Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. XCL] GORPHENAF, 1854. [Llyfr VIII. tetl/nta a ẅjíBlriaBtta. DÜW YN CYFLAWNI EWYLLYS Y DUWIOL. Pbegeth a draddodwyd ar Psal. cxlv. 19. "Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant." Yn yr Hen Destament, mynych y go- sodir ofn yr Arglwydd yn ddynodiad am yr oll o grefy dd, ac fel y prif ddarluniad o wir grefyddwyr; ond yn y Testament Newydd, ffydd yw y dynodiad a arferir fynychaf. Yr oedd yr Arglwydd, dan yr hen oruchwyliaeth, yn rhoddi amlyg- iadau helaethach a chyflawnach o'r perffeithiau, neu y priodoliaethau, sydd yn perthyn iddo fel Llywodraethwr a Barnwr, ac felly yn galw yn uniongyrchol am ei ofni; eithr yn ngoruchwyliaeth yr efengyl, tra nad ydy w yn eu cuddio hwy, y mae yn dadguddio mwy o gynneddf- au Tad, y rhai sydd yn gwahodd ein hymddiried ynddo. Y gwir ydyw, fod ofn Duw a ffydd ynddo yn hanfodol i gyfansoddiad y creadur newydd ymhob oes. Yr oedd yr eglwysi apostolaidd yn rhodio yn ofn yr Arglwydd, yn gys- tal ag yn nyddanwch yr Ysbryd Glân; ac arddodir arnom yn bendant, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddisigl, ar fod genym ras i wasanaethu Duw wrth ei fodd gyda gwylder a pharchedig nfn. Nid meddwl yn frawychus am Dduw yw yr ofn hwn ; ond parch dwys yn yr enaid ato, oddiar gydnabyddiaeth ys- grythyrol a ffyddiog âg ef; a hynyyn gweithio mewn awyddfryd am ei ffafr, arswyd rhag ei anfoddlonrwydd, ymos- tyngiad i'w ewyllys, diragrithrwydd yn ei addoliad, ac ufudd-dod i'w orchy- mynion. Rhai yn ofni Duw fel hyn yw ei holl saint ef; a gwyn eu byd y rhai hyn oll, oblegid "yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a'i hofnant." Y mae efe yn sylwi yn rasol arnynt, yn eu har- wain, yn eu hamddiffyn, ac yn cyflawni eu holl raid; canys meddir yma, "Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant." Cyfres Newydd. Mewn adnodau blaenorol o'r Salm hon, mae y Salmydd yn darlunio y Goruchaf fel Duw rhagluniaeth, yn gof- alu am yr oll a grëodd. " Llygaid pob peth a ddysgwyliant wrthyt, ac yr wyt yn rhoddi iddynt eu by wyd yn ei bryd; gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw a'th ewyllys da." Ac yma darlun- ir ef fel Duw y gras, yn gofalu yr un modd am ei grëadigaeth newydd. Os ydyw yn ei ragluniaeth yn cyflenwi eisiau naturiol, llawer mwy y gwna efe yn nhrefn gras ddiwallu dymuniadau ysbrydol. Yr hwn sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant, ac i gywion y cig- fran pan lefont, efe a gofia, yn ddiau, am ei blant ei hun: ni chânt alw arno, a dysgwyl wrtho, yn ofer. "Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant; gwrendy hefyd eu llefain, ac a'u hachub hwynt." Edrychwn yn I. Beth yw yr ewyllys hwn a gyf- LAWNIR GAN DDUW ? Mae y mater hwn yn gofyn am fanyl- rwydd a phwyll; oherwydd yr ydym i gymeryd yr ymadroddion hyn mewn ystyr benodol a therfynol. Nid pob math o ewyllysiau pobl dduwiol a gyf- lawnir gan Dduw. Ac y mae yn dru- garedd fawr na chawn ni bob amser yr oll a ewyllysiem ; oherwydd gallwn ni ewyllysio yn ddrwg a phechadurus ; fel y bu Dafydd yn ewyllysio ymddial, nid yn unig ar Nabal, ond ar ei deulu diniwed ef. Ac ni chaiff pob ewyllys- iad da ychwaith ei gwblhâu. Ewyllys- iodd Dafydd adeiladu tŷ i'r Jehofah, yr hyn ni chaniatäwyd iddo, er ei gan- mawl gan Dduw am ei ddymuniad. Ewyllysiodd llawer o brophwydi a bren- inoedd weled y Messiah; ond ni chaws-