Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MA-RWRESTB. 173 adref V Ei hateb hithau ydoedd, '' Derbyn- iad i'r tragywyddol lawenydd!" Ac felly y cafodd, oddeutu deg o'r gloch y noson hono —i aros yno byth. J. FOULKES. Lẁerpool. DYHÜDDIANT l'R PABCH. JOSEPH WILLIAMS, AB FABWOLAETH EI WRAIG. GAN FBAWD YN T WEINIDOGAETH. Pwt ddicbon ddarlunio fy syndod pan glywais Ymweled o angeu âg aunedd fy mrawd; Ac iddo oddiyno ddyfynu mun lednais I'r Salem ysbrydol, o niwl-A-o y cnawd? Fy natur ergrynai gan chwedl oedd mòr chwithig, Fy nghalon dafolai, ammheuai yn hir; Aijfwir mai mrawd Joseph ysperliwyd o'i oenig,— Ei hawddgar Elií'beth ? O genad! Ai gwir? Ai 'r brawd diniweidiaf, a'r cyd-was ffyddlonaf A welaf yn crymu gan lymed ei loes ? Mwynhai uchelwyliau Llynlleifiad yn benaf; Ond y Sulgwyn a drodd yn Sul duafei oes. Wrth gorífyn dienaid ei anwyl Eliz'beth Eisteddai 'n wylofus, ocbneidiai yn drist; Dysgyblai ei feddwl i gredu teyrnasa Tn uniawn trwy 'r cyfan, ei Arglwydd a'i Grist. Fy mrawd, dyro genad i natur arllwyso, Ei theimlad archollus mewn dagràu yn lli; Dod le i'th ddarfelydd i hoffus adlunio Ei ffurf, ei tbymherau, a'i mwyn eiriau hi. Ond cofia, os trom yw dy golled am daui, Mai Duw o'i drugaredd a"i rhoddodd cyhyd ; Ac Ef a'i cymerodd o frodir trueni I annedd tanguefedd a hawddfyd o hyd. Câdd nerth i obeithio yn ngbyfwng marwolaetb, A sylfaen ei gobaithoedd lawn mawr y gioes ; Ei meddwl a wleddai ar yr un athrawiaeth Fu iddi 'n gynnaliaeth trwy gydol ei hoes: Holl destyn ei hymffrost oedä Iesu ei hunan, O fewn eî gyfammod y gwnelai ei nỳth; Ac yn ei afaelion diangodd i Ganaan, O hüisawdd ammheuon ac ofnau am bŷth. Nid all nad yw hiraeth, fy mrawd, yn ymchwyddo, Fel tònau y mór o dan gawod o wynt, Nes ydyw dy fyuwes fel pe ar ymrwygo Wrth gofio 'r gymdeithas fwyuhëaist ti gynt. Ail breuddwyd yw 'th golled, prin gelli di gredu Na ddychwel d' anwylyd yn oì yna mwy, Y modd y dychwelai, pan elai i Gymru; Ond cofìo ei marw, ail egyr dy glwy. Ystlysau dy dŷ, o'r winwydden hawddgaraf Ddynoethwyd ;—mae 'r olwg yu bruddlwm a thlawd, Nid mam gu, ofalus ; nid plant têg, serchocaf, Wna le gwraiy i fynu ar aelwyd fy mrawd: Mae 'r tŷ lle gwarchodai mor dda 'n anghyfannedd, A'i chadair yn wag, o dan orchudd o ddu; Archolli ei feddwl wna olion ei bysedd Yn britho holl gelloedd yr annedd lle bu. Fy mrawd, sych dy lygaid, gwel yn y dystiolaeth Oleuni 'n ty wynu o angeu Oen Duw; Trwy angeu i eilfyd, ac anllygredigaeth, Cyfodir dy briod o'r beddrod i fyw : Heb lèn cewch gyd edrych ar Iesu 'n oesoesoedd, Ac uno 'n mheroriaeth angelion a saint, Mewn gwynfyd perffeithiaf yn anian y nefoedd, Heb bechod i'ch blino, na newyn na haint. Ar fryniau ciaer Gwynfa cewcb gydadolygu Yr yrfa drwy 'r ania), a deall yn rawn Ddybenion y troion fu yma 'n eich d'rysu; Ac yna addoli, o wyafyd yn Uawn: Ocheríaid ni chlywir, na deipryn ni w«lir, Ammheuaeth ni phrofir o fewn y " Wlad well;" Gan belydr Haul llachar y nef, llwyr ymlidir Y nos'yn oesoesoedd o'i bròydd yn bell. Y PABCH. LEWIS JONES, BALA, Nos Iau, y 29ain o Mawrth, bu ferw y Parcb. Lewis Jor.es, Llwyneinion, Bala, 46 mlwydd oed. Bu yn pregethu am yn agos i 27 mlyn- edd, ac yr oedd efe wedi ei ordeinio i holl waith y weirjidogaeth er ys yn agos i 16 mlynedd. Yr oedd efe, ar hyd ei oes, yn cael ei flino gan anhwyldeb poenus a gorletii- ol yr asthma, fel nas gallai, yn enwedig yn ei flynyddau olaf, bregethu nemawr gyda chys- ondeb o oediäon olynol, na llafurio ond yn dra anfynych allan o'i gylch cartrefol a chymydogaethol. Trôdd ei afiechyd o'r diw- edd yn enynfa yr ysgyfaint. Yr oedd yn ei ddyddiau diweddaf yn dyoddef cystudd ac yu wynebu ar angeu yn y mwynhâd helaeth o dangnefedd cristion, ac mewn modd teilwng o ŵr Duw. Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Y dydd Sadwrn canlyno], Ebrill y laf, claddwyd ei gorff, yn ol ei ddymuniad ei hun, yn y Llidiardeu, yn Waen y Bala. Cyn cychwyn y corff, gwedd'iodd y Parch. Thomas Eoberts, gweinidog yr Anni- bynwyr yn Llanuwchllyn. Pan yr oedd y claddedigaeth yn myned trwy y Bala, yr oedd holl fasnachdai y dref wedi eu cau, fel arwydd o'r parch cyfiredinol a dehd i goffad- wriaeth y trancedig. Wrth y bedd, gwein- yddodd y Parch. David Rowland, Lhdiardeu, a'r Parch. Robert Williams, Llanuwchllyn; a phregethodd y Parch. Lewis Edwards, M.Á., yn y capel, oddiar Ioan xvii. 24. Yr oedd Mr. Lewis Jones yn enedigol o blwyf Llanmihangel y Pennant, yn y parth gorllewinol o Sir Feirionydd. Daeth i'r Bala yn ŵr ieuanc i weithio fel llyfr-rwymydd, a buan yr aeth i fynwes eglwys enwog y dref hono, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu, wedi hyny, am dymmor yn Wrexham, yn ysgol y Parch. John Hughes, yn awr o Liver- pool, yr hon ysgol, yn wir, a wasanaethodd ei rhan yn dda fel ysgol meibion y prophwydi yn y dyddiau hynv. Dechreuodd ar ei yrfa fel pregethwr yn ddysyml a di-drwst; yi- oedd ei Iwybr gweinidogaethol, nid fel mellt y tar- anau, y rhai, am adeg fer eu harosiad, sydd yn cynhyrfu pawb ar unwaith, ond "fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy fwy hyd han- ner dydd." Nid oedd dysgyblion y dymher a'r hwyl yn dysgwyl dim da oddiwrtho ar ei darawiad allan, gan ei fod yn pregethu mewn dull araf a digyflro ; ond yr oédd y rhai oedd yn caru synwyr o flaen sŵn yn ei werthfawr- ogi, ac yn ei gefnogi. Ymhen ychydig flyn- yddau, yr oedd ei "gynnydd yn eglur i bawb;" addefid yn gyflredinol fod ganddo weinidogaeth âg arni argraff o wreiddiolder duwn naturiol, ac o eneiniad doniau ysbrydol; a daeth yn un o'r pregethwyr mwyaf cymer- adwy yn ei wlad. Yr oedd llawer o bethau yn ei ddull o bregethu yn dwyn cyffelyb- rwydd i'w hen gyfaill a'i gymydog, hanes bywyd yr hwn a gyhoeddwyd ganddo, sef y Parch. Richard Jones, Baía. Byddai, fel yntau, yn pregethu mewn ffordd ymddy- ddanol ac agos at ei wrandawyr, ac yn arddan- gos, ar brydiau, lawer iawn o ffraethineb ac arabedd, o'nd nid dim oedd yn anghydweddol â chysegredigaeth y pulpud. Ond yr oedd gan y ddau eu priodoliaethau neillduol idd- ynt eu hunain. Yr oedd Eichard Jones ar