Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. rhip. xcni.] MEDI, 1854. [Lltfr VIII. SpgrnM. MR. THOMAS OWEN, WYDDGRUG, GYDA BYR-GOPION AM EI DAD A'I DEULü. Rhan II. Dygwyd ymlaen hanes boreuol Tho- mas Owen yn ein rhifyn diweddaf hyd yr amser y dechreuodd ar y gwaith o bregethu. Yr oedd cymhelliadau cryf- ion ar ei feddwl i gynnyg ar y gorchwyl difrifol pan yr oedd tuag ugain oed, ac yr oedd y rhan fwyaf o'i gyfeillion a'i gydnabod yn dysgwyl ei weled yn cy- chwyn allan gyda'r gwaith. Un bore Sabbath, galwodd yr hen bregethwr parchus, Mr. John Evans, o'r Bala, am Thomas Owen, a John Peters, (o Draws- fynydd, cyn diwedd ei oes,) a dywedodd wrthynt, " Y mae yn rhaid i chwi, wŷr ieuainc, fyned yn fy lle heddyw, oher- wydd fy mod yn analiuog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad: ewch a dar- ìlenwch bob un bénnod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y bennod." Hwythau a aethant mewn ufudd-dod i'r henuriad anrhydeddus; ond er fod y ddau frawd ieuanc yn teimlo awydd am bregethu, nid hys- bysodd yr un o honynt ei deimladau i'r llall, ac felly ni wnaethant ddim ond darllen a gweddìo ar y Sabbath hwnw. Ond ymhen ychydig wythnosau ar ol hyny, ar annogaeth brodyr a chyfeill- ion, dechreuodd y naill a'r llall o hon- ynt ar y gwaith o bregethu. Pregeth- odd John Peters, am y tro cyntaf, yn y Bryniau golau, yn mhlwyf Llangower; a Thomas Owen a draddododd ei breg- 0th gyntaf yn nhŷ hen wraig o'r enw Siân Llwyd, yn Llanfor. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn anhawdd ìawn ei berswadio i bregethu yn ngha- pel y Bala, gan fod yno gynifer o "rai a Cyfres Newydd. dybid eu bod yn golofnau," ac yntau yn teimlo yn llwfr ac ofnus. Ond ryw Sabbath, pan yr oedd cyhoeddiad Mr. Charles i bregethu, efe a anfonodd at Thomas Owen am iddo fyned i dde- chre yr oedfa brydnawn; ac yntau a aeth ; ond wedi iddo weddîo, nid oedd yno yr un Mr. Charles i draddodi preg- eth; yr oedd efe wedi aros yn ôl o bwrpas, er mwyn i Thomas Owen breg- ethu; a'r hen frodyr a wnaethant i Thomas fyned ymlaen. Yr oedd efe yn yr adeg hon yn ngwres ei gariad cyntaf, ac yn ngrym bywiog- rwydd ieuenctyd; ac felly yr oedd yn pregethu yn zelog a chynhyrfiadol, a byddai yn gyffredin gyrchu mawr i wrandaw arno. Ond byddai ei deim- ladau yn dra gwahanol ar brydiau ; yr oedd llawer o rywbeth tebyg i arian byw yn ei gyfansoddiad, yr hyn a fyddai yn peri i'w feddwl ar amserau godi yn uwch neu ostwng yn îs nag efe ei hun. Weithiau, ceid cryn drafferth i'w gy- chwyn ymaith i'w gyhoeddiad Scb- bothol, gan fel y teimlai, gyda Jeremiah, " Ni fedraf ymadrodd, canys bachgen ydwyf fi." Ond byddai yr Arglwydd, yn ol ei arfer i'w weision, yn ei " nerthu o wendid," ac yn dangos yn brofiadol iddo mai llwybr ufudd-dod oedd llwybr y fendith. Gyda chryn ddigrifwch y bu yn adrodd wrthym ei focl ar un bore Sabbath yn pregethu yn Mhenbryn, yn awr Capel Celyn, ar y flbrdd o'r Bala i Ffestiniog, un o'r troeon cyntaf y bu yno. Yr oedd y tro hwn yn lled dy- wyll ar ei feddwl, a'r gwrandawyr yn ymddangos yn bur farwaidd. Wedi b b