Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XCVL] RHAGFYR, 1854. [Llyfr VIIL ẅtójfnìtott û #4rftoi|ŵ. SAUL 0 TARSIS YN GWEDDIO. Sylwedd Phegbth a draddodwyd yn Nghymdeithasfa y Bala, Meheftn 13, 1850, GAN Y DIWEDDAR BARCH. EVAN JONES, CEI NEWYDD. Actau ix. 11: " Canys wele y mae yn gweddio." Mater y testun hwn ydyw, pechadur yn gweddîo. 0 ! nad ellid dyweyd hyn am bob dyn ymhob cynnulleidfa, "Wele y mae yn gweddîo !" Sylwn oddiwrth y geiriau, L Paham y mae dynion yn medru BYW HEB WEDDIO? II. Mai un o arwyddion cyntaf GWIR grefydd yn enaid dyn ydyw ei FOD YN GWEDDIO. III. Rhai nodiadau mewn perth- YNAS I WIR WEDDIO. I. Paham y mae dynion yn medrü BYW HEB WEDDIO 1 Mae pob duwiol yn gweddîo. Ni fedr fyw heb weddi'o. Ond y mae can- noedd yn ein gwlad yn medru byw yn dawel heb weddîo dim erioed. Paham ?— 1. Am nad ydynt yn ystyried eu per- ygl, nac yn teimlo eu hanghen. O'r fath anystyriaeth sydd yn ein gwlad! y fath ddideimladrwydd sydd yn ein cynnulleidf äoedd! Mae y bobl yn gy- ffredin megys rhai wedi ymgyfoethogi, ac heb arnynt eisieu dim, ac heb wybod eu bod mewn sefyllfa beryglus a thru- enus. Pe byddit ti, y dyn diweddi, yn teimlo dy anghen, ti a weddiit cyn myned aÚan o'r gynnulleidfa. Pe bait yn canfod dy berygL ti waeddit am drugaredd yn y fan. Ond mae y diafol yn dallu dy lygaid, ac yn tynu llen dros dy feddwl, ac yn medru cuddio dy ber- ygl o'r golwg; a thra byddo y llen heb ei thynu, byddi yn gallu bod yn dawel heb weddì'o o ddifrif. 2. Mae dynion yn byw heb weddîo, Cyfres Newydd. oherwydd balchder eu calonau. Ni fynant ymostwng ger bron Duw, na phlygu o flaen y Goruchaf. Un felly oedd Pharaoh. "Pwy yw yr Arglwydd fel y gwrandawn i ar ei lais î" Clyw- ais am un plentyn bach, yr hwn yr oedd ei fam wedi ei ddysgu i weddio yn ieuanc. Yr oedd John bach yn ar- fer gweddio hwyr a boreu am flynydd- au. O'r diwedd daeth John yn dipyn 0 ddyn yn ei olwg ei hunan, a chododd o'i wely ryw foreu heb fyned i wedd'io fel arferol. Deallodd ei fam hyny; galwodd arno, a gofynodd, "Paham nad ydwyt yn gweddio heddyw, John ?" Atebai John, " Yr ydwyf yn rhy fawr i weddio yn bresennol, 'mam." Dyna yr achos na byddai cannoedd yn gweddi'o eto; rhy fawr ydynt. Y tlawd hwn sydd yn llefain. 3. Mae llawer yn byw heb weddio, oherwydd fod ganddynt ddigon o gref- ydd yn eu golwg eu hunain. Maent wedi eu geni o rieni crefyddol; maent yn ddynion moesol a rhinweddol; yn well na llawer o'u cymydogion. Maent fel y Pharisead hwnw, yn barod i ddi- olch nad ydynt fel dynion eraill. Ond ni wyddant ddim am deimlad y Publi- can, " 0 Dduw, bydd drugarog wrthyf, bechadur." Felly yr oedd Saul o Tar- sis nes daeth y goleu. Yr oedd efe o had Abraham, o lwyth Benjamin, wedi enwaedu arno yr wythfed dydd, ac yn 01 y cyfiawnder oedd o'r ddeddf yn ddi- argyhoedd. Ond pan ddaeth y goleu i'w galon, aeth y crefyddwr mawr yma yn benaf o bechaduriaid, a'r grefydd il