284 AMRYWIAETHAU. ynodd y Due yn ei holl frwydrau yn erbyn Ffrainc, ac yr oedd wrth ei ochr yn mrwydr arbenig Waterloo, lle y collodd ei fraich dde- hau. Wedi llanw amryw o swyddau milwr- aidd, gwnaed ef yn y fl. 1838 yn gadfridog ; ac ar ol marwofaeth y Duc o Wellington, daeth yn Arolygydd Cyffredinol y Cyflegrau, a dyrchafwyd ef i'r bendefigaeth dan y teitl o Farwn Raglan. Adnabyddid ef o'r blaen wrth yr enw Arglwydd Fitzroy Somerset. Yn neehre y rhyfel presennol, dewiswyd ef i lywyddu y byddinoedd Brytanaidd yn y Dwyrain, yn yr hyn y dangosodd bob ffydd- londeb a gwroldeb. Wedi beio llawer ar ei lywyddiaeth, yn annheg, gan rai newyddiad- uron, clodforir ef yn gyffredinol ar ol ei farw- olaeth, fel un a gyflawnodd ei ddyledswydd tuag at ei wlad. Dilynir ef fel câdlywydd gan y Cadfridog Simpson. Mae y Senedd wedi penodi £1,000 yn y flwyddyn fel pension i'w weddw, a £2,000 i'w fab, sydd yn etifeddu ei deitl, yr hyn sydd i bara i'w olynwyr am ddwy oes. Ar ddiwedd ein hanes am y rhyfel y mis diweddaf, gwnaethom fyr grybwylliad am yr ymosodiad aflwyddiannus ar Dŵr Malalcoff a'r Redan yn Sebastopol, am yr hyn y pryd hwnw nad oedd dim hysbysiadau manjdÃúdd wedi dyfod i law. Yr amgylchiad pruddaidd hwn a ddygwyddodd ar y 18fed o Fehefin. Ar y diwrnod cyn hyny, yr oedd y Saeson a'r Ffrancod wedi tânbelenu o'r ffosydd yn dra effeithiol, a phenderÃÿnwyd, mewn can- lyniad, i'r Ffrancod ymosod ar weithoedd Tŵr Malakoff y bore canlynol, ac i'r Saeson ymosod ar y Redan. Dechreupsant yn wrol ar eu gorchwyl pwysig a pheryglus; a llwydd- odd rhai i ddringo y muriau, a myned dros- odd i Hnell y gelyn; ond gydag i'r milwyr cynghreiriol ymddangos tu hwnt i'w ffosydd a'u gwarchgloddiau eu hunain, yr oedd dryll- beleni y Rwssiaid yn dyfod arnynt yn gawod- au didor, fel yr oeäd pawb oedd wedi myned ymlaen yn cael eu lladd neu eu clwyfo, a bu raid i'r gweddill gilio yn ol. Lladdwyd y cadfridog dewr, Syr John Campbell, y Mil- wriad Shadforth, y Milwriad Yea, a ll'iaws o'r swyddogion Brytanaidd, ac yr oedd holl nifer y Uaddedigion a'r clwyfedigion o'n mil- wyr dros fil, ac felly hefyd ymysg y Ffrancod. Addefai y Tywysog Gortschalcoff, y câdlyw- ydd Rwssiaidd, fod o'r Rwssiaid 1 cadfridog, i swyddwr, a 530 o ddyuion wedi eu lladd ; a 6 chadfridog, 42 o swyddogiou, a 3,378 o wÅ·r wedi eu clwyfo ; a sicrheir fod eu colled- ion yn llawer mwy. Yr oedd y cynghreirwyr yn edrych yn rhy ysgafn ar nerth y Rwssiaid, tra y dywedir fod ysbiwr, yr hwn wedi hyny a saethwyd gan bobl Lloegr, wedi myned i Sebastepol ar noson yr ljeg, a hysbysu y Rwssiaid am fwriad y cynghreirwyr, yr hyn a barodd iddynt barotoi yn effeithiol i'w der- byn. Y dydd canlynol, sef y 19eg, caed câdymbaid (truce) i gladdu y meirw. Nid oes, hyd yn hj'n, ddim o bwys mawr wedi cymerjd lle tua Sebastopol ar ol hyny. Mae y Ffrancod a'r Brytaniaid yn myned ymlaen yn ddygn gyda'u darpariadau gwarchäeol, ac yn debyg o wneuthur ì'hywbeth pender- fynol ar fyrder. Yr oedd y Rwssiaid wedi gwneuthur rhuthrgyrch ffyrnig j-n agos i Dvvr Malakoff ar noson y 15ed o Orphenaf; ond gorfu iddynt encilio gan ddwyn gyda hwynt lawer wedi eu lladd a'u clwyfo.—Yn y Llychlyn (Baltic Sea), mae ein llynges yn gwneyd llawer o aflonyddwch i'r Rwssiaid ar yr arfordiroedd, ac wedi dinystrio H'iaws o'u hamddiffynfeydd, a chymeryd llawer o'u llongau.—Y mae gair ar led fod iechyd Alex- ander, ymherawdwr presennol Rwssia, mewu cyfiwr peryglus, ac mai dwys yw yr ofnau yn ei gylch yn St. Petersburgh. fcupwÿn. Telegraph o'r America i Ewrop.—Mae y bwriad o wneyd telegraph trydanawl tanfbrawl yn awr yn debyg o gael ei gyflawni. Mae cymdeithas o ddyn- ion cyfoethog bob ochr i'r Atlantic yn debyg o ym- aflyd yn y gorchwyl. Dysgwylir y bydd yn barod i drosglwyddo newyddion o'r naill gyiandir i'r llall erbyn y flwyddyn 1858. Yn ol y cynllun mewn bwriad, gesyä y cwmni Ewropëaidd y gwyfrauilawr o ororau Iwerddon i Newfoundlaud, o bale y cymer y cwmni Americaidd y gorchwyl hyd ddinas New York. Bydd y llinell a groesa yr Atlantic yn 1,750 milldir o hyd, a'r rhan Americaidd yn 1,200; yn gwneyd yn y cwbl yn agos i t,000milldir. Dywedir fod gwastadedd t|srodlyd yn cyrhaedd o Newfound- land hyd o fewn dau can' milldir i orllewinbarth Iwerddon. I'r basle hwn y suddir y llinell. Mae y rhaflf i gynnwys sypyn o chwe' gwyfryn telegrapb- aidd, a phwysa wyth tunnell y filldir. Pau y suddir y rhaffunwaith, dysgwyhr iddi aros byth yn eille. Mae llywodraeth Lloegr eisoes wedi gosod lliuell o wyfr o Balaklava i Varna, o'r hon y mae 350 mill- dir o dan ddwfr. Mae y byd yn brysio i ddyfod yn un teulu—os nad ar yr un ael wyd— o fewn cyrhaedd siarad â'ugüydd.—Y Cyfaill orHen Wlad. Seinliau y dyddiau diweddaf.—Mne Brigham Young, y blaenor Mormoniaidd, yn adeiladu dau dÅ· mawr a godidog yn ymyl yr hwn y mae yn anneddu yn awr, yn ninas Llyn yr Halen,i gael lle i'w deulu cynnyddol. Y mae yn awr yn llawenychu yn y meddiant o hanner cant i driugain o wragedd, ac o ddeugain i hanner cant o blant. Y mae gan yr Henuriad Emball, uu o'r apostolion Mormoniaidd, rhwng triugain adeg a thriugain o wragedd. -Yrun. Syr Satnnel Morton Peto.—Sicrheir fod yr uchel- wr rhagorol hwn yn cyfranu cymaint â phymtheng mil ar hugain o bunnoédd bob bìwyddyn at achosion da, ac yn enwedig at adeiladn capelau newyddion! Gwyn fyd na byddai pobl arianog yn gyfl'redin yn debyg iddo! Agoriad i'r Efengyl yn Spaen.—D&u. foneddwr, un o honynt yn Spaeniad o enedigaeth, a'r llall yn farsiandwr Seisonig yn Lloegr, a alwasant ychydig amser yn ol gyda boneddwr perthynol i dÅ· mas- nachol enwog yn Llundain. Dywedasant fod yn awr yn Spaen fwy o ryddid nag a geir yn Ffrainc ; y gallent ledanu y llyfiau a fynent ar faterion cref- yddol; nid yn unig llyfrau Seisonig, neu lyfrau argrafledig yn Lloegr, ond llyfrau cyhoeddedig yn Spaen. Mae y boneddwyr hyn yn bwriadu e-ymerÅ·d gyda hwy argraffweisg, a phob peth anghenrheidiol at argraffu, ar eu dychweliad i Spaen, tuag at argraffu Biblau a Thestameutau, i'w lledanu trwy yr holl deyrnas.—The Bock.