Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOEFA. Rhif. LXXXVIII.] EBRILL, 1854. [Llyfe VIII. toijjoto n ŵjíáiflẁîL GOBAITH. GAN Y PARCH. WILLIAM GRIFFITHS, GOWER. "Canys trwy obaith ein hiachâwyd. Eithr y gobaith a welir, nid jw obaith : oblegid y peth y niae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio ?" Y mab pob gobaith yn edrych ar ryw- beth anweledig. Edrych yn y blaen y mae at bethau heb fod rnewn meddiant, er y gall rhan o'r un pethau fod wedi eu meddiannu. Eto "y gobaith a welir nid yw obaith/'oblegid y mae pobpethu welir yn wyddfodol, ac felly mewn ystyr yn feddiannol. Y mae gobaith hefyd i'w wahaniaethu fel egwyddor ac fel gwrthddrych : nid yr un yw y ddau hyn er fod y naill yn aml yn cymeryd enw y llall. Dywedir am obaith wedi ei roddi i gadw yn y nefoedd i'r saint oedd ar y ddaear; a'r un pryd am obaith ynddynt hwy eu hunam : "Ac y mae pob un sydd ganddo y gobaith hwn yn- ddo ef, yn ei buro ei hun." Oddieithr i ni sylwi yn fanwl ar y gwahaniaeth rhwng y ddau hyn, ac eto y berthynas agos sydd rhyngddynt fel egwyddor fewnol yn yr enaid, â gwrthddrych allanol pertnynol i'r egwyddor hon i weithredu, nis gellir iawn ddeall beth a feddylir yn yr Ysgrythyrau wrth y gair gobaith. Mae gwahaniaeth mawr hefyd rhwng yr hyn a elwir yn " óbaìth dyn" o ran egwyddor, gwrthddrych, a gweithrediad, â'r hyn a elwir yn " obaith iachawdwriaeth" Y mae y naill yn perthyn i'r bywyd hwn, heb un sail sicr nac amlwg ganddo am gyrhaeddyd ei wrthddrych ; y mae y llall, er fod ei wrthddrych ymhellach oddiwrtho, yn sicr a diogel, megys angor yr enaid, yn myned hyd at y pethau sydd tu fewn i'r llen. Y mae gobaith y rhagrithiwr, er ei alw yn obaith, yn annheilwng o'r Cyfres Newydd. enw, oblegid y mae yn gwbl amddifad o'r elfenau sydd yn cynnyrchu gobaith. Y mae yn ddysgwyliad heb un sail, yr hyn nid yw well na gwallgofrwydd per- ffaith. Y mae math o sail gyflredinol i obaith dynol, am bethau daearol, oddi- ar helaethrwydd daioni Duw yn ei rag- luniaeth, er fod tywyllwch yn aros am fwynhâd personol o honynt; onà nid oes yr un sail i ragrithiwr obeithio am nefoedd a bywyd tragywyddol mwy nag sydd gan y diafol i obeithio hyny. Nid oes yma ddim perthynas âg eg- wyddor, na pherthynas âg addewid; ond y mae digon o dystiolaethau i'r gwrthwyneb. " Canys "meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaeth- ach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrn- as nefoedd." " Yn wir meddaf i chwi, yr ä'r publicanod a'r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi." Rhagrithwyr yw pawb sydd yn go- beithio myned i mewn i'r nefoedd, ac yn byw mewn pechod, pa un a fyddont grefyddol neu anghrefyddol. Nid oes ynddynt ddim o elfenau dechreuol go- baith. Nid yw yn gydweddol â synwyr cyffredin i obeithio medi y maes ni hauwyd, neu i gyrhaeddyd dinas neu wlad bell heb drafaelu un cam tuag yno. Am hyny gelwir y gobaith hwn yn "dŷ ypryfcopyn" rhywbeth wedi ei wëu o'i ymysgaroedd ei hun, ac yn hawdd ei ddyfetha. Ond ein hamcan yn yr ysgrif hon ydyw egluro gobaith y cristion yn ei