Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehif. CV.] MEDI, 1855. [Llyfr IX. ŵittt^nte ít ẅjrÄtjiatu YR HEN FETHODISTIAID. MYFYRDOD WRTH DDARLLEN HANES "METHODISTIAETH CYMRU.' GAN Y PARCH. WILLIAM GRIFFITHS, GOWER. "Eicb. tadau, pa le y maent hwy 1 a'r prophwydi, a ydyut hwy yn fyw byth ?" Pa le y maent hwy ? Y maent bellach, er ys tair cenedlaeth a rhagor, wedi gorphen eu gyrfa mewn llawenydd— wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, yn iach ar ben eu taith, a'u gweithredoedd yn eu canlyn hwynt. Hwynt-hwy a îafuriasant, a ninnau a aethom i mewn i'w llafur hwynt. Hwynt-hwy, mewn enbydrwydd am eu heinioes, a fu yn arloesi y tir anial, ynghanol erlid a gwarth, ac aml ruthr gelynion—bon- eddig a gwreng, llên a lleyg, oll am eu dyfetha a'u llyncu yn fyw. Tadau oesau blaenaf Methodistiaeth oeddynt oll yn ddynion hynod; ond nid oedd y byd yn eu hadnabod hwy, na'u heg- wyddorion; oblegid nid oedd (ac nid yw) yn adnabod y Tad, na'r Mab a anfonodd efe. Yr oeddynt yn gyffredin yn gystuddiol, yn ddiddym, ac yn ddrwg eu cyflwr ; eto yn aml yn gor- foleddu mewn gorfchrymderau, yn gorch- fygu a myned rhagddynt, yn wylo a myned allan, gan ddwyn had gwerth- fawr, ac hyd eithaf eu gallu yn hau ar lechweddau y mynyddoedd ac ar hyd dyffrynoedd Cymru, De a Gogledd; ac o'r had gwerthfawr bwn y mae miloedd o'r Cymry, o bob graddau yn awr, yn- cael medi cynauaf toreithiog. Hwynt- hẅy a ddygasant bwys a gwres y dydd, ac nid nyni. Er gwaeled oeddynt, ac er gwaned, yngolwg dynion, yr oedd gallu Duw, a doethineb Duw, yn lle- wyrchu trwyddynt mewn modd digy- Cyfres Newydd. ffelyb, nes peri arswyd a chywilydd ymysg doethion y byd hwn ; a llawer o bryd i bryd o'u gelynion creulonaf oeddynt yn cael eu hennill i ymuno â'u crefydd, ac yn codi yn amddiäÿnwyr gwrol o blaid y gwirionedd. Ehai o'r meini mwyaf cedyrn yn y mur, a'r goleuadau mwyaf dysglaer a lewyrch- odd ar furiau Methodistiaeth Cymry, a godwyd mewn manau, a thrwy foddion mor wael, na fuasai neb dynion—neb ondDuw—byth yn meddwl am danynt. " Pethau distadl y byd, a phethau dir- mygus, a ddewisodd Duw ; a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai y pethau sydd." Er fod yr oes gyntaf, a'r ail, ar Fethodistiaeth yn awr ymysg y pethau sydd wedi myned heibio, a llawer o bethau hynod y buasai yn dda i ni» eu gwybod wedi myned heibio gyda hyny i dir anghof, hyd y byd nesaf, eto y mae cymaint o'u hanes yn aros ag sydd yn cynnyrchu rhyw duedd gref yn y myfyrdod i drafaelu yn ol i gym- deithas y tadau a'r amserau hyny, ac yna trafeilio ymlaen drachefn at yr amser presennol. Y mae Solomon yn dywedyd, a Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn ?" sef, Na ddyro le i ysbryd beius a grwgnachlyd ûm bethau yn nhrefn rhagluniaeth Duw, yn y gwahanol am- serau, y rhainis gwyddost ond ychydig am danynt. Y mae tuedd yn y dymher b b