Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DBYSORFA. Rhif. CL1X.] MAWRTH, 1860. [Llyfr XIV. ŵítrtjinto. GAIR CRIST WRTH EI GANLYNWYR NEWYDDION. GAN MR. EBENEZER THOMAS (Eben Yardd), CLYNNOG. Yr Arglwydd Iesu Grist yw athraw mawr pob cristion, a da y gwnawn fod yn dal ar bob gair sydd ar gof a chadw o'i ddywediadau awdurdodol Ef; oble- gid i'w orchymynion Ef yr ydym i ufuddhâu, yn ol ei gyfarwyddiadau Ef yr ydym i ymddwyn, ac ar ei siampl Ef y mae i ni edrych, i'w dilyn ymhob modd, trwy bob dyfal bara. Ymysg y lliaws o bethau pwysig a amlygir i ni yn muchedd ac athrawiaeth ein Har- glwydd Iesu Grist pan oedd yma yn y cnawd, mae ei ymddygiad at y rhai a fyddent yn cychwyn ar ei ol, gyda golwg i fod yn ddysgyblion a chanlyn- wyr iddo, yn hynod o darawiadol a theilwng o sylw. Mae urddas, awdur- dod, penderfyniad, a difrifoldeb ei agwedd tuag at, a'i addysg i'r, cyfryw rai, yn arbenig o sobr a dylanwadol. Bwriedir yn y traethiad hwn ddal i fyny a dwyn ger bron y nodwedd anghyffredin yma yn agwedd ac ath- rawiaeth ein Hiachawdwr, sef y modd yr ymddygai at y rhai a fyddent yn cy- chwyn ar ei ol, ar ysgogiad cyntaf eu meddwl i broffesu eu hunain yn ddysg- yblion a chanlynwyr iddo. Yr hyn sydd yn nodedig yw, y byddai yn dy- weyd y gwaethaf wrthynt ar unwaith. Gyda'u bod yn awgrymu eu pender- fyniad i'w ddilyn, rhybuddiai hwynt o'r anhawsderau oedd o'u blaen, ac o'r rhwystrau a'u cyfarfyddent, yn gystal ag o'r ymröad diysgog a dianwadal a ofynid oddiwrthynt hwythau i ddal eu ffordd yn ugwyneb y rhwystrau i gyd. Dichon mai yn y rhanau olaf o'r xiv. bennod o Efengyl Luc, y ceir y cofnodiad cyflawnaf o ddywediadau ein Harglwydd ar y mater hwn. Myn- egir yno fod "Uawer o bobl yn cyd- gerdded âg Ef," ac ìddo droi a dywedyd wrthynt,—"Os daw neb ataf n, ac ni chasäo ei dad a'i fam; a'i wraig, a'i blant; a'i frodyr, a'i chwiorydd; i'e, cCi einioes ei hun hefyd, nid all efe fod yn ddysgybl i mi; a phwy bynag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ol i, nid aU efe fod yn ddysgybl i mV Mae yn debyg mai rhywbeth gyda digon fyddai egluro y gair "casâu" yn yr adnodau blaenor- ol i ddarllenwyr y Bibl a'r Dbysorfa ; ond rhag ofn y dichon i rywun gyfarfod â dyryswch yn y gair, digon yw dyweyd mai y modd y deallir ef yn gyffredin jW}—caru Crist yn fwy nà'r pethau y sonir am eu casâu; neu i'r cariad at- ynt hwy fod yn llai na'r cariad at Grist, fel pe dygwyddai i'r ddau gariad ddy- fod un amser i wrthdarawiad, y byddo cariad at Grist yn goruwchreoli ac yn cario y dydd yn mryd ac yn ymddyg- iad y dysgybl. Yn wir, y mae Iesu Grist ei hun yn eu negluro fel hyn, yn ol cofnodiad yr Efengylwr Matthew o'i eiriau, yn pen. x. 37—40. Dyma y darlleniad yno,—" Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi; a'r hwn nid yw yn cymeryd ei groes ac yn canlyn ax fy ol i, nid yw deilwng o honof fi. Y neb sydd yn cael ei einioes a'i cyll, a'r neb a gollo ei einioes o'm plegid i a'i caiff