Skip to main content

Y DEYSORFA. Rhif. CVIII.] RHAGFYR, 1855. [Lltfr IX. SpgtEÌaìr. MR. DANIEL JOXES, TREGARON. Ganwyd Daniel Jones yn y Rhawnyr, gerllaw Tywyn Meirionydd, yn y flwyddyn 1758. Ei rieni a elwid wrth yr enwau John Humphrey a Martha Jones. Symudasant o'r Rhawnyr i'r Dyffryn-gwyn, tyddyn yn yr un gym- ydogaeth; ac yno y bu Daniel Jones a'i deulu yn byw ar ol marwolaeth ei rieni hyd y flwyddyn 1806, pryd y sy- mudodd i Carner-fawr, fferm yn agos i Dregaron, yn Sir Aberteifi, hen drigle Siôn Dafyäd Daniel, hen bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ; a Thregaron a'r cymydogaethau cyích- ynol a gawsant fwynhâu ei lafur defn- yddiol o hyny hyd ddiwedd ei oes hir- faith. Bu farw Mai 13, 1849, yn 91 mlwydd oed. Gresyn ydoedd fod coff- adwriaeth argraffedig am yr henuriad ffyddlawn hwn wedi ei oedi mor hir, ond gwell rhywbryd na byth; a hyderir na bydd y brâs-gofìon canlynol yn annerbyniol gan ddarllenwyr lliosog y Drysorfa. Cafodd Daniel Jones grefydd oddeu- tu yr un amser â'r hen batriarch Lewis Morris o Feiriónydd. Dygwyd ef ato ei hun trwy wrandaw pregeth pan oedd yn ddyn ieuanc gwyllt. Byddai yn dy- weyd am dano ei hunan ei fod y pryd Jhyny yn debyg i'r afradlawn yn chwen- nych Uanw ei fol â'r cibau, "ond ni roddodd neb iddo." Yr oedd yntau yn ymroddi i bleserau ffol gan chwennych mwyniant i'w ysbryd; ond ni roddodd aeb i Daniel. Wedi ei gyfnewid gan ras y nef, daeth ymlaèn yn ddyn am- lwg iawn gyda chrefydd/ Yr oedd yn bur fuan yn un o'r rhai oedd yn blaenori gydag achos crefydd yn Aberdyfi. Yr «edd erlid mawr ar greiydd yn y Öogledd Cyfbes Nbwydd. y pryd hyny, ac yn enwedig yn y rhan- dir yr oedd Daniel Jones yn preswylio ynddo. Dirwywyd ef unwaith gan E. Corbett, Ysw., Ynysymaengwyn, am fyned i wrandaw pregeth mewn tŷ an- nedd. Yr un boneddwr, fel y mae yn hysbys, a fu yn achos o ffoedigaeth Lewis Morris i'r Deheudir. Gorfu i Daniel Jones, ynghyda dau arall, dalu y dirwy. Y diwedd a fu, i Mr. Corbett ei droi ef allan o'i dyddyn oherwydd ei ymlyniad wrth grefydd gyda y Methodistiaid ; a helynt fawr a fu arno cyn cael lle arall; a dyna fu yr achlysur o'i ddyfodiad i Sir Aberteifì. Trôdd Rhagluniaeth y nefoedd ei symudiad yn lles iddo ymhob ystyr; a bu ei ddyfodiad o fendith i lawer yn y wlad hon. Yr oedd Daniel Jones yn ddyn cryf, gwrol, ac o faintioli cyffredin, ond ei fod yn glôff o'i glun er pan wskom ni ef. Yr oedd o dymher fywiog a serch- og iawn. Pan yr ysgydwai law, byddai y fath sirioldeb yn ei wynebpryd, a charedigrwydd a boneddigeiddrwydd yn ei ystum, nes y byddai mewn mynyd wedi gwneyd ei ffordd i fynwes yr hwn yr ymaflai yn ei law. Gŵr hynod ymhhth ei frodyr cref- yddol oedd ein hen gyfaül. Yr oedd ei ffyddlondeb, a'i gysondeb gyda phob moddion o ras, tu hwnt i'r cyffredin. Wrth wrandaw pregethau, pan ddy- wedai Ámen, canfyddid mai nid Amen diflas o ran arfer a fyddai, ond Amen tanllyd yn dyfod o ganol mynwfes lawn o gariad at y gwirionedd. Un noson, nid ymhell ar ol ei gladdedigaeth, gweini- dog parehus o Sir Benfro ar ganol ei bregeth yn nghapel TTegaron, * Ẅ- wedai yn 4difrifot " Yr wyf yn teaml® il