Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. LXXXIX.] MAL 1854. [Llyfr VIII. ẅarfjpẁatt n #nlíáiiŵît. Y DYRFA WAREDOL GER BRON YR ORSEDDFAINC. GAN T PAECH. WlLLIAM Anderson, Cenadwr o'r Eglwts Bresbtteraidd UíîEDIG TN CALABAR. " Y rhai liyn yw y rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a'u cànasant hwy yn ngwaed yr Oen." Dad. vii. 14. Y fath fyd anial, tywyll, a digysur fyddai y byd hwn heb y Bibl! Oni b'ai y llyfr gwerthfawr hwn, byddem yn pechu heb faddeuant, yn dyoddef heb gysur, ac yn marw heb obaith! Ond, bendigedig fyddo Duw, y mae "bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni trwy yr efengyl." Y mae pelydrau o oleuni adfywiol wedi tywynu arnom o bell, o du hwnt i haul, lloer, a ser. Y mae y goleuni hwnw wedi ymlid y niwl a gysgodai angeu a'r bedd. Yn adlewyrchedig o lyfr dad- guddiad i enaid y credadyn, y mae yn ei fywiogi a'i gysuro mewn llawer am- gylchiad cyfyng mewn bywyd, yn gol- euo dyffryn tywyll marwolaeth, ac yn ei ddwyn i mewn o'r diwedd i ardal- oedd bythol ddydd. Y mae y gyfran hon (adn. 9—17) megys yn agor y pyrth nefol o'n blaen, ac yn galw arnom i ystyried gogoniant y Jerusalem Newydd. Gwahodda ni i esgyn i Fynydd Pisgah, a chymeryd golwg o'r wlad—y wlad dda odiaeth— sydd yn gorwedd tu draw i'r Iorddon- en. Y mae yn cyfleu i'n sylw y dyrfa fendigedig a gogoneddus o wŷr, gwrag- edd, a phlant prynedig, y rhai ydynt wedi cyfnewid peryglon yr anialwch am fwynderau paradwys—peryglon y dyfnder am y porthladd o orphwysdra diddiwedd—ymdrechion maes y frwydr am goronau ouddugoliaeth—a blinder- au pererindod am lawenydd cartref tragywyddol. Cyfres Newydd. Gadewch i ni am ychydig ymneillduo oddiwrth ofalon, blinderau, a phrofed- igaethau y ddaear, a dyrchafu ein my- fyrdodau at "Fynydd Sîon, y Jerusalem nefol," ac "at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd." 0 na chaem o leiaf gipolwg ar yr hyn a welodd y dysgybl anwyl, a chael ein dyddanu, ein hadfywio, a'n hadeiladu gan y geir- iau hyfryd a glywodd ! Nis gallwn feddwl am dyrfa dded- wydd a gogoneddus y rhai a waredwyd o blith. dynion, ond gyda theimladau o'r dyddordeb dwysaf. Oblegid beth oeddent unwaith ì Yr un fath yn hollol ag ydym ni yn awr—crëaduriaid yn meddu yr un tymherau, a theimladau, a gwendidau â ni ein hunain. Ac onid ydynt hwy yr hyn, trwy ras, yr ydym ninnau yn dysgwyl bod cyn hir? Ië, onid oes yno, yn y dyrfa fendigedig, lawer, y rhai pan oeddent ar y ddaear oeddent yn eithaf adnabyddus i ni? Onid oes yno rieni rhai o honom, y rhai a ddysgasant yn ein blynyddoedcl boreuaf y íîordd i anfarwoldeb ? Preg- ethwyr a draethasant i ni eiriau y by wy d tragy wyddol, dan hyawdledd pa rai y bu ein calonau yn fynych yn llosgi ynom ? Brodyr a chwiorydd a fuont yn chwareu gyda ni o gylch yr un aelwyd ì Plant oeddent ganwyll Hygad eu rhieni 1 Cyf- eillion anwyl i ni fel ein heneidiau ein hunain, "y ihai oedd felus genym gyd- gyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd ?" Gristion oedranus! gan ba