Skip to main content

Y DRYSOBFA. Ehif. 01.] MAI, 1855. [Llyfr IX. ^pgrató. MR. ROBERT ELLIS, TY MAWR, CWMPENANER, SIR FEIRIONYDD. Dysgwyliodd yr ysgrifenydd y buasai rhywun mwy galluog nag efe, cyn hyn, wedi ymgymeryd â'r gorehwyl o gryn- höi ychydig o hanes yr hen frawd hy- nod, Robert Ellis, Tŷ mawr. Ond gan na wnaeth neb hyd yma, nid oes ganddo, ar ddymuniad lliaws o gyfeillion, ond crynhöi ychydig o adgofion anmher- ffaith, a'u hanfon i'r Drysobfa ; o her- wydd byddai yn anghyfiawnder gadael i enw gŵr o nodweddiad gwrthddrych ein cofiant fyned i ebargofiant. Mae Golygydd y Drysorfa yn gwybod, oddi- ar adnabyddiaeth bersonol o hóno, mai nid un anghyhoedd neu anenwog oedd R. Ellis ; ac mae yn ddilys genym nad oes odid bregethwr, yn enwedig o'r hen rai, o'r Deau na'r Gogledd, sydd yn perthyn i'n cyfundeb, heb fod yn ei adnabod, ac heb dderbyn rhy w gymaint o garedigrwydd oddiar ei law. 0 her- wydd hyny, meddyliwn, mai nid anner- byniol gan y wlad fyddai cael ychydig o'i hanes. Ei rieni oeddynt Robert a Lowry Ellis, o'r Hendre du, yn agos i'r Bala. Gan- wyd iddynt chwech o feibion ac un ferch. Ganwyd R. E. yn y flwyddyn 1769. Yr oedd ei rieni mewn amgylch- iadau cysurus, ac yn ddichlynaidd eu moesau rhagor llawer yn y dyddiau hyny. Ond er hyny, treuliodd Robert Ellis yr un mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes "yn ol helynt y byd hwn, yn ol tywysog llywodraeth yr awyr." Ac nid colled fechan i deyrnas y diafol oedd colli y fath xm. Yr oedd, nid yn unig yn un flỳddlawn o ran ewyllys, ond hefyd yn un galluog o ran corff a medd- wl i fod yn offeryn addas i gynnal ei deyrnas. Y cynneddfau, y rhai yr oedd wedi ei gynnysgaeddu C\ hwy, wedi eu Cyfres Newydd. sancteiddio, a fuont yn wasanaethgar iawn i achos y Cyfryngwr. Nid oedd ynddo yn ei ieuenctyd un tuedd i gyrchu i foddion gras i unman ; ond treuliai ei Sabbothau trwy gyrchu i'r tafarndai, Ue y cyfarfyddai â'r rhai o'r un tuedd ag ef ei hun, ac yno yr arosai yn aml hyd y bore. Ond mae yn dda genym allu troi i roddi hanes mwy cysurus am dymmor maith gweddill ei oes. Rhyfedd yw dyfnder a dirgelwch arfaeth Jehofah, a rhyfedd yw troion rhagluniaeth yn dir- wyn amcanion yr arfaeth i ben ! Pan oedd Robert Ellis tuag un ar hugain oed, gwelodd yr Arglwydd yn dda anfon un o'i genadau, sef y frech wèn, i'r teulu, a bu farw ei unig chwaer o hóni yn bur ddisymwth. Effeithiodd ei marwolaeth gymaint ar Robert nes yr oedd yn methu bwyta na chysgu am lawer o ddyddiau. Y canlyniad a fu iddo ben- derfynu newid ei ddiúl o fy w ; ac aeth am y tro cyntaf i gapel yr Annibynwyr, o herwydd yr oedd ei frawd henaf, sef y Pai-ch. Thomas Ellis, o Langwm wedi hyny, yn aelod, os nid yn bregethwr, gyda yr Annibynwyr ar y pryd. Ni wyddai Robert Ellis ddim gwahaniaeth rhwng neb o'r enwadau crefyddol; ond y modd y darfu iddo roddi pender- fyniad i'w feddwl at ba enwad i fyned ac i aros, ydoedd,—mai y Methodistiaid Calfinaidd oedd y bobl gasaf ganddo ef gynt, ac oddiwrth hyny meddyliodd yn ei gaíon mai pobl yr Arglwydd oeddynt; ac oddiar y meddwl hyny, aeth i hên gapel Methodistaidd y Baía ar y Sab- both canlynol. Yr oedd yn anadna- byddus bron i bawb ag oedd yn y capel, er ei fod yn byw yn agos iawn i'r Bala, canys nid oedd efe a'i fath yn ymgyfeiHp