Skip to main content

=Ŵ Y DRYSOEFA. Ehif. xcvin.] CHWEFROR, 1855. [Llyfr IX. ŵartjnte u ŵjẅrfjratt. CYNHYRFLADAU CREFYDDOL. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN. Yr addewid fawr a roddwyd ar y cyntaf fel ffrwyth o farwolaeth ein Harglwydd Iesu oedd tywalltiad o'r Ysbryd Glân. Fe elwir hon yn "addewid y Tad." Ond Duw, yr hwn sy'n gwneyd pob peth er ei glod, a gadwodd rnewn mesur mawr yr addewid hon heb ei thywallt ar yr Iudd- ewon, ac a'i hesgeulusodd hyd oni fydd- ai i Iachawdwr y byd farw, ei gladdu, ei gyfodi, ac esgyn o hono i'r nef; ac yna, efe a'i rhoddodd i lawr mewn eyflawrider annhraethol, fel y ffrwyth cyntaf o farwolaeth Iesu, pen Apostol a pherffeithydd ein ffydd. Ond, yn y cyfamser, dros fwy na phedair mil o flynyddau, pa sawl peth a osododd yr Arglwydd i fyny i gyf- lawni y diffyg o'r addewid hon ?—pro- phwydoliaethau, cysgodau, seremonîau, cyfreithiau, esiamplau—oll fel moddion i ddyrchafu ysbrydoedd yr Eglwys luddewig, i ryfeddu,.i garu, i ganmawl, i ufuddhâu i Dduw, ac i ddadguddio dyfnderoedd ei ras a'i gariad yn yr iach- awdwriaethyn Nghrist. Dyma foddion allanol a ordeiniwyd i gynhyrfu pob nwyd o'r enaid i fod yn fywiol yn ngwaith yr Arglwydd, ac i'w adnabod ef yn ei holl briodoliaethau: rhai pethau i ennyn cariad, rhai pethau ofn; rhai pethau at ddangos ei allu, rhai ei ddoeth- ineb ; ond oll fel moddion i'w harferyd Ea yr amser ag yr oedd addewid y Tad eb ei rhoddi i osod allan gyflawnder ei ras at bechaduriäid dan yr efengyl. Oni buasai fod yr holl gysgodau o bethau i ddyfod, wedi eu gosod i fagu syndod, cariad, ac ofn duwiol yn yr addolwyr, buasai llawer llai o honynt .yn gwasanaethu. Paham ynte yr oedd Cyfees Newydd. raid aberthu cymaint o ddefaid ac ychen wrth gysegru y deml, nad ellid eu rhifo; ac ar y pasg, (2 Chron. xxx. 21,) pan roddodd y brenin Hezeciah saith mil o ddefaid, a mil o fustych, a'r tywys- ogion ddeg mil o ddefaid, a mil o fust- ych; ac eilwaith y pasg yn nyddiau Jo3Ìah, (2 Chron. xxxv.) yr hwn oedd lawer mwy, pan y lladdodd Josiah ei hunan ddeng mil ar hugain o ŵyn a mynod, a thair mil o eidionau ; a'r ty- wysogion chwech chant ar hugain o ddefaid, a thri chant o eidionau, ac eraill bum mil o ddefaid, a thri chant o eid- ionau ì Yr oedd hyn oll i ddyrchafu gogoniant Crist, y sylwedd mawr, ac i dynu llygaid y bobl ato, nes y tywelltid yr Ysbryd i'w ddadguddio ef yn well. Gorfoledd mawr oedd trwy holl Jeru- salem, wedi cael ei ennyn trwy olwg ar y fath rîaltwch, y fath nifer o ebyrth, y fath dorf o bobl, pob peth fel modd- ion i godi y bobl i lawenychu yn yr Arglwydd, hyd nes y deuai i ben addew- id y Tad. I ba däyben ynte yr oedd yr holl beroriaeth o amrywiol drefh a natur y pryd hyny, tafod a thant, organ a nabl, y cornet a'r udgyrn arian, o ba rai nad oedd dim llai na chwech ugain yn nyddiau Solomon, ac offeiriaid pwr- pasol i'w canu—ac nid oedd un aberth nad oedd canu trwy gydol yr holl amser —clychau oedd wrth odrau gwisgoedd yr archoffeiriad—cantorion a chantor- esau oedd mewn trefn yn seinio mawl i Dduw â thafod ac âg offer cerdd—i ba ddyben, meddaf, yr oedd hyn ? Yr oedd nid yn unig yn gysgod o hyfryd lais yr efengyl, ond hefyd yn foddion yn absenoldeb tywalltiad yr Ysbryd,