Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CLX.] EBRILL, 1860. [Lltfr XIV. ẅflîtjjnìtau. TREFN GRAS YN ERBYN PECHOD. CaTîíODEB O BREGETH A DBADDODWTD TN TB WTDDGRUG, NOS SABBATH, Ionawr 3, 1841, GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN JONES, TALYSARN. Rhufeiniaid vi. 1, 2 : "Beth gan hyny a ddywedwn ni 1 a drigwn ni yn wastad mown pechod íel yr amlhäo gras ? Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw eto ynddo ef ?" Y mae dynion ymhob oes wedi bod yn dra thueddol i ddychymygu rhy w ffordd i ddedwyddwch yn y byd a ddaw a ganiatäo ryddid iddynt ddilyn blysiau llygredig yn y byd hwn. Mae rhai yn camgasglu oddiwrth athrawiaeth gras Duw—yr athrawiaeth am iachawdwr- iaeth pechaduriaid yn hollol o ras—y gallant hwy "drigo yn wastad mewn pechod fel yr amlhäo gras." Gan fod y Tad wedi caru pechaduriaid er tragy- wyddoldeb, a'r Mab wedi marw ar y groes i'w prynu, ac mai gwaith yr Ys- bryd Glân yw sancteiddio y galon, maent yn meddwl fod hyny yn caniat- âu iddynt hwy ymddiofalu, gorwedd i lawr yn segur, gan lynu yn eu dryg- ioni, a gadael felly eu hiachawdwriaeth ar Dduw. Ond y mae athrawiaeth yr efengyl am ras Duw yn eithaf pell oddiwrth gefnogi llygredigaeth mewn un modd; o herwydd y mae pob cangen o athrawiaetH gras yn cael ei defn- yddio yn yr Ysgry thyrau yn annogaeth- au o'r fath gryfaf i sancteiddrwydd. Yr ydym yn cael yr Apostol yn dan- gos yn niwedd y bennod o'r blaen fod cadwedigaeth pechaduriaid yn gwbl o ras Duw—mai gras sydd yn teyrnasu Ìn holl drefh y cymmod—mai o ddawn >uw y mae cyfiawnhâd bywyd yn y byd hwn, a theyrnasu niewn bywyd yn yr hwn a fydd—ac mai doniau Duw yw yr holl bethau hyny sydd yn parotòi i fywyd tragy wyddol. Ac yma y mae yn rhagflaenu camgasgliad a allai dynion wneuthur oddiwrth hyny. " Beth gan hyny a ddy wedwn ni ì " Pa ddefnydd a wnawn ni o'r athraw- iaeth hon ì Pa fodd y mae'r gwirion- eddau a nodwyd yn caniatáu i ni fyw ? Gan fod iachawdwriaeth pechaduriaid fel hyn yn gwbl o ras Duw, "a drigwn ni yn wastad mewn pechod fel yr aml- häo gras ?" Ai dyma y defnydd a ddyleni wneyd o'r fath athrawiaeth,— penderfynu byw mewn pechod ì Hwyr- ach nas gellir penderfynu yn hollol ymha un o ddwy ffordd yr oedd yr Apostol yn golygu y gallai dynion dynu y cyfryw gasgliad. Ai fel hyn ?—Gan nad all ein gweithredoedd ddim tuag at ein cadw, na'n cyfiawnderau ddim tuag at ein cymeradwyo ger bron Duw, eithr mai trwy ffydd yn Nghrist yn unig y mae i ni gael ein cyfiawnhâu, nid ydym yn gweled un anghenrheid- rwydd i ni feddwl am gadw gorchymyn- ion Duw a byw yn dduwiol, canys nis gwna hyny ddim at ein cadw rhag y llid a fydd. Neu ynte,—Gan fod y Duw mawr yn gogoneddu ei ras trwy