Skip to main content

Y DRYSORFA. Ehdt. XCII.] AWST, 1854. [Llyfr VIII. ÜpgniM. MR. THOMAS OWEN, WYDDGRÜG, GYDA BYR-GOFION AM EI DAD A'I DEULU, Rhan I. Pwy bynag a ddarllenodd hanes bywyd y gwir enwog a hybarch Charles o'r Bala—a pha Gymro darllengar, neu pa Sais o duedd efengylaidd, sydd heb ei ddarllen ?—a ddarllenodd hefyd am ei gyd-drefwr gostyngedig a duwiol a weddiodd, mewn dull dysyml a gwres- og, am bymtheng mlynedd o estyniad oes i Mr. Charles, pan yr oedd ei fyw- yd mewn perygL mewn cyfeiriad at y pymtheng mlynedd o ychwanegiad dyddiau y brenin Hezeciah, a'r modd yr atebwyd y weddi hono yn llythyren- 61. Y gwedd'iwr hynod hwnw oedd Richard Owen, tad y diweddar bregeth- wr, Thomas Owen, o'r Wyddgrug. Richard Owen ydoedd fab i un Robert Owen, gôf, o Wytherin; bu ei dad a'i fam farw pan yr oedd efe, a chwaer iddo, yn ieuanc iawn; ac felly cafodd Richard ei fagu yn Mhencelli, gerllaw y Bala, gyda modryb iddo, chwaer ei dad. Rhwymwyd ef i ddysgu gwaith crydd ; ac wedi dyfod yn rhydd o'i brentisiaeth, aeth i weithio i Lanrwst, ac oddiyno sy- mudodd i Dreffynnon, ac oddiyno drach- efniNeston, yn Sir Gaerlleon, pale sydd am yr afon Dyfrdwy â thref Ffiint. Yr oedd efe y pryd hyn yn llanc ieuanc gwyllt, yn ymroddi yn anystyriol i bob gwagedd ac ynfydrwydd. Ond, pan nad oedd efe yn trugarhâu wrtho ei hun, yr Arglwydd daionus a drugarhäodd wrtho. Byddai y Wesleyaid yn arfer dyfod i bregethu i Neston, a thueddwyd Richard Owen i fyned i wrandaw arny nt. Er nad oedd yn deall ond ychydig iawn o'r iaith Saesoneg, yr oedd difrifwch a gwresogrwydd y pregethwyr yn denu Cyfres Newydd. ei sylw yn fawr, ac yr oedd eu dull plain ac agos o lefaru yn gwneyd mater a sylwedd^ eu pregethau yn hyddysg iddo. Cyflyrddodd y weinidogaeth â'i feddwl, a bu yn effeithiol i gyfnewid ei galon a'i fuchedd ; ac efe a ymunodd â'r Wesleyaid mewn cymdeithas eglwysig. Yn fuan meddyliodd ynddo ei hun, " Os wyf fi, sydd yn Sais mor fychan, yn cael cymaint o bleser wrth wrandaw yr efengyl yn Saesoneg, beth pe cawn glywed pregethu yn Gymraeg ? byddai hyny yn hyfrydwch ac adeiladaeth dros ben i mi." Ac oddiar hyny penderfyn- odd ddychwelyd i'r Bala, er mwyn cael gwrandaw yr efengyl yn ei iaith ei hun, yn yr hon ei ganed. Methodists y gelw- id y Wesleyaid gan y Saeson ; a chan ei fnd yn deall fod cynnulleidfa o Feth- odistiaid yn y Bala, yr oedd yn barnu mai yr un a'r unrhyw bobl oeddynt. Wedi ei ddyfod i'r Bala, y bregeth gyntaf a glywodd oedd gan Mr. William Evans, Fedw-arian, gerllaw y dref hono. Ymysg pethau eraill, dywedai y preg- ethwr, " Bobl! beth a ddaethai o honom oni buasai etholedigaeth gras ? Oni buasai fod Duw wedi meddwl a phen- derfynu achub lluoedd er tragywyddol- deb, ni buasai gadwedig un cnawd." Y oedd Richard Owen wedi ei ddysgu i ymwrthod â'r athrawiaeth o etholedig- aeth bersonol a diammodol; ac yr oedd clywed Methodist yn pregethu yr ath- rawiaeth hono yn peri iddo synu a thramgwyddo yn fawr. Daeth i ddeall yn fuan nad ydoedd Methodistiaid Cymru yn perthyn i'r un llwyth â Methodistiaid Lloegr ; ond fod y naill,