Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. XC.] MEHEFIN, 1854. [Llyfr VIII. frnBílíaìiau a ŵ^triaŵaii. DYN YN FAICH IDDO EI HUN. GAN Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM JAY. " Yr ydwyf yn faich. i mi fy hun." Job vn. 20. " Yr ydwyf yn faich i mi fy hun." Ië, ac hwyrach mai nid dyna y cwbl—fe aÙai dy fod yn faich i eraill hefyd. Ond ni a adawn hyna; ac a ymofyn- wn pa un a wyt ti yn faich i ti dy hun. Gallwn roddi yr achwyniad hwn yn ngenau pedwar dosbarth. Mae weithiau yn iaith y cystuddìedig. Dyna fel yr oedd yn gwynfaniad Job. Ai nyni sydd yn siarad am flinder ! Gallasai Job ddyweyd, Gwelwch ac edrychwch a fu erioed y fath ofid â'm gofid i! Darllenwch yr adroddiad efi'eithiol; aroswch ar yr holl ddy- gwyddiadau galarus a gydgyfarfyddas- ant âg ef; ac na ryfeddwch ei fod e/" yn dywedyd, Yr ydwyf yn faich i mi fy hun. Os nad allwn gymeradwyo grym eithaf ei achwyniad, nis gwyddom er hyny pa fodd i'w gondemnio. Mae Duw ei hun yn edrych heibio iddo, ac yn dal Job allan yn unig fel esiampl o amynedd. Nis gall pawb dyoddefwyr, mae yn wir, ddyweyd yn gywir yn ei eiriau ef, "Fy nialedd sydd drymach na'm hochenaid." Eto nid yw chwerw- der y galon yn adnabyddus ond iddi ei hun. Nis gall un dyn benderfynu pa faint yw gwasgfa meddwl dyn arall o dan ddyoddefaint; oherwydd gall y teimlad o gystudd fod yn llawer mwy nag y gallasem ni dybied oddiwrth y gradd o hono. Ond gall y cystuddiau fod yn fawrion ynddynt eu hunain, oddiwrth eu nifer, a'u mynychrwydd, a'u sydynrwydd, a'u natur. Ai dyma dy amgylchiad di ? Nac ymollwng i ddiamynedd na digalondid. Mae y Cyfres Newydp. cyfryw gystuddiau wedi bod yn rhag- flaenoriaid i gyfres o drugareddau; a dyffryn Achor a gaed yn ddrws gobaith. Pa gymaint yn y nefoedd, pa gymaint ar y ddaeär, sydd yn awr yn diolch i Dduw am eu profedigaethau ! Gŵyr efe pa fodd i waredu. Dywed, "0 Arglwydd, gorthrymwyd fi, esmwythâ arnaf." "Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a'th gynnal di." Y mae weithiau yn iaith y diwaith oCr diog. Nid oee neb yn mwynhâu càn lleied ar fywyd, ac yn fath feichiau iddynt eu hunain, â'r rhai hyny sydd heb ganddynt ddim i'w wneyd. Mae y cyfryw ddyn allan o reol a threfn Duw, ac yn gwrthwynebu ei amcan penodol, o ran y cynneddfau a roddodd iddo, ac o ran y sefyllfa ei rhoddes ynddo. Nid oes dim, gan hyny, yn cael ei addaw yn yr Ysgrythyr i'r diog. Edrychwch arno mewn cysylltiad âg unrhyw ym- drech—Pa anmhenderfyniad ! Pa oed- iad! Pa anmharodrwydd! Pa ddrwg- dyb ! "Medd y diog, Ymaellew allan; fe'm lleddir ynghanol yr heolydd." "Ffordd y diog sydd fel cae drain; ond fibrdd yr uniawn sydd wastad." Cy- merwch ef mewn cysylltiad âg ìechyd —Pa farweidd-dra yn nghylchrediad y gwaed! Pa mor ddiarchwaeth at fwyd! Pa iselder ysbrydoedd! Pa lwfrdra cyfansoddiad ! Cymerwch ef mewn cysylltiad â thymher amwynhâd—Pwy sydd anfoddog ac anynad % Pwy sydd yn teimlo chwennychiadau ofer a phlentynaidd ? Pwy sydd ry dyner 1 ddyoddef dim o galedi bywyd ? Pwy