Skip to main content

Y DRYSORFA. Bhif. CIL] MEHEFIN, 1855. [LltfbIX. ŵtrfjîẁtît ii ẅJjBÍría^tlraE. YR IAWN. Pregeth a draddodwyd yn Nghyhdeithasfa Llangeitho, Awst 9fed, 1850, GAN Y DIWEDDAR BARCH. MORGAN HOWELLS. " A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith ; ac heb ollwng gwaed nid oes niaddeuant." Hebreaid ix. 22. "A chan niwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith," ac wrth yr efengyl hefyd. Nid pob peth, heb eithriad, ond y rhan fwyaf. Yr oedd rhai pethau yn cael eu puro trwy ddwfr, a phethau eraill trwy dân ; ond pob peth ag oedd yn dwyn perthynas â maddeuant pechodau, trwy waed yr oedd eu puro. Yr esboniad goreu a welais i ar adnod y testun sydd yn Lefiticus xvii. 11: "O herwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a'i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod dros eich heneidiau; o her- wydd y gwaed hwn a wna gymmod dros yr enaid." Yr oedd yn rhaid cael byw- yd, am ein bod ni wedi colli ein bywyd. Ni thalai gwaed yr enwaediad na pheth- au fel hyny ddim, heb gael bywyd. Ac yr oedd dyoddefìadau Crist yn cael eu galw yn waed y groes, am ei fod wedi rhoddi ei einioes i lawr. "Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." "O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed. Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymynion yn ol y gyfraith wrth :yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlan porphor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr a'r bobl oll, gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchymynodd Duw i chwi. Y tabernacl hefyä a holl lestri y gwas- ŵnaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd. A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heo Cyfees Newydp. ollwng gwaed nid oes maddeuant." Yr oedd yn rhaid gollwng gwaed, neu nid oedd maddeuant. Nid yn unig am fod hyny yn ordeiniad y cyfammod, ond yr oedd rhywbeth o flaen hyny. Nid all- asai Duw faddeu mewn modd gweddus iddo ei hun heb iawn. Mae yr Unitariaid yn dywedyd y gallasai Duw faddeu heb iawn. Mae nhw yn ymresymwyr da, a dyweyd y gwir; ond nid siarad am allu Duw fel Duw Hollalluog yr ydym ni yn awr. Fe allasai o ran gallu achub cythreul- iaid uffern ; ond ni wna ei allu ddim yn groes i'w ewyllys, ei ogoniant, a'i briod- oliaethau. Mae yn f wy peth fod gogon- iant Duw dan gwmwl am fynyd, na bod yr holl fyd yn uffern dros byth. Edrych ar ochr dyn o hyd y mae yr Unitariaid. Pam nad edrychent nhw ar ochi' Duw weithiau ? Os oedd yn bosibl i Dduw faddeu heb iawn, mae cosbedigaeth dra- gywyddol am bechod yn anghyfiawn. Os oedd yn bosibl i Dduw faddeu heb iawn, yna creulondeb yn y Duw mawr oedd dryllio ei Fab, ac nid gras. Yr oedd yn rhaid i Dduw gael iawn. Ni a allwn weled hyny yn ngweddi Mab Duw yn yr ardd: " Os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio." Dyna yw yr idea yno, dybygwn i, fod yn anmnosibl iddo fyned heibio heb ei yfed i'r gwaelod. Yr oedd- ech chwi a finnau wedi llenwi y cwpan, ac yr oedd yn rhaid i Grist ei yfea i'r gwaelod, neu i'r pechadur ei yfed dros