Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XCIV.] HYDREF, 1854. [Llyfr VIII. SpgruM. MR. THOMAS OWEN, WYDDGRUG, GYDA BYR-GOFION AM EI DAD A'I DEÜLU. Rhaîí III. Yn haf y flwyddyn 1837, symudodd Thomas Owen, a'i deulu, o'r Adwy, i gadw tollborth yn Ngwern-y-mynydd, gerllaw yr Wyddgrug. Gwern-y-myn- ydd sydd bentref bychan, oddeutu mill- dir a banner o dref yr Wyddgrug, ar y ffbrdd i Ruthyn. Mae yno gapel bychan perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, lle y cedwir Ysgol Sabbothol, ac y preg- ethir bob Sabbath, ac y cynnelir cyfar- fodydd eglwysig yn achlysurol, mewn undeb âg eglwys y Methodistiaid yn yr Wyddgrug. Derbyniwyd Thomas Owen gan y cyfeillion yn Ngwern-y-mynydd, ac yn yr Wyddgrug, yn y modd mwyaf croesawgar ; ac yr oedd efe yn ebrwydd yn teimlo ei hun gartref yn eu mysg. Yr oedd yno laweroedd yn ei gofio fel pregethwr da a serchog ; a chan ei fod ef yn awr yn ymddangos wedi cael agos ei lwyr waredu o grafangau y prudd- glwyfi nid yn hir y buwyd cyn ei annog yn daer i ymaflyd eilwaith yn y gwaith o bregethu. Cafwyd ganddo bregethu, gyda yr ysgrifenydd, ar y Sabbath y 12fed o Dachwedd, 1837, yn Ngwern- y-mynydd y bore, ac yn yr Wyddgrug y nôs; ac yn bregethwr flỳddlawn y parhäodd o hyny allan. Cafodd dder- byniad rhwydd a chynhes gan Gyfarfod Misol Sir Fflint, a chan yr eglwysi a'r cynnulleidfäoedd yn y Sîr yn gyffred- inol. Yr oedd ei ysbryd yn ymddangos megys wedi cael bywyd o feirw. Wedi bod yn hir yn y dyfnder, ynghanol y môr, a'r dyfroedd jn ei amgylchynu hyd y r enaid, cafodd ei godi i fyny drachefh, "a gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef yr ail waith." Ün o'i gyfeillion yn Adwy'r Cyfres Newydd. clawdd, ei hen gartref, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am amryw o gofnodiadau yn hyn o fywgraffiad, a ddywed gyda golwg ar adferiad ein hen frawd i breg- ethu :—" Daeth y newydd i'r Adwy fel ar yr awel, fod Thomas Owen wedi ail gychwyn gyda y gwaith o bregethu. Adyna ysŵn oedd trwy y gymydogaeth, Pa bryd y daw Thomas Owen yma ? A phan y daeth, mae yn anhawdd des- grifìo y llawenydd oedd ymhob mynwes wrth ei weled yn dringo grisiau y pul- pud. Ei destun y bore Sabbath, yd- oedd, £ Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd ;' ac yn yr hwyr, 'Sef, bod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau.' Cyfarchai ei wrandawyr gyda serchogrwydd a difrif- oldeb. Gwaeddai, ; Fy mhobl i! fy hen gymydogion anwyl i i beth dybygwch chwi am Grist ì a dderbyniasoch chwi y cymmod 1 &c.' Ac yr oedd ei anerch- iadau serchog yn dryllio pob teimlad. Parhäodd yn boblogaidd yn yr Adwy hyd ddiwedd ei oes." Yr oedd mab a merch wedi eu geni iddo o'i ail wraig ; ac ymhen dwy flyn- edd a hauner wedi ei symudiad o'r Adwy, bu farw Anne ei ferch yn 14 mlwydd oed. Buasai yn afiach er ys blynyddoedd gan bydrni asgwrn y cefn. Yr oedd hi yn eneth grefyddol a serchus iawn ; ei phleser oedd darllen a dysgu allan y Bibl; a difyr fyddai yr ym- ddyddanion crefyddol rhwng ei thad a hithau. Dywedai unwaith, "Dyma i chwi beth rhyfedd, fy nhad: Iesu Grist yn dywedyd wrth ei ddysgyblion pan e e