Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DBYSOBFA. Rhip. CLYIII.] CHWEFROR, 1860. [Llyfr XIV. ŵrójiẁiít. CREFYDD. GAN Y PARGH. ROBERT ROBERTS, LLANGEITHO. Y MAE y gair crefydd yn air a arferir yn fynych genym, yn enwedig y dydd- iau hyn; ond y mae y syniad am yr hyn a feddylir wrth greíýdd yn am- iywiol. Y mae miloedd wedi aberthu yr oll a feddent—ie, eu bywydau, er mwyn crefydd, gan ei hystyrid y daioni penaf: y mae eraill wedi defnyddio pob gallu yn eu meddiant i'w hymlid o'r byd, gan ei hystyried y drwg mwyaf; ond er pob ymdrech a wnaed, myned rhagddi y mae, a phob arwydd sydd mai rhagddi yr ä heb gydnabod hawl neb dynion i'w hattal. Y mae y geiriau crefydd a chrefyddol yn cael eu har- fer amryw weithiau yn yr Ysgrythyr- au. Yr un gair thresíceia a ddefnyddir bob amser yn y Testament Newydd pan yr arferir y gair crefydd, sef bodd- hâu, neu addoli neu wasanaethu Duw wrth ei fodd. Y mae y gair a ddefnyddir gan yr ysgrifenwyr sanctaidd am gref- yddol yn tarddu o'r gair sebo—yn gol- ygu addoli. Y mae y gair Cymraeg am grefydd yn tarddu o'r gair cred neu cref: credu ei fod Ef; a lle y mae credu â'r galon, y mae crefu, sef erfyn neu weddio. Y mae y gair Seisonig reîi- gion o darddiad Lladinaidd—religare— yn cynnwys rhwymoyn (ji, ail gylymu. Gallesid meddwl fod ý rh.wymyn cynt- af oedd am y crëadur yn un digon cryf i'w gadw am byth gyda ei Grë- awdwr; eithr tori a wnaeth; ond y mae y grefydd Gristionogol yn ail rwymo ac yn sicrhâu cwlwm tragywyddol rhwng y credadyn a'i Grëawdwr, trwy rin- wedd gwaed Iesu Grist ei Fab ef, Y mae y gair Hebraeg deresh yn golygu chwilio am neu geisio. " Os ceisiwch chwi Ef, chwi a'i cewch." Y mae yn amlwg fod dyn wedi ei grëu i fod yn grëadur crefyddol: y mae yn anmhosibl iddo amddifadu ei allu- oedd rhesymol a moesol o bob tuedd i fod yn grefyddol. Nis gall lai na chyd- nabod rhy w awdurdod tu allan iddo ei hun, na theimlo ei ymddibyniad ar ryw allu tu hwnt iddo ei hun. Y mae yn wir fod llawer wedi ymdrechu ym- lid crefydd o'r byd, ac er hyny yn methu ei hymlid yn hollol o'u natur eu hun- ain. Y mae tuedd gynhenid neu wreiddiol yn natur dyn ifod yn grefydd- ol. "Y rhai heb fod y ddeddf gan- ddynt ydynt ddeddf iddynt eu hunain; y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonau, a'u cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo eu güydd, neu yn esgusodi." Mae crefydd naturiol y n tarddu oddiar ymwybyddiaeth o Dduw mewn Natur, ac o'r berthynas sydd yn bodoli rhyng- om âg ef fel ein Crè'awdwr a'n Cynnal- iwr, a'r rhwymedigaeth sydd arnom i'w garu a'i barchu fel y cyfryw. Ond y mae dyn fel troseddwr yn sefyll mewn anghen am ddadguddiad new- ydd a helaethach o Dduw, yn ei natuv foesoì a'i fwriadau grasol, nag a rydd Natur o hono, mewn trefn i sylfaenu