Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhif. LXXXVII.] MAWRTH, 1854. [Llyfr VIII. ẁtfjnta u (SfajiíiniuẅiHi. CYFLOG PECHOD, A DAWN DUW. Crtnodeb o Bregeth a draddodwyd tn Nolgellau, Bore Sabbath, Medi 23ain, 1827, GAN Y DIWEDDAR BARCH. MORGAN HOWELLS. Rhufeiniaid vi. 23 :—" Canys cyflog pechod yw niarwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol, trwy lesu Grist ein Harglwydd." Mae y geiriau yn daugos ein pechadur- usrwydd a'n colledigaeth wrth natur, a threfn Jehofah i'n hachub. " Cyflog pechod yw marwolaeth." Y gwaith yw pechod ; y gweithwyr yw pechaduriaid; y meistr yw Satan ; y gyfìog yw -marwolaeth; a'r barnwr yw Duw. "Dawn Duw yw by wyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Dyna y drefn i'n hachub. Yr hwn sydd yn cyfranu yw Duw ; y dull yw yn rhâd-— "dawn;" y peth a roddir yw bywyd; ansawdd neu barhâd y bywyd yw tra- gywyddol; y cyfrwng neu y channel yw " trwy Iesu Grist cin Harglwydd." Y rhai sydd yn cael eu bywyd, ni a welwn, yw y rhai sydd yn haeddu marw. Yr ydym yn gweled yn y geiriau ddyled Duw i'r ddau Adda. Y ddyled i'r Adda cyntaf yw marwolaeth, a'r ddyled i'r ail Adda yw bywyd. Dawn, ja. wir, yw y bywyd i ni; ond dyled ydyw i Grist. Mae holl ymddygiad Duw yn nhrefn y cadw tuag at bech- adur o ras; ond y mae holl ymddygiad y Personau Dwyfol tuag at eu gilydd o rwymau a chyfiawnder. Nid oedd dim rhwymau ar y Mab i gymeryd arno achos pechadur yn nhragywyddoldeb ; ond wedi iddo ymrwymo yno, yr oedd dyled arno i ymddangos yn y cnawd, ac i ddyoddef a marw drosom. Ond Efe a dalodd y ddyled hono; ac yn awr Cyfres Newydd. mae y Tad yn nyled y Mab o fyv.ryd i bawb a gredant ynddo. Mae y testun yn dangos fod colledig- aeth o íiaeddiant, ac iachawdwriaeth o râs. Mae y geiriau yn gwasgaru cym- ylau. Mae llawer wedi bod yn ceisio taflu eu holl drueni i ddrws arfaeth Duw, ac wedi taeru mai gwrthodedig- aeth Duw yw yr achos o golledigaetn dyn. Nage, nid felly ; mae trueni dyn, nid yn ffrwyth arfaeth Duw, ond yn gyflog pechod. Mae eraill wedi ceisio dywedyd y byddai yn anghyfiawnder cosbi dyn yn uffern bj'th am bechodau oes fer. Ond nid yw uffern dragy- wyddol ond cyýog cyfiawn pechod. Pechod. Pechod yw yr achos o bob anghysur sydd yn cyfarfod â dynion, yn allanol ac yn dufewnol, yn naturiol ac yn ysbrydol, yn dymmorol ac yn dragywyddol. Pechod a drôdd Adda o Baradwys, ac a drôdd Baradwys yn anialwch. Pechod a wnaeth fôdd i gorff, ac uffern i enaid. Pechod fu yr achos o foddi y byd. Fe foddwyd j byd y tro cyntaf o herwydd poethder chwant; ac fe losgir y byd yn y diwedd o herwydd oerder cariad. Pechod oedd yr achos o losgi Sodoma a Gomorrah. Yr oedd y tân y pryd hwnw yn myned yn groes i'w elfen; yr oedd yn disgyn i lawr yn lle esgyn i fyny. Pechod oedd yr acnos i'r ddaear agor ei safn, a llyncu Corah, Dathan, ac Abiram yn fyw i