Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. XCVII.J IONAWE, 1855. [Llyfr IX. fetlmto n ŵjẅífymt* IAÜ CRIST YN ESMWYTH. PEEGETH GAN Y PARCH. WILLIAM GRIFFITHS, GOWER. Matthew xi. 30: " Fy iau sydd esmwyth, a'm baici. sydd ysgam." Y mae iau yn gyffredin yn iaith yr Ysgrythyrau yn arwyddo caethiwed, neu o leiaf awdurdod yn peri ymos- tyngiad ac ufudd-dod ;—" Gollwng y gorthrymedig yn rhyddion, a thori o honoch bob iau." Eithr y mae iau Crist i'r gwrthwyneb, yn cynnwys rhyddhâd o gaeth-wasanaeth pechod a chysyllt- iad â gwir ryddid. Eto y mae hon yn iau deimladwy, yn dwyn yr holl ddyn i ufudd-dod y gwirionedd. Fel yr iau ar y gwddf—ar war—yr hon sydd yn offeryn cario a gweithio, felly y mae iau Crist, sef ei orchymynion a'i lywodr- aeth, yn cysylltu ei bobl âg ef ei hun, ac â'i achos yn y byd, trwy roddi eu cyrff a'u heneidiau i Grist yn aberth byw, sanctaidd, a chymeradwy gan Dduw, yr hyn yw eu rhesymol wasan- aeth iddo ef. Y mae dau beth yn gwneuthur yr iau yn esmwyth, sef natur yr iau ynddi ei hun, a thymher y rhai sydd yn ei dwyn. Yr oedd iau y gyfraith seremoniol y fath nas gallasai y tadau a'r Israeliaid ei dwyn, oblegid ei phwys a'i manylrwydd, a'u tymher ddaearol ac anufudd hwythau i ymos- twng iddi. Y mae iau yr efengyl, er yn fwy ysbrydol, wedi ei gwneuthur yn esmwythach. " Fy iau sydd esmwyth." Y mae dyn yn grëadur anesmwyth ymhob man a phob peth, tra y mae ei war yn syth tu allan i iau Crist. Eto y mae yn caru esmwythder, ond yn methu ei gaeL Y aaae rhyw fath o esmwythder byr weithiau mewn pech- od, ond esmwythder diod gwsg ydyw, sydd yn cloi i fynu synwyrau yr enaid, ac yn magu rhagor o boen. " Esmwyth- dra y rhai anghall a'u lladd." Y mae Cypres Newtdd. dau fath o anesmwythder yn perthyn i ddynion, sef im yn y corff, a'r llall yn yr ysbryd. Y mae hefyd anesmwyth- der naturiol, ac anesmwythder moesol, yn perthyn i bob dyn fel y mae yn grëadur syrthiedig. Gallwn yn hawdd ddychymygu cyn y cwymp i bechod, fod y dyn yn berffaith esmwyth; dim poen na lludded yn cyffwrdd â'r dyn oddi allan, na gofid na blinder yn.ei ysbryd. Ónd bellach, "Dyn a aned i flinder fel yr eheda gwreichionen i fyny." Y mae y corff yn boenus trwy amryw a blin gystuddiau; yn flinedig trwy lafur caledwaith; yn cael ei glwyfo a'i ddryllio gan arfau rhyfel, ac yn och- ain yn ei glwyfau. Yr ysbryd oddi- fewn sydd o hyd yn fwy anesmwyth; cydwybod euog fel pryf yn cnoi ac yn poeni; amryw chwantau yn chwen- nychu ac yn terfysgu; gobaith a dy- muniad yn troi yn siomedigaeth; cyf- eillion yn troi yn gaseion; amser yn gwrthod sefyll nac aros mynydyn i gael cyrhaedd y gamp; pob cwpan â rhyw surni yn ei gwaelod, ac yn creu gofid ac anesmwythder i'r meddwl pryderus. Wele bellach grëadur poenus, digysur, yn llawn anesmwythder ! Pa beth a wneir iddo ? " Deuwch ataf fi bawb ac sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch," medd Iesu Grist j " canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn." Cawn sylwi ar natur yr iau, a'r es- mwythder sydd i'w fwynhâu ynddi L Ye Iaü. 1. Iau Crist yw ei air, trwy ba un y mae efe yn llywodraethu, yn dysgu, ac yn arwain ei bobl i wneuthur yr hyn