedd mewn ystyr foesol ac ysbrydol fel mewn ystyr naturiol. Dichon nad oes dim sydd yn ym- ddangos i ddynion mor wahanol i'r hyn ydyw a phechod. I rai mae yn ym- ddangos yn bechod, yn dra phechadur- us; ond i eraill yn rhinwedd: "Dy- wedant am y drwg, Da ydyw, gan osod chwerw am felus." Mae rhai yn ei ganfod fel Joseph, yn fawr ddrwg, ond dywed eraill am dano fel Lot am Soar, " Onid bechan yw ?" A rhwng y ddau eithafion, ymddengys pechod ymhob gwedd a graddau. Mae yn amlwg i bob darllenydd syml o'r Bibl, fod Duw a dynion yn edrych ar bron bob peth mewn goleuni pur wahanol; ac nid edrychant ar ddim felly yn fwy nag ar bechod. Yn ngolwg Duw, mae yn tfieidd-dra ac yn ysgelerder nad all efe edrych arno, a'i ddrwg haoddiant y cyfryw ag i deil- yngu cosbedigaeth dragywyddol. Ond O mor wahanol yr edrychir arno gen- ym ni ! Nid yw pellder lle, na meith- der amser, yn ddim i Dduw. Mae pob peth yn bresennol iddo ef, yn noeth ac yn agored i'w lygaid. Mae yn gosod " ein hanwiredd ger ei fron, ein dirgel bechodau yn ngoleuni ei wyneb." Nid yw mil o flynyddoedd iddo ef ond megys un dydd. Mae yn gweled poL peth yn ei o'íeuni ei hun ; am hyny mae yn gweled pob peth fel ag y mae mewn gwirionedd. I ninnau, y mae llawer o wrthddrychau, yn enwedig rhai o natur foesol ac ysbrydol, yn ymddangos o bell. Edrych arnynt yr ydym trwy gyfryngau anwybodaeth, rhagfarn, a hunan gariad. Mae y deall, llygad yr enaid, wedi ei dywyllu gan bechod, a'r canlyniad ydyw bod ein syniadau, o anghenrheidrwydd, yn gyfeiliornus ac anmherffaith. Pan y mae pechod trwy y gorchymyn yn ymddangos yn dra phechadurus, mae dyn yn edrych arno o'r un man, ac yn wyneb yr un drych, â Duw ei hun. Mae diffyg ystyried nad yw crefydd yn gynnwysedig mewn ffydd yn unig, mewn profiad yn unig, nac mewn ym- arferiad yn unig, ond yn yr oll o hon- ynt, weithiau wedi achosi llawer o bryder i ambell gristion da, a pheri iddo ofni nad ydyw erioed wedi gweled pechod yn bechod, am nad yw bob amser yn ymwybodol yn ei deimlad o'i adgasedd, ac o ganlyniad nad yw yn gwerthfawrogi Crist fel yr unig War- edwr oddiwrtho. Dichon mai gaa