Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehif. CIV.] AWST, 1855. [Llyfr IX. ŵn^ttinìtau rt #njtffetljruL Y RHYFEL. PBEGETH A DEADDODWTD GAN Y PaECH. DaVID EûWAEDS, BBYNJtfAWB, MyNWT. "Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd ; pa anghyfannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear. Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear: efe a ddryllia y bwa, ae a dỳr y waewffon, efe a lysg y cerbydau â thân. Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi. sydd Dduw: dyrchefir fì ymysg y cenedloedd, dyrchefir fì ar y ddaear. Y mae Arglwydd y lìuoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob." Psalm xlvi. 8—11. Tybia rhai mai Dafydd a gyfansodd- odd y Salm hon mewn canlyniad i rai o'r buddugoliaetb.au rhyfeddol a gaf- odd ar ei elynion ; ond y dyb gyffredin ydyw mai rhywun a'i cÿfansoddodd wedi dinystr llu Senacherib. Geilw rhai hi yn Salm Luther, am y dywedir fod y diwygiwr enwog hwnw yn arfer ei chanu pan yn cyfarfod â phrofedig- aethau mawrion. Mae y Salm hon wedi bod yn foddion i weini cysur sylweddol i saint Duw ymhob oes a gwlad. Mae y Salmydd yn dadgan ei hyder yn Nuw, gan orfoleddu yn ei iachawdwriaeth ef; ac yn y testun geilw bawb, ond yn enwedigol yr eg- lwys, i weled, sef i ystyried, a myfyrio ar weithredoedd yr Arglwydd. Dylai pawb grafiu yn fanwl ar waith Duw, a myfyrio yn barhâus ar yr amlygiadau sydd o'i berfíèithiau yn ei holl weith- redoedd; ac y mae pobl yr Arglwydd yn hoffi gwneyd felly. Syllai Dafydd ar waith Duw yn creu haul a Uoer, a gwnai gasgliad priodol iddo ei hun, ac addysgiadol i bawb, oddiwrth yr amlygiadau sydd o Dduw yn y gread- igaeth. " Pan edrychwyf ar y nefoedd gwaith dy fysedd," &c. Mae digon o wersi newyddion i hi i'w dysgu tra fyddwn byw allan o hen lyfr y greadig- aeth; ond mae llyfr rhagluniaeth yn dyfod allan yn rhifynau dyddorol, y rhai Cyfres Newydd. a ddosbarthh i ni mewn bendithion newydd yn wastadol. "Bob boreu y deuant o'r newydd." Mae yn ddirmyg mawr ar Dduw i ni beidio edrych ar oruchwyliaethau ei ragluniaeth, ac ad- nabod ei law ynddynt. Geilw y Salmydd ni yma i weled gweithredoedd yr Arglwydd mewn trugaredd a barn, rhyfel a heddwch, y rhai a briodolir ganddo ef i Dduw. "Pa anghyfannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear," sef anghyfannedd-dra rhy- fel, a phâr "i ryfeloedd beidio hyd eith- af y ddaear." Pan gyfansoddodd yr awdwr y Salm hon, ymddengys fod y wlad wedi cael gorphwysdra a hedd- wch wedi terfysgoedd a rhyfeloedd; a chanfyddai y Salmydd law Duw yn y cwbl. Mae yn amlwg mai nid yn yr un ystyr y priodolir rhyfel a heddwch i Dduw. Mae pob daioni tymmorol yn deilliaw o natur rasol y Jehofah. Efe yw yr achos gwreiddiol a chynhyrfìol o hedd- wch gwladol. "Pob rhoddiad daionus a phob rhodd berflaith, •ddiuchod y mae; yn dyfod oddiwrtíi Dad y goleu- ni." Mae drygau tymmorol yn cael eu hanfon a'u goddef gan Dduw i ddyben- ion ceryddol a barnol. Mae yr achos gwreiddiol a chynhyrfiol o honynt yn nghalonau dynion eu hunain. Nid yw Duw yn peri i ddynion gyflawni trais