Skip to main content

Y DRYSOífcFA. Rhif. LXXXV.] IONAWIl, 1354. [Llyfr VIII. ẁítlmta fl ŵ^riŵttttoni. ARAETH A DRADDODWYD YN NGHYFARFOD JUBILI Y FIBL GYMDEITHAS YN ABERGWAUN, Hydrbp 12fed, 1S53, GAN Y PARCH. DAYID MEYLER. Er fod yr enw "Bibl Gymdeitlias" 3*11 bur hysoys yn y wlad, eto y mae achos i ofni nad yw llawer yn gwybod dim ychwaneg am dani na'i henw. Y gor- chwyl a rodd.vyd i mi heno ydyw rhoddi ychydig o banes ei dechreuad, ei chynnydd, a'i gwaith. Er nad preg- ethu ydyw fy ngorchwyl, eto mae yn anghenrheidiol rhanu y mater yn bed- war dosbarth:— 1. Agwedd ein gwlad ni, y Cymry, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, yr hyn a fu yn acnlysur i gychwyn y Gym- deithas. 2. Ffurfiad y Gymdeithas, a pha fodd y cymerodd hyny le. 3. Ei llafur a'i llwyddiant yn y naw mlynedd a deugain o'i bodoliad. 4. Y gwaith mawr sydd eto o'i blaen. I. Agwedd Oymru yn y ganrif flaen- OROL. Heb son yn bresennol am y dull y cafwyd yr Ysgrythyrau gyntaf, yn ngwahanol oesoedd y byd, yr oedd y Canon Sanctaidd wedi ei orphen a'i gau i fynu rywfaint cyn pen y can' mlynedd wedi esgyniad y Gwaredwr i'r nefoedd. Ond yr oedd yn llyfr sel- iedig mewnieithoedd dyeithr i'r cyffred- inolrwydd o'r Cymry. Bu ein gwlad ni am oesoedd lawer heb un Bibl Cym- raeg; eto y mae rhai dynion dysgedig wedi bod yn barnu ar amryw gyfrifon fod y Bibl wedi ei gyfieithu i'r iaith Gym- raeg yn lled fore, ond ei fod wedi ei lwyr golli yn oesoedd tywyll Pabyddiaeth, fel nad oedd un scrip o hono ar gael heb ei adgyfieithu. Y mae Dr. Richard Davies, Cyfues Newydd. Esgob Menyw (Tŷ ddewi), yn ei lythyr rhagddodawl i Destament ÍSalisbury, jn ysgrifenu fel y canlyn :—" Yn lle gwir, ni ffynnodd cennifì irioet gael s welet y Bibl yn Gymraeg: eithr pan oeddwn fachgen, cof yw gcnnyf welet pump Llyfr Moysen yn Gymraeg, o fewn tu y ewythyr ym oedd wr dyscedic : ond nid ydoedd neb yn ystyr y llyfr nac yn prisio arno. Peth amheus ydyw (i'r a wnn i) a ellit gwelet yn oll Cymry un hen Fibl yn Gymraeg i'r penn golled- wyt ac y speliwyt y Cymru o'i oll lyfray," &c. Yn y fl. 1567, y gwelodd ein hen deid- iau yr olwg g}Titaf ar y Testament Newydd yn yr iaith Gymraeg, wedi ei gyfìeithu gan AYilliam Salisbury, o'r Cae du, yn mhlwyf Llansannan, Sir Ddinbych. Buasai hwnw yn anneall- us iawn i'r werin yn y dyddiau hyn, ond yr oedd yn drugaredd werthfawr i'r oes hono. Ymhen tuag 20 mlynedd, sef yn y flwyddyn 1588, y cafwyd yr holl Fibl yn yr iaith Gymraeg, wedi ei gyfieithu gan Dr. William Morgan, Ficer Llanrhaiadr ŵlochnant. Yr oedd wedi ei argraffu mewn Uythyrenau du- on, ac yn anhawdd i'r cyö'redin ei dde- all a'i ddarllen. Nid oedd ond ychydig nifer wedi eu hargraffu. Mae yn sicr nad argraffwyd mwy, os cynifer, ag oedd o egìwysi plwyfol yn y dalaeth, sef 800, y pryd hyny. Ýmhen tua 30 o flynyddoedd, yr oedd anghen am Fiblau drachefn yn yr eglwj^sydd. Yr oedd llawer o Fiblau Dr. Morgan wedi