Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Rhif. CLXI.] MAI, 1800. [Llyfr XIV. ẅrfijnto. DUW YN TRUGARHAU YN OL EI ARFER. CRYNODEB O BREGETH A DRADDODWTD AB PSALM CXIX. 132. "Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthyf, yn ol dy arfer i'r i-hai a garant dy enw.'; Enw Duw ydyw pob dadguddiad, am- lygiad, neu hysbysiad a roes ac a rydd efe o hono ei hun. Mae ei enw ef i'w weled ar yr oll a ordeiniodd, ar yr oll a ddywedodd, ac ar yr oll a wnaeth. Ac y mae pobl dduwiol yn wastad yn caru enw Duw ymha le bynag ei canfyddant. Gan eu bod yn ei garu ef ei hunan, niaent yn caru darllen ei enw fel y mae yn ysgrifenedig yn ei weithredoedd, yn ei air, yn ei dŷ, yn ei blant, ac yn enw- edig yn ei briod-Fab; ac ymhob man lle y cyfarfyddant â'i enw, maent yn ei fawrhâu a'i ogoneddu. Mae Duw yn eiddigus iawn o'i enw; mae yn sylwi gyda digllonedd ar bawb sydd yn ei anmharchu, a chyda boddlondeb ar bawb sydd yn ei gara. "Nid dieuog gan yr Arglwydd y neb a gymero ei enw ef yn ofer ;" ond y mae yn arfer edrych yn raslawn ar, a thrugarhâu wrth, y rhai a garant ei enw. Yr oedd y Saímydd yn hysbys o'r gwirionedd hwn, ac yn äeimladol o'i werth, ac am hyny y mae yn gwedd'io, "Edrych ar- naf, a thrugarhâ wrthyf, yn ol dy arfer i'r rhai a garant dy enw." Gwna â mi, Arglwydd, yr un ffafr ag yr wyt yn wneuthur â'r rhai oll sydd yn dy hoffi di, ac yn hoff genyt. Mae yn addas i ninnau yn awr weddîo yn gyffelyb; ac felly ni a geisiwn nodi rhai pethau a welir yn ysbryd y Sahnydd yn ei waith yn gwedcu'o fel hyn, i edrych a effeithia hyny arnom ninnau er ein gwneyd yn debyg iddo. Beth a olygir gan y Salmydd pan y mae yn gwedd'io am i Dduw wneyd ag ef yn ol ei arfer i'w rai anwyl ] I. Yr oedd yn dywedyd hyn fel dy- nodiad o natur oruchel y bendithion yr oedd yn eu deisyf. Nid oedd am aros gyda doniau allanol a thrugareddau tymmorol; ond yr oedd yn dymuno y pethau mawrion a neillduol sydd yu hynodi saint y Goruchaf oddiwrth bawb eraill. Ti a wnaethost bethau rhyfedd â mi yn dy ragluniaeth, fel ]}g dywedasai; cynnysgaethaist fì yn hel- aeth á thalentau naturiol, a dyrchefaist fi i enw a mawredd daearol; ac 0 ! mor syn yw gweled hen fugail defaid yn frenin ar Ërael. Ond mae fy enaid yn teimlo fod arno eisieu pethau o natur uwch, a gwell, a mwy parhâus. Yr wyf yn gweled dy elynion yn cael eistedd ar orseddfeinciau megys finnau. Dyro i mi y gymwynas fawr sydd yn arwydd er daioni am byth. " Úofia fi, Arglwydd, yn ol dy raslonrwydd i'th bobl; ymwel âmiâ'th iachawdwriaeth. Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthyf, yn ol dy arfer i'r rhai a garant dy enw." Mae y dyn sydd o'r byd yn sefydlu ei holl feddwl a'i ddymuniad ar bethau y byd ; ac fe all gael cyfran fawr o hon- ynt hwy, a disgyn o'u canol i dân uffern. Ond y mae yr hwn a anwyd o Dduw yn ceisio y pethau sydd uchod. Ni fodd- lonir mohono ef â'r pethau hyny sydd yn gyffredin i bob math—yn cael eu rhoddi yn ddiwahaniaeth i'r drwg a'r