Skip to main content

Y DEYSOEFA. Ehip. CVI.] HYDEEF, 1855. [Llyfb IX. -tetjjnto íí ŵljîltatjiatt. CERYDDON A MADDEÜANT TADOL DUW. Preceih a draddodwyd ar Psalm XCÎX. 8. <fDuw oeddit j'n eu harbed, îe, pan ddielit am eu dychymygion." Uhbdas mwyaf a gwir ragoriaeth un- rhyw wlad ydyw, nid ei medrusrwydd celfyddydol, ei nerth milwraidd, ei llwyddiant masnachol, na dim o'r cyf- ryw bethau, ond fod gair ac ordinhad- au Duw o'i mewn, a phobl dduwiol yn preswylio ynddi. Fel ei wallt i Sam- son, felly y mae duwioldeb i wlad ; yn hyny y mae ei mawr nerth. Mae barn- au gwìadol yn cael yn fynych eu hoedi a'u symud, a thrugareddau gwladol eu hestyn, er mwyn duwiolion, neu mewn atebiadi'wgweddîau. Fel hynyrydoedd yn arbenig gyda yr Israel gynt, megys y dangosir yma yn y Salm: " Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef, a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw; galw- asant ar yr Arglwydd, ac efe a'u gwran- clawodd hwynt." Ac y mae hyn yn cael ei ailddywedyd: " Gwrandewaist ar- nynt, O Arglwydd ein Duw;" ac mewn atebiad i'w gweddiau ar ran yr Israel- iaid, "Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychymygion." Dar- llenwn hanes meibion Israel yn amser Moses ac Aaron, ac wedi hyny yn am- ser Samuel, ac ni a gawn adroddiadau helaeth a hynod am ddyehymygion a dialeddau y bobl, ac am arbediadau Duw o honynt mewn canlyniad i weddl- au ei weision erddynt. Gellir dywed- yd mai dyma yw swm y rhan fwyaf o hanesyddiaeth yr Hen Destament: Israel yn derbyn daioni Duw, ac eto yn pechu i'w erbyn; a Duw yn ymweled yn farnol âg Israel, ac eto yn eu harbed. Cypees Newydd. Yn yr anialwch, ac wedi hyny yn Ngha- naan, yr oeddynt yn tynu arnynt lid yr Arglwydd eilwaith ac eilwaith ; er hyny, "llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt." Gallem sylwi fod y geiriau hyn yn briodol iawn i'w eofiau uwch ein pen ninnau fel gwlad a chenedl yn y blyn- yddau hyn : "Duw oeddit yn eu harbed, 'ie, pan ddielit am eu dychymygion." Mae ein pechodau gwladol yn ysgeler a lliosog, yn galwr am farnau Duw ; ac y mae ei wialen yn ysgwydedig, ac yn cyffwrdd â ni o bryd i bryd, ac i'w theimlo mewn llawer math o wasgfeuon. Ond yr ydyai o hyd yn cael ein harbed ganddo ef, ac nid ein gosod yn ddifrod ac yn sathrfa. Er ein taraw mewn rhan â newyn, ac â haint, ychydig fiynydd- oedd yn ol, ac â rhyfel yn awr, eto ysgafn ydoedd ac ydyw arnom ni fel gwlad ragor ar wledydd eraill. Molwn Dduw am ei nodded drosom hyd yma, a dygwn ffrwythau addas i edifeirwch, rhag i ni o'r diwedd gael ein taraw mor llwyr fel na byddo meddyginiaeth. Ond ni a gymerwn ryddid i gym- hwyso y testun at gristionogion, hâd ysbrydol Abraham, yr Israel Duw sydd yn awr. ■ Yr oedd yr Iuddewon fel cen- edl neillduedig a phobl gyfammodol i'r Arglwydd, yn gysgod o'r eglwys efeng- ylaidd, ac o bobl dduwiol hyd ddiwedd y byd. Ac y mae y geiriau hyn yn ddiau yn rhan o hanes pobl Dduw hyd heddyw: "Duw oeddit yn eu harbed, E e